Adrodd ar CCUHP

Rhaid i lywodraethau sy’n llofnodi’r Confensiwn adrodd ar wneud hawliau plant yn realiti yn eu gwlad bob pum mlynedd.

Ceir Pwyllgor o arbenigwyr sy’n edrych ar sut mae gwledydd yn gwneud y CCUHP yn real i blant eu gwledydd. Enw’r pwyllgor yw Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac mae’n cyfarfod yn Genefa yn y Swistir.

Pan fydd gwledydd yn gwneud adroddiadau, ceir nifer o gamau.

Cam 1

Mae’r llywodraeth yn ysgrifennu adroddiad sy’n dweud wrth y Pwyllgor sut maent yn gwneud yn siŵr fod pob plentyn yn y DU yn gallu defnyddio’u holl hawliau sydd wedi’u rhestru yn yr UNCRC.

Cam 2

Nid y llywodraeth yn unig sy’n cael dweud wrth Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig am hawliau plant yn y DU. Mae elusennau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac ar eu cyfer yn ysgrifennu adroddiadau ar hawliau plant yn y DU. Ac mae Comisiynwyr Plant Cymru, Yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ysgrifennu adroddiad ar hawliau plant ledled y DU hefyd.

Cam 3

Mae’r elusennau a’r Comisiynwyr Plant yn mynd i gyfarfod â Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig i drafod eu hadroddiadau.

Cam 4

Wedyn mae’r Pwyllgor yn anfon rhestr o gwestiynau y mae eisiau gwybod mwy amdanynt at y llywodraeth, ac mae’n rhaid i’r llywodraeth eu hateb yn ysgrifenedig.

Cam 5

Daw pobl o Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig i ymweld â’r DU i weld sefyllfa plant a phobl ifanc dros eu hunain.

Cam 6

Wedyn, mae’n rhaid i lywodraeth y DU fynd i Genefa i gyfarfod â Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig, a gofynnir cwestiynau iddynt am yr hyn maent yn ei wneud i ddiogelu hawliau plant yn eu gwlad.

Cam 7

Ar ôl y cyfarfod hwn, mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn ysgrifennu adroddiad i’r Llywodraeth, sef rhestr o bethau y maen nhw’n meddwl y mae angen eu newid i ddiogelu hawliau plant, gelwir y rhain yn ‘Arsylwadau Casglu’.