Agor Drysau: diweddariad ar ein gwaith ‘Dim Drws Anghywir’

Does dim wythnos yn mynd heibio heb i mi glywed am iechyd meddwl plant neu drafod rhywbeth sy’n ymwneud â hynny. Yn rhy aml, rwy’n clywed am blant a’u teuluoedd sy’n chwilio am gefnogaeth ar gyfer amrywiaeth o anghenion yn canfod bod rhaid iddyn nhw gael hyd i ffordd trwy system gymhleth iawn, y gallan nhw’n syrthio trwy’r bylchau lle nad oes gwasanaethau i ymateb i’w hanghenion, neu eu bod nhw ar restr aros am amser hir, ond yna’n clywed yn y pen draw eu bod wedi aros yn y man anghywir, neu wedi bod yn curo ar y ‘drws anghywir’ ar hyd yr amser.

Yn sgîl y sgyrsiau a’r pryderon hyn fe wnaethon ni ddarn pwysig o waith a arweiniodd at adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2020, am gefnogaeth i blant sydd ag anghenion iechyd meddwl, llesiant emosiynol ac ymddygiad, a sut gallai gwasanaethau gydweithio’n well i gefnogi’r plant hyn. Enw’r adroddiad oedd Dim Drws Anghywir – dod â gwasanaethau ynghyd i ddiwallu anghenion plant.

I lywio’r adroddiad, fe fues i’n ymweld â phob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (sy’n gyfrifol am ddod â gwasanaethau ynghyd) yng Nghymru yn 2019/20, i ofyn iddyn nhw beth oedden nhw’n ei wneud i ddiwallu anghenion plant. Cyflwynodd yr adroddiad gyfres o argymhellion i’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (BPRhau), ac i Lywodraeth Cymru.

Beth yw’r materion sy’n codi?

Dyma rai o ganfyddiadau allweddol fy adroddiad:

  • Yn llawer rhy aml, mae plant sydd angen cefnogaeth ar restr aros ar gyfer un gwasanaeth, ond yn cael clywed, pan ddaw eu tro, eu bod nhw wedi bod yn y rhestr anghywir ar hyd yr amser, ac yn cael eu symud i restr arall. Tra bod hyn yn digwydd, dydyn nhw ddim yn derbyn yr help mae arnyn nhw ei angen. Yn achos rhai plant, mae’r broses yma’n digwydd sawl tro cyn iddyn nhw dderbyn unrhyw gefnogaeth o gwbl.
  • Yn rhy aml mae plant ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth sydd angen gofal preswyl yn cael eu hanfon filltiroedd lawer o’u cartref i leoliadau sydd ddim o reidrwydd yn diwallu eu hanghenion.
  • Doedd dim digon o ffocws ar faterion plant yn gyffredinol, yn y rhan fwyaf o ranbarthau. Roedden nhw wedi tueddu i ganolbwyntio ar wasanaethau i oedolion.
  • Roedd rhai enghreifftiau da o waith i geisio rhoi sylw i’r materion hyn, ac fe wnaethon ni eu hamlygu yn ein hadroddiad, ond roedd gan bob rhanbarth lawer o waith i’w wneud o hyd.

Beth yw dull gweithredu Dim Drws Anghywir?

 Yma roeddwn i am nodi rhai egwyddorion allweddol ar gyfer yr hyn rwyf fi’n ei alw’n ddull gweithredu Dim Drws Anghywir, sef:

  • Pan fydd plentyn mewn trallod ac maen nhw neu eu teulu’n gofyn am help, bod cefnogaeth yn cael ei rhoi. Does dim angen i hynny ddod gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol o reidrwydd; yn achos y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc gallai’r gefnogaeth mae arnyn nhw ei hangen i roi sylw i’r anghenion sylfaenol sy’n achosi eu trallod gael ei darparu gan weithwyr proffesiynol eraill, a dyna ddylai ddigwydd.
  • Mae’r gefnogaeth yma’n cynnwys gwasanaethau i blant niwro-amrywiol – efallai bod ganddyn nhw anghenion cysylltiedig ag awtistiaeth, ADHD, Tourette’s, neu gyflyrau eraill. Ar hyn o bryd mae angen i blant aros blynyddoedd yn aml dim ond i gael asesiad niwroddatblygiadol.
  • Mae un enghraifft o arfer da rydyn ni’n teimlo sy’n arddangos dull gweithredu Dim Drws Anghywir yn digwydd yn rhanbarth Gwent, lle mae paneli’n cwrdd bob wythnos, ac yn dod â gwasanaethau ynghyd fel gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol ac arbenigol, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, gwasanaeth chwaraeon a hamdden yr awdurdod lleol, gwasanaethau ieuenctid, gwasanaeth cwnsela yn yr ysgol, gwasanaeth Adeiladu Teuluoedd Cryfach, darpariaeth iechyd meddwl y trydydd sector, gwasanaeth pontio i rai ag anableddau dysgu, sefydliad gofalwyr ifanc, gwasanaethau tai, a gwasanaethau menter ieuenctid. Mae’r gweithwyr proffesiynol hyn yn trafod anghenion plant a phobl ifanc unigol, yn cydweithio i gael hyd i’r gefnogaeth fwyaf addas, ac yn ei darparu’n gyflym.
  • Mae’r holl gamau hyn yn cyfrannu at sicrhau bod y gweithwyr proffesiynol a’r adnoddau mwy arbenigol ym maes gofal iechyd meddwl, i’r rhai â’r angen mwyaf aciwt, yn gallu ymrwymo i’r rôl arbenigol honno.
  • Mae gan weithwyr iechyd meddwl arbenigol proffesiynol rôl allweddol hefyd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol eraill fel athrawon a gweithwyr cymdeithasol i ofalu am y plant a’r bobl ifanc yn eu gofal. Maen nhw’n gwneud hynny trwy hyfforddiant a thrwy roi cyngor ynghylch plant unigol.

