Diwrnod Rhyngwladol y Plant 2021: Croeso Cymreig i blant sy’n ffoaduriaid

‘Shwmae’! Dyna oedd y gair cynta glywais i wrth gwrdd â phlant oedd yn ffoaduriaid o Afghanistan yn ddiweddar. Dim ond ers tair wythnos roedden nhw yng Nghymru, ond roedden nhw eisoes yn defnyddio’r cyfarchiad ‘Shwmae’, yn dweud ‘diolch’ ac yn gwybod ‘un, dau, tri’. Roedd eu brwdfrydedd am ddysgu yn heintus.

Bob blwyddyn mae plant a’r oedolion sy’n eu cefnogi yn dathlu cyhoeddi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ar 20 Tachwedd.

Eleni mae fy nhîm a minnau yn dathlu Erthygl 22 o CCUHP: sy’n egluro bod gan blant sy’n ffoaduriaid yr un hawliau â phob plentyn arall. Mae hynny’n bwysig, oherwydd wrth gwrs mae plant sy’n ffoaduriaid yn tueddu i fod yn ffoi rhag argyfyngau – p’un ai rhyfeloedd, erledigaeth, newyn neu ddigwyddiadau a achoswyd gan newid yn yr hinsawdd. Mewn argyfwng, mae’n bosib mai hawliau dynol fydd yn cael eu peryglu fwyaf, a hawliau dynol plant yn fwyaf oll.

Mae Cymru wedi bod yn gartref i ffoaduriaid ar draws y canrifoedd, o Iddewon yn ffoi rhag erledigaeth dorfol yn y 19eg ganrif, i’r aflonyddwch aruthrol yn sgîl rhyfeloedd yr 20fed ganrif. Yn fwy diweddar rydyn ni wedi croesawu ffoaduriaid o Syria a nifer o genhedloedd eraill, gan gynnwys niferoedd bach o blant sydd wedi llwyddo i gyrraedd y Deyrnas Unedig heb gwmni oedolion. Ers degawdau lawer mae ffoaduriaid wedi gweithio ac astudio yma, wedi cyfrannu at economi ein gwlad ac wedi ehangu ein treftadaeth ddiwylliannol.

Eleni mae’r argyfwng yn Afghanistan wedi golygu bod nifer o deuluoedd oddi yno yn cael eu hadleoli yng Nghymru ar fyr rybudd. Mae’r rhain yn bennaf yn deuluoedd gweithwyr a fu’n cefnogi gwasanaeth diplomataidd y Deyrnas Unedig, y lluoedd arfog ac elusennau yn Afghanistan, neu’n rhai sydd mewn perygl am resymau eraill.

Mae’r Urdd, cymdeithas tai Taf, cynghorau lleol, grwpiau ffoaduriaid, teuluoedd o Afghanistan sydd eisoes wedi ymgartrefu yng Nghymru a Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymdrech unigryw. Maen nhw wedi croesawu teuluoedd o Afghanistan a darparu llety brys, ac addysg a chyfle i chwarae i’r plant ar rybudd byr iawn. Mae hyn i gyd yn cydweddu’n dda ag uchelgais Cymru i fod yn Genedl Noddfa i ffoaduriaid.

Fe ges i’r pleser o gwrdd â nifer o’r teuluoedd hyn yn ddiweddar, ac fe ges i fy nharo’n fawr gan y ffaith nad oedd y rhieni y bues i’n siarad â nhw yn gofyn am ddim iddynt eu hunain, ond eu bod nhw’n awyddus i wybod pryd gallai eu plant gofrestru’n llawn amser yn yr ysgol er mwyn ychwanegu at y dosbarthiadau brys oedd eisoes wedi’u trefnu ar eu cyfer. Roedd y plant, fel plant ym mhob man, eisiau chwarae. Soniodd rhai o’r rhai hŷn wrthyf fi am eu huchelgais – gwneud yn dda yn yr ysgol, dod yn feddygon ac yn weithwyr proffesiynol eraill. Rwy’n gwbl sicr ein bod, wrth groesawu plant sy’n ffoaduriaid a’u teuluoedd, nid yn unig yn cyflawni ein dyletswyddau hawliau dynol rhyngwladol, ond hefyd yn croesawu plant a fydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i Gymru, nawr ac yn y dyfodol.

I ddathlu Diwrnod Byd-eang y Plant rydyn ni wedi creu rhai adnoddau syml i ysgolion a grwpiau cymunedol. Mynnwch gip arnyn nhw yma, ac ymunwch â ni i roi croeso Cymreig cynnes i ffoaduriaid!