Yn ogystal â’n gwaith o ddydd i ddydd, rydyn ni hefyd yn gweithio ar gyfres o brosiectau bob blwyddyn – y cyfan wedi’i gysylltu â’n cynllun tair blynedd.
Coronafeirws
Yng ngoleuni pandemig COVID-19, mae’r Comisiynydd a’i thîm wedi penderfynu neilltuo amser i sicrhau bod plant yn gallu cael mynediad i’w hawliau yn ystod y cyfnod anodd hwn. Yn ogystal ag ailgyfeirio gwaith polisi a chyfranogiad craidd y swyddfa er mwyn addasu i’r pandemig, mae’r tîm yn gweithio ar ddau brosiect gyda’r nod penodol o ddiogelu hawliau plant yn ystod y cyfnod hwn.
Arolwg Coronafeirws a Fi
Bu’r Comisiynydd a’i thîm yn casglu barn bron 24,000 o blant a phobl ifanc am eu profiadau yn ystod pandemig y Coronafeirws. Prosiect yw hwn mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Plant yng Nghymru a Senedd Ieuenctid Cymru.
Mae canlyniadau’r arolwg Coronafeirws a Fi ar gael i’w darllen.
Darllenwch canlyniadau arolwg Coronafeirws a Fi.
Bydd y swyddfa’n cynnal gwaith pellach ar ganfyddiadau’r arolwg, gan gynnwys:
- Cyhoeddi cyfres o adroddiadau ar brofiadau gwahanol grwpiau o blant a phobl ifanc;
- Datblygu gweithdai ar gyfer plant a phobl ifanc mewn amrywiol leoliadau i rannu canfyddiadau’r arolwg ac edrych yn fanylach ar faterion.
Bydd canfyddiadau’r arolwg a gwybodaeth o’r gweithdai yn cefnogi gwaith dylanwadu’r swyddfa wrth geisio galw Llywodraeth Cymru i gyfrif a sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad i’w hawliau.
Hwb Gwybodaeth Coronafeirws
Ddechrau’r cyfyngiadau symud ddiwedd mis Mawrth 2020, lansiodd y Comisiynydd Hwb Gwybodaeth y Coronafeirws, sy’n darparu’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf am faterion sy’n effeithio ar blant, pobl ifanc a’r rhai sy’n gofalu amdanynt. Bydd y Comisiynydd a’i thîm yn parhau i ddiweddaru’r Hwb Gwybodaeth ar hyd y pandemig.
Ymweld â’r Hwb Gwybodaeth Coronafeirws
Cynllun Gwaith 2020-2021
Mae tîm y Comisiynydd hefyd yn gweithio ar gyfres o brosiectau fel rhan o raglen waith flynyddol 2020-2021:
Dyma grynodeb o brosiectau eleni:
Hawliau plant mewn sefydliadau
Byddwn ni’n dal ati i helpu sefydliadau Cymru i ddefnyddio’r Ffordd Gywir (TRW), fframwaith seiliedig ar hawliau plant, i wneud gwasanaethau’n well i blant a phobl ifanc. Byddwn ni’n gweithio gyda chyrff cyhoeddus gan gynnwys byrddau iechyd, awdurdodau lleol a’r heddlu i sicrhau mai hawliau plant sy’n tywys eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc. Eleni byddwn ni’n canolbwyntio ar sicrhau bod gwaith cymdeithasol yng Nghymru wedi’i seilio ar Gonfensiwn Hawliau’r Plentyn.
Cynghorau ysgol
Mae cyfraith yng Nghymru sy’n golygu bod rhaid i bob ysgol gael cyngor ysgol. Mae rhai cynghorau ysgol yn ffordd effeithiol i blant a phobl ifanc leisio barn ym mhenderfyniadau’r ysgol. Ond mae cynghorau ysgol eraill yn llai effeithiol. Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd yn teimlo’n llai abl i gyfranogi mewn penderfyniadau nag mewn ysgolion eraill. Nod y prosiect hwn yw gwella cyfranogiad mewn ysgolion uwchradd, fel bod pob person ifanc yng Nghymru yn profi eu hawl i gael lleisio barn.
Ymddygiad a chynhwysiad
Trwy’r prosiect hwn byddwn ni’n archwilio sut mae ysgolion yng Nghymru yn rheoli ymddygiad anodd a heriol plant mewn lleoliadau cyfnod sylfaen. Rydyn ni am ddeall hyd a lled y broblem hon yng Nghymru, a sut mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn ymateb i hyn mewn ffordd sy’n cadw plant yn ddiogel, yn eu hasesu a’u cefnogi’n briodol ac yn eu galluogi i gael addysg.
Adrodd i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn
Byddwn ni’n ymuno â’n cymheiriaid ar draws y Deyrnas Unedig i ddrafftio adroddiad ar berfformiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig ar hawliau plant yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan sicrhau bod llais plant o Gymru a’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau yn cael lle amlwg. Cyflwynir yr adroddiad i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn, a fydd wedyn yn cyflwyno rhestr o’r materion byddan nhw’n eu defnyddio i ddadansoddi perfformiad y Llywodraethau.
Etholiadau 2021
Fel rhan o’r prosiect hwn byddwn ni’n trefnu etholiadau ffug ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru, i ddigwydd ar yr un pryd ag etholiad cynulliad 2021, ar yr un diwrnod ym mhob ysgol, fel bod pobl ifanc yn cael y profiad agosaf posibl i bleidleisio mewn etholiad. Rydyn ni eisiau helpu pob person ifanc (11-18 oed) i ddeall cyd-destun eu pleidlais a sicrhau bod pob person ifanc yn teimlo’n rhan o’r cyffro y bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn teimlo wrth iddyn nhw bleidleisio am y tro cyntaf erioed.
Adolygiad o Lywodraeth Cymru – Addysg yn y cartref ac ysgolion annibynnol
Rydym yn cynnal adolygiad o Lywodraeth Cymru a’u proses o wneud penderfyniadau ynglŷn ag addysg yn y cartref ac ysgolion annibynnol. I ddysgu mwy am ein hadolygiad, cliciwch y ddolen isod.