 Beth ddigwyddodd o ganlyniad i’r gwaith yma?

  • Mae plant a phobl ifanc yn awr yn bendant ar agenda pob BPRh yng Nghymru, gan gynnwys is-grŵp penodedig ym mhob rhanbarth.
  • Mae gan bob rhanbarth yng Nghymru gynllun ar gyfer dull gweithredu Dim Drws Anghywir, ond mae pob rhanbarth wedi cyrraedd man gwahanol ar eu taith i roi hynny ar waith.
  • Bellach mae dyletswydd ar bob rhanbarth i gynnwys plant a phobl ifanc trwy waith cyfranogol.
  • Rwy wedi cael fy nghalonogi gan yr amrywiaeth o ymatebion i’m hargymhellion, sy’n cynnwys gweithgor a gafodd ei drefnu a’i fynychu gan bobl ifanc eu hunain, ac sy’n bwydo’n uniongyrchol i waith y BPRh; cynllunio ar gyfer ymatebion gwell i blant a phobl ifanc sy’n profi argyfwng iechyd meddwl; cynlluniau datblygedig ar gyfer llety preswyl therapiwtig newydd i’r plant hynny sydd angen cymorth iechyd a gofal cymdeithasol; a gwaith i wella’r gwasanaethau ar gyfer plant niwro-amrywiol.

Beth sy’n digwydd nawr?

Bellach rwy wedi cwrdd â’r holl Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol eto, ac rwy’n falch o adrodd bod rhai arwyddion cynnydd calonogol ers fy ymweliadau yn 2019-20.

 Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda’r rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc (T4CYP) ar eu fframwaith NYTH / NEST. Cewch ragor o wybodaeth am NYTH yma. Rwy’n gyffrous am y fframwaith newydd hwn, a fydd yn cefnogi BPRhau i greu ‘nyth’ gwirioneddol amlasiantaeth – rhoi systemau ar waith i sicrhau bod anghenion plant yn cael eu diwallu gan bwy bynnag sydd yn y sefyllfa orau i gwrdd â nhw ar yr adeg pan fydd angen hynny arnyn nhw, yn hytrach na’u rhoi ar restr aros arall. Bydda i’n gweithio’n galed i sicrhau ei fod yn cyflawni trwy roi sylw i’r materion y gwnes i eu hamlygu yn Dim Drws Anghywir.

I fod yn llwyddiannus, rhaid i’r fframwaith hwn gael ei gefnogi’n llawn gan Lywodraeth Cymru, a’i gyflwyno gan y BPRhau. Rhaid cael menter system gyfan wirioneddol, gyda phob gwasanaeth a luniwyd i gefnogi’n plant a’n pobl ifanc yn cydweithio’n ddi-fwlch o amgylch pob plentyn neu berson ifanc unigol, ac yn ymateb yn brydlon i’w hanghenion.

Beth yw’r camau nesaf?

  • Yn dilyn fy ymweliadau, rwy wedi trefnu cyfarfod lle bydd grŵp cynrychioliadol o bobl ifanc yn gofyn eu cwestiynau eu hunain ynghylch beth mae BPRhau yn ei wneud dros blant a phobl ifanc, a hynny’n uniongyrchol i banel fydd yn cynrychioli pob BPRh. Yna byddwn ni’n rhannu awgrym ar gyfer cynllun gwers/amlinelliad gyda’r holl Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, yn gofyn iddyn nhw gynnal eu fersiwn eu hunain o’r cyfarfod hwn, ond gyda phobl ifanc o’u rhanbarth eu hunain, fel bod modd iddyn nhw eu galw i gyfri’n uniongyrchol am eu gwaith. Yn hytrach na digwyddiad untro, dylid gweld hyn fel cyfle i ddatblygu eu hymgysylltiad parhaus â phlant a phobl ifanc yn eu rhanbarth.
  • Bydd y grŵp cynrychioliadol o bobl ifanc hefyd yn rhannu eu hasesiad o gynnydd y BPRhau gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn gynnar ym mis Rhagfyr.
  • Yn y Flwyddyn Newydd, bydda i’n cyhoeddi adroddiad dilynol ar gynnydd BPRhau a Llywodraeth Cymru o ran ymateb i’m galwadau am dduIl gweithredu Dim Drws Anghywir ar draws Cymru. Bydd hyn yn cymryd yr ymweliadau diweddaraf i ystyriaeth a hefyd farn y bobl ifanc rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw. Rwy’n falch o ddweud y bydd enghreifftiau pellach o arfer da a ddatblygwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
  • Bydda i’n parhau i weithio gyda’r rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc i weithredu’r fframwaith NYTH, a chyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cyflawni.

Er bod cynnydd i’w weld, allwn ni ddim llaesu dwylo. Byddwn ni ddim yn peidio â chefnogi a cheisio newidