Two parents with two children all holding hands on a walk outside

Ymchwiliadau a Chyngor

Mae ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor yn gyfrinachol ac ar gael am ddim.

Mae yno i roi cyngor a chefnogaeth os bydd plant, pobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg.

Rydyn ni’n gofalu ein bod ni’n cadw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni yn breifat, oni bai ein bod ni’n meddwl bod plentyn neu berson ifanc ddim yn ddiogel – yna byddwn ni’n rhannu’r wybodaeth gyda sefydliadau eraill sy’n gallu helpu i amddiffyn y plentyn.

Manylion cyswllt

FFÔN – 01792 765600

Rhadffôn – 0808 801 1000

EBOST

Rydyn ni ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener oni bai am Wyliau Banc o 9yb – 5yh

Post: Comisiynydd Plant Cymru
Tŷ Llewellyn
Parc Busnes Glan yr Harbwr
Heol yr Harbwr
Port Talbot
SA13 1SB

Mae holl alwadau ffôn ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor yn cael ei recordio, er mwyn ein helpu gyda hyfforddi, monitro a’n helpu i ddatrys cwynion.

BSL

Os hoffech chi siarad gyda ni trwy gyfrwng BSL, plis anfonwch ebost i ni a byddwn ni’n trefnu cyfieithydd er mwyn siarad gyda chi.

Gwybodaeth bwysig

Mae’r deddfau wnaeth sefydlu swyddfa’r Comisiynydd yn golygu mai ond y canlynol gallwn ni eu helpu:

  • plant a phobl ifanc sydd o dan 18 mlwydd oed, neu 21 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal, neu hyd at 25 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal a dal yn astudio
  • plant a phobl ifanc sydd fel arfer yn byw yng Nghymru neu wedi’u lleoli yn Lloegr gan un o awdurdod lleol Cymru
  • plant a phobl ifanc sydd am wneud cwyn neu gynrhychiolaeth ynghylch darparwr gwasanaeth (megis unrhyw lleoliad gofal plant) neu sefydliadau penodol (megis unrhyw awdurdod lleol neu bwrdd iechyd lleol Cymru).

Mae’r deddfau yma hefyd yn golygu na allwn ni:

  • ddelio ag unrhywbeth sy’n ymwneud ag achosion cyfreithiol, gan gynnwys achosion llys a phenderfyniadau gan CAFCASS Cymru
  • gynnig gwasanaeth brys
  • gynnig gwasanaeth cwnsela ein hunain.

Rydyn ni’n sicrhau ein bod ni’n cadw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu â ni yn breifat, oni bai ein bod ni’n meddwl eich bod plentyn neu person ifanc ddim yn ddiogel – wedyn byddwn ni’n rhannu’r wybodaeth gyda sefydliadau eraill sy’n gallu helpu amddiffyn y plentyn.

Os bydd angen i ni rannu’r wybodaeth gyda phobl eraill a allai helpu, byddwn ni’n dweud wrthych chi beth rydyn ni’n ei wneud a pham rydyn ni wedi penderfynu gwneud hynny.

Mae ein swyddogion Ymchwiliadau a Chyngor yn dilyn y cyngor sydd wedi’i gynnwys yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.

Anghenion dysgu ychwanegol

Mae llawer o bobl yn cysylltu gyda ni ynglyn â hawliau addysg plant sydd gydag anghenion dysgu ychwanegol. Mae croeso i chi siarad gyda ni, ond hefyd, efallai bydd y wybodaeth sydd ar wefan SNAP Cymru o fudd i chi. Mae’r gwefan yn cynnwys cyngor a gwybodaeth ar gael cefnogaeth yng Nghymru.

Datgelu Camymarfer

Datgelu Camarfer yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio pan fydd gweithiwr yn trosglwyddo gwybodaeth ynghylch rhywbeth drwg sy’n digwydd. Yn nodweddiadol (er nad o reidrwydd) bydd hyn yn rhywbeth maen nhw wedi’i weld yn y gwaith.

I gael ei gynnwys o dan gyfraith datgelu camarfer, rhaid i’r datgeliad fod yn ‘ddatgeliad cymwys’, sef yn enghraifft o ddatgelu unrhyw wybodaeth sydd, ym marn rhesymol y gweithiwr sy’n gwneud y datgeliad, yn digwydd er lles y cyhoedd.

Os ydych chi’n pryderu oherwydd bod gennych chi amheuon ynghylch camarfer, perygl neu risg yn eich gweithle (neu eich gweithle blaenorol) sy’n effeithio ar hawliau a lles plant yng Nghymru, gallwch chi wneud datgeliad i Gomisiynydd Plant Cymru, sy’n ‘berson rhagnodedig’. Does dim rhaid i chi fod wedi sôn wrth eich cyflogwr cyn cysylltu â Chomisiynydd Plant Cymru.

Mae Gorchymyn Personau Rhagnodedig 2014 yn nodi rhestr o fwy na 60 o sefydliadau ac unigolion y gall gweithiwr droi atynt y tu allan i’w gweithle i roi gwybod am gamarfer sy’n digwydd neu amheuon ynghylch camarfer. Mae Comisiynydd Plant Cymru yn un o’r sefydliadau ar y rhestr honno.

Ewch i’n tudalen Datgelu Camymarfer

Gwybodaeth ychwanegol

Ewch i’n tudalen ‘Sut rydyn ni’n delio gyda’ch gwybodaeth bersonol’

Darllenwch am sut mae ein gwasanaeth yn gweithio

Dysgwch fwy am ein pwerau cyfreithiol

Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth a galwadau yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a galwadau a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd cysylltu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

We welcome receiving correspondence and calls in Welsh. We will respond to correspondence and calls in Welsh, and contacting us in Welsh will not lead to delay.