Strategaeth tair blynedd 2023-26

Mae ein stratgaeth tair blynedd yn dweud beth byddwn ni’n gwneud dros y tair blynedd nesaf i wella bywyd i blant yng Nghymru.

Lawrlwythwch ein strategaeth tair blynedd (Agor fel PDF)

Ein gweledigaeth

Mae’r Comisiynydd wedi nodi’r canlynol fel ei gweledigaeth am ei chyfnod yn y swydd: “Cymru yn wlad lle bod pob plentyn a person ifanc yn deall eu hawliau, eu bod yn ymwybodol bod yna gomisiynydd sydd yno i sefyll fyny dros yr hawliau hynny, a’u bod nhw’n medru derbyn cefnogaeth i gael mynediad i’r holl hawliau hynny.

Ein cenhadaeth

Rydyn ni’n gwrando ar blant a phobl ifanc yng Nghymru, ac yn codi llais ar eu rhan fel bod hawliau plant yn cael eu diogelu, ac rydyn ni’n cefnogi, yn herio ac yn dylanwadu ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, er mwyn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.

Ein pwrpas

Yma i bob plentyn

Rydyn ni’n gwrando ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n hygyrch i bob plentyn yng Nghymru, er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu codi llais yn effeithiol ar eu rhan a’u cynrychioli yn y ffordd sy’n cael yr effaith fwyaf.

Fel tîm bychan o staff, rydyn ni’n sylweddoli na allwn ni weithio’n ynysig i feithrin perthynas effeithiol, llawn ymddiriedaeth gyda phob plentyn, felly bydden ni’n hoffi gweithio mewn partneriaeth â phobl sydd â’r perthnasoedd cadarn hynny gyda phlant a phobl ifanc ledled Cymru i weld beth sy’n bwysig iddyn nhw a pha faterion bydden nhw’n hoffi i ni hyrwyddo ar eu rhan. Mae manteisio’n llawn ar wybodaeth a data ynghylch plant a phobl ifanc hefyd yn bwysig i ni, a bydden ni’n hoffi gwneud yn siŵr ein bod ni’n cael y budd mwyaf o’r cyfoeth o ddata mae partneriaid yn ei gasglu am fywydau plant, yn ogystal â chasglu ein gwybodaeth ein hunain.

Arwr Hawliau

Rydyn ni’n cefnogi ac yn addysgu plant a phobl ifanc i wybod am eu hawliau dynol a’u deall, ac rydyn ni’n cefnogi ac yn cynghori gwasanaethau cyhoeddus ar hybu a diogelu hawliau plant.

Mae rhwymedigaethau statudol ar rai cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i gynyddu ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yng Nghymru, ac mae eraill wedi ymrwymo i wneud hyn. Bydden ni’n hoffi gweithio gyda’r cyrff hynny i sicrhau bod strategaeth gydlynus yng Nghymru ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth o hawliau plant.

Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, megis awdurdodau lleol a byrddau iechyd, hefyd yn chwarae rhan hollbwysig ym mywydau plant, ac o ganlyniad yn allweddol wrth wireddu hawliau plant. Bydden ni’n hoffi gweithio gyda nhw i sicrhau bod hawliau plant yn cael y lle blaenaf wrth wneud penderfyniadau, a’n bod ni’n galluogi plant yng Nghymru i gael y cyfle gorau posibl i wireddu eu hawliau.

Goleuo’r Gwir

Byddwn ni’n cefnogi ac yn grymuso plant i godi llais a rhannu eu profiadau amrywiol gyda llunwyr penderfyniadau. Byddwn ni’n goleuo’r gwir ar faterion penodol ac yn chwyddo hanesion sydd heb eu clywed trwy ddatblygu ein gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu.

Mae plant a phobl ifanc yn ymddiried ynon ni gyda’u profiadau, da a drwg. Mae angen i ni sicrhau bod y profiadau hynny nid yn unig yn dylanwadu ar ein gwaith, ond hefyd yn cael lle canolog wrth ddatblygu a gweithredu polisi yng Nghymru. Fel pencampwr plant, ein bwriad yw sicrhau bod y profiadau hyn yn cael eu rhannu’n effeithiol gyda chyrff cyhoeddus yng Nghymru, i helpu i ddylanwadu ar newid.

Mae’r Comisiynydd yn rhan allweddol o fywyd dinesig Cymru, ac mae mewn sefyllfa freintiedig trwy allu siarad yn uniongyrchol â llunwyr penderfyniadau, llywodraethau a chyfryngau cenedlaethol. Rydyn ni am sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r sefyllfa honno i gael yr effaith fwyaf

Heriwr

Byddwn ni’n herio ac yn cefnogi eraill i sicrhau bod hawliau dynol plant yn cael eu gwireddu. Er ein bod ni’n awyddus i weithio mewn partneriaeth, ni fyddwn yn ofni parhau i dynnu sylw at wasanaethau gwael, penderfyniadau gwael a dewisiadau gwael os ydyn nhw’n cael effaith negyddol ar fywydau plant.

Mae gennym ni bwerau i adolygu ystod o wasanaethau cyhoeddus, a fyddwn ni ddim yn ofni defnyddio’r pwerau hynny os ydyn ni’n meddwl bydd hynny o fudd i fywydau plant. Fyddwn ni ddim yn osgoi penderfyniadau anodd, sgyrsiau anodd a sefyllfaoedd anodd os yw hynny’n creu gwell canlyniadau i blant. Byddwn ni’n herio â thystiolaeth ac â lleisiau pobl ifanc.