Hand typing on laptop

Holiadur i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant

Mae’r holiadur ar gau.

Am y Comisiynydd

Rocio Cifuentes yw’r Comisiynydd Plant.

Mae ein swyddfa yn hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru. Mae gan bob plentyn dan 18 hawliau sy’n rhan o Gonfenswin y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Rydyn ni’n annibynnol, a ddim yn rhan o’r Llywodraeth.

Rydyn ni’n gweithio i bob plentyn sydd:

  • o dan 18 mlwydd oed
  • neu hyd at 21 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal, neu hyd at 25 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal a dal yn astudio

Beth byddwn ni’n gwneud gyda’ch atebion

Bydd eich atebion yn ein helpu i ddeall bywydau a phrofiadau plant, ac i ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth sydd angen iddyn nhw wneud i wella bywydau plant.

Blwyddyn nesaf, byddwn ni’n cyhoeddi cynllun gwaith ar sail yr atebion i’n holiadur. Bydd hyn yn dangos y gwaith rydyn ni’n bwriadu gwneud fel swyddfa i ddylanwadu newidiadau positif i blant.

Hysbysiad Preifatrwydd

Lawrlwythwch ein hysbysiad preifatrwydd (Agor fel PDF)

Os rydych chi angen cyngor

Mae gyda ni wasanaeth annibynnol, am ddim. Gallwch gysylltu gyda ni os rydych chi’n meddwl bod plentyn:
  • wedi ei drin yn anheg
  • ddim yn derbyn ei hawliau