Datgelu Camymarfer

Datgelu Camarfer yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio pan fydd gweithiwr yn trosglwyddo gwybodaeth ynghylch rhywbeth drwg sy’n digwydd. Yn nodweddiadol (er nad o reidrwydd) bydd hyn yn rhywbeth maen nhw wedi’i weld yn y gwaith.

I gael ei gynnwys o dan gyfraith datgelu camarfer, rhaid i’r datgeliad fod yn ‘ddatgeliad cymwys’, sef yn enghraifft o ddatgelu unrhyw wybodaeth sydd, ym marn rhesymol y gweithiwr sy’n gwneud y datgeliad, yn digwydd er lles y cyhoedd.

Os ydych chi’n pryderu oherwydd bod gennych chi amheuon ynghylch camarfer, perygl neu risg yn eich gweithle (neu eich gweithle blaenorol) sy’n effeithio ar hawliau a lles plant yng Nghymru, gallwch chi wneud datgeliad i Gomisiynydd Plant Cymru, sy’n ‘berson rhagnodedig’. Does dim rhaid i chi fod wedi sôn wrth eich cyflogwr cyn cysylltu â Chomisiynydd Plant Cymru.

Mae Gorchymyn Personau Rhagnodedig 2014 yn nodi rhestr o fwy na 60 o sefydliadau ac unigolion y gall gweithiwr droi atynt y tu allan i’w gweithle i roi gwybod am gamarfer sy’n digwydd neu amheuon ynghylch camarfer. Mae Comisiynydd Plant Cymru yn un o’r sefydliadau ar y rhestr honno.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am ‘Ddatgelu Camarfer i Gomisiynydd Plant Cymru’

Cliciwch yma i ddarllen mwy am rôl ‘person rhagnodedig’

Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf ar Ddatgelu Camarfer

Cysylltwch