Telerau ac Amodau

  1. At ddibenion y Telerau a’r Amodau hyn, mae ‘Chi/Eich’ yn golygu testun y data, a ‘Ni/Ein’ yn golygu Comisiynydd Plant Cymru (CPC).
  2. Fel sefydliad proffesiynol, rydym yn ystyried preifatrwydd yr holl unigolion sy’n defnyddio’n gwefan. Am ragor o wybodaeth, gweler polisi preifatrwydd CPC.
  3. Gallai CPC newid y telerau hyn o bryd i’w gilydd felly dylech ddarllen y telerau hyn yn rheolaidd. Bydd eich defnydd parhaus o’r wefan www.complantcymru.org.uk yn arwydd eich bod yn derbyn y telerau a ddiweddarwyd neu a ddiwygiwyd.
  4. Dyma wefan swyddogol Comisiynydd Plant Cymru. Hawlfraint © Comisiynydd Plant Cymru: cedwir pob hawl. Comisiynydd Plant Cymru sy’n berchen ar holl elfennau’r wefan hon. Ni ellir atgynhyrchu unrhyw ran o’r wefan hon heb ganiatâd ymlaen llaw gan Gomisiynydd Plant Cymru, oni bai ei fod at ddefnydd personol ac anfasnachol. Caniateir i chi lawrlwytho deunyddiau er mwyn codi ymwybyddiaeth o Gomisiynydd Plant Cymru a hawliau plant. Mae newidiadau amhriodol i’r deunyddiau ac unrhyw ddefnydd amhriodol arall o asedau’r wefan hon wedi’i wahardd ac yn torri hawliau perchnogol Comisiynydd Plant Cymru.
  5. Rydym yn cadw’r hawl i atal eich gallu i ddefnyddio’r wefan hon yn syth os ydych chi’n torri’r Telerau ac Amodau hyn.
  6. Ni fydd Comisiynydd Plant Cymru’n gyfrifol am unrhyw ddifrod a allai gael ei achosi i’ch meddalwedd neu galedwedd, nac yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a allai godi yn sgîl eich defnydd o unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar y wefan hon.
  7. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn cael eu rheoli a’u llunio yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

I gael rhagor o wybodaeth am ein Telerau ac Amodau, cysylltwch â Chomisiynydd Plant Cymru:

Ar e-bost: post@complantcymru.org.uk

Trwy’r post:

Comisiynydd Plant Cymru
Ty Llewellyn
Parc Busnes Glan Yr Harbwr
Heol Yr Harbwr
Port Talbot
SA13 1SB

Ar y ffôn: 01792 765600