Ein Blaenoriaethau 2016-19
- Iechyd meddwl, llesiant a mynd i’r afael â bwlio
- Tlodi ac anghydraddoldebau cymdeithasol
- Chwarae a hamdden
- Diogelwch (yn y gymuned, yr ysgol a’r cartref)
- Cynyddu ymwybyddiaeth o CCUHP a hyrwyddo’r broses o’i fabwysiadu ar draws gwasanaethau cyhoeddus
- Pontio i oedolaeth ar gyfer yr holl bobl ifanc sydd angen cefnogaeth a gofal parhaus
Cefndir
Yn 2016 cyhoeddwyd ein hadroddiad ‘Beth Nesa’ i fanylu darganfyddiadau ein hymgynghoriad mwyaf gyda phlant a phobl ifanc.
Nôd yr ymgynghoriad oedd i sefydlu blaenoriaethau’r Comisiynydd am 2016-19.
Bu’r darganfyddiadau’n dangos bod llwyth o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn byw bywydau diogel, iach a hapus ac yn teimlo bod eu barnau’n bwysig i’r oedolion yn eu bywydau.
Er hyn, tanlinellir pwysigrwydd gwelliannau mewn meysydd fel iechyd meddwl, gwasanaethau sy’n pontio i oedolaeth, a darpariaeth gwasanaethau i bobl ifanc mewn gofal.
Ein dyheadau i blant a phobl ifanc
Erbyn 2019 rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at gyflawni’r gwelliannau canlynol i blant:
- Bydd plant a phobl ifanc yn cael mynediad i’r gwasanaethau iechyd meddwl sydd eu hangen, a hynny’n brydlon. Bydd rhaglenni cryfach ar gyfer hybu iechyd a llesiant emosiynol yn ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, ein hysgolion a’n gwasanaethau ieuenctid
- Bydd gwell dealltwriaeth o brofiadau cyfoes plant o fwlio, a bydd mwy o ysgolion yn atal bwlio’n effeithiol ac yn mynd i’r afael ag e
- Bydd gwell mynediad i weithgareddau chwarae, diwylliant a hamdden gan y plant sy’n fwyaf tebygol o fod yn brin o’r cyfleoedd hynny, yn arbennig y rhai sy’n byw mewn tlodi a phlant anabl.
- Bydd y rhai sy’n gadael gofal yn cael gwell mynediad i opsiynau tai diogel, sicr, a chynnig swydd, addysg neu le mewn hyfforddiant
- Bydd gwell pontio i wasanaethau oedolion ar gyfer yr holl bobl ifanc sydd angen cefnogaeth iechyd a chymdeithasol barhaus
- Bydd plant yn cael yr un amddiffyniad cyfreithiol ag oedolion rhag ymosodiad corfforol
- Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys yn well mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys fy sefydliad fy hun
Gallwch ddarllen mwy am y prosiectau unigol rydyn ni’n gweithio arnyn nhw yma.