Cylchlythyr Chwefror

Sesiwn rhif 94 y CU ar Hawliau Dynol

Y mis yma aeth Rocio i’r cyfarfod cyn sesiwn rhif 94 ym Mhwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Ngenefa, y Swistir. Mae’r cyfarfod cyn y sesiwn yn gyfle i amddiffynwyr hawliau dynol plant, fel comisiynwyr plant a sefydliadau cymdeithas sifil, gwrdd â phwyllgor y CU i drafod sefyllfa hawliau plant yn y Deyrnas Unedig. Soniodd Rocio am effaith yr argyfwng costau byw a sut mae gwahaniaethu yn eu herbyn yn effeithio ar blant yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am y materion a godwyd gyda’r Pwyllgor i’w darllen yn yr adroddiad yma.

Bu pobl ifanc o Gymru hefyd yn y cyfarfod cyn y sesiwn, yn ogystal ag mewn cyfarfod ar wahân i blant, lle buon nhw’n sôn yn angerddol am eu profiadau o dlodi a gwahaniaethu yn eu herbyn. Dyma un dyfyniad gan berson ifanc o Gymru “Yn y dref lle rydw i’n byw, mae 1 o bob 3 pherson yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd. Yn hytrach nag edrych ymlaen at fy nyfodol fy hun a dyfodol Cymru, rwy’n ofni beth sydd i ddod, ac nid dyna sut dylai pethau fod i fi fel person ifanc.”

 Aelodau o’r Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc yn cwrdd â’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Y mis yma, fe wnaeth dau o aelodau ein panel ymgynghorol pobl ifanc gwrdd â Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, i gael trafodaeth. Fe ddywedon nhw wrthi hi am eu gwaith ar brosiect Rhwydwaith Ymgynghorwyr Ifanc Ewrop (ENYA) y llynedd, ar y thema ‘Let’s Talk Young. Let’s Talk Climate Justice’, lle cawson nhw eu hethol gan eu cymheiriaid ar y prosiect i gynrychioli Cymru mewn fforwm ryngwladol yng Ngwlad y Basg. Datblygodd y bobl ifanc argymhellion polisi fel rhan o’r prosiect yma, a’u rhannu gyda’r Gweinidog. Yn gyfnewid, fe ddysgon nhw am rai o’r camau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i daclo’r newid yn yr hinsawdd, ac fe wnaethon nhw ddarganfod bod Cymru yn y 3ydd safle yn y byd ar hyn o bryd o safbwynt ailgylchu! Mae’r Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc yn gobeithio gwneud mwy o weithredu ynghylch yr hinsawdd eleni, gan gynnwys sefydlu is-grŵp newid hinsawdd i’r panel.

Cewch ragor o wybodaeth am brosiect ENYA ac argymhellion polisi’r bobl ifanc yn ENYA 2022 ar ein gwefan.

Croesawu Aelodau newydd i’r Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc

Buon ni’n croesawu 25 o aelodau newydd i’n panel ymgynghorol pobl ifanc y mis yma. I gychwyn fe gynhaliom ni sesiwn hyfforddi iddyn nhw i gyd. Roedd hyn yn gyfle i’r aelodau o bob cwr o Gymru gwrdd â’i gilydd cyn y gyfarfod cyntaf wyneb yn wyneb. Roedd yn wych gweld y bobl ifanc yn mwynhau’r gweithgareddau ac yn gyffrous a brwd ynghylch cychwyn ar eu rolau newydd. Daeth un o aelodau presennol y panel i ymuno â ni yn y sesiwn, a rhannu ei phrofiadau ar y panel a’r pethau mae hi wedi’u dysgu. Roedd hynny’n cynnwys datblygu hyder a dysgu sut mae barn plant gwahanol yn amrywio ynghylch materion yng Nghymru. Cychwynnodd y gweithgareddau sgyrsiau ynghylch pam mae angen hawliau ychwanegol ar blant a phobl ifanc ac roedd trafodaeth hefyd ar pam mae’n bwysig i oedolion sicrhau bod eu hawliau’n cael eu diogelu. Fe ddangosodd pam fod gwaith y swyddfa’n bwysig i hybu hawliau plant yng Nghymru. Roedd yn gyflwyniad gwych i’r aelodau newydd, sydd yn awr yn edrych ymlaen at weithio gyda gweddill y panel.

Cewch ragor o wybodaeth am y Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc ar ein gwefan.

Cyfarfod BINOCC

Un o nodweddion allweddol ein gwaith eleni oedd ein cyhoeddiad ar y cyd â chomisiynwyr plant yr Alban a Gogledd Iwerddon i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r cyhoeddiad, sydd ar gael ar ein gwefan, yn cyflwyno ein meddyliau ynghylch sut mae ein gwahanol awdurdodaethau yn diogelu ac yn hybu hawliau plant. Roedden ni wrth ein bodd yn croesawu Bruce, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban, a Koulla, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Gogledd Iwerddon, i’n swyddfa ym Mhort Talbot yn ddiweddar. Ymunwyd â ni’n rhithwir gan gomisiynwyr o Loegr, Iwerddon a Jersey, a buon ni’n trafod ffyrdd o wneud rhagor o waith ar y cyd ar bryderon allweddol, yn ogystal â rhannu arferion diddorol.

Cyfarfod Panel Ymgynhorol Pobl Ifanc

I orffen mis hynod o brysur i’r Panel Ymgynghorol Ifanc cynhaliwyd dau gyfarfod wyneb yn wyneb yn ystod yr anner tymor yng Ngogledd a De Cymru. Roedd yn wych i’r aelod gwrdd ei gilydd ym Merthyr Tudful a’n Cyffordd Llandudno. Cyfle arbennig iddynt ddod i adnabod ei gilydd a dechrau ar eu gwaith fel aelodau o’r panel, ac wrth gwrs i’r aelodau newydd gwrdd â Rocio! Bu trafodaethau gwych ar wahanol faterion gan gynnwys Trafnidiaeth Gyhoeddus a bwlio ar sail hunaniaeth. Diolch i bawb oedd yn gallu bod yn bresennol.