Adnodd Symbolau CCUHP

Mae’r adnodd hwn yn cyfathrebu hawliau plant o dan Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn defnyddio symbolau a thestun wedi’i symleiddio.

Nôd yr adnodd, sydd wedi’i lunio i’w ddefnyddio gan addysgwyr, gweithwyr cymorth, a phobl broffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yw gwella dealltwriaeth plant a phobl ifanc o’u hawliau a sut gallan nhw fod yn berthnasol i’w bywydau pob dydd.

Mae’r adnodd wedi cael ei gynhyrchu fel prosiect ar y cyd gan Gomisiynydd Plant Cymru a Chomisiynwyr Plant yr Alban a Lloegr.

O le ydw i’n cael yr adnodd?

Mae e ar gael i lawrlwytho fan hyn:

Erthyglau CCUHP – Cardiau A4

Erthyglau CCUHP – Cardiau 85x110mm

Poster A2

Tudalen Gwybodaeth

I bwy mae’r adnodd?

Plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu nad ydynt yn rhai geiriol, anawasterau lleferydd ac iaith, anghenion dysgu arbennig, neu plant ifanc iawn.

Er hyn, mae’r adnodd yn hyblyg, a gall cael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd i addysgu amrywiaeth o blant a phobl ifanc am CCUHP.

Pam ddylwn i ei ddefnyddio yn fy ysgol?

  • I roi pob plentyn y cyfle i ddysgu am ei hawliau
  • Gall yr adnodd cael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd i siwtio anghenion amrywiaeth o ddisgyblion
  • Mae e ar gael am ddim

Sut ydw i’n defnyddio’r adnodd?

Mae e lan i chi, ond ry’n ni wedi rhoi syniadau at ei gilydd i helpu chi.

Mwy o wybodaeth

Croeso i chi gysylltu am fwy o wybodaeth am yr adnodd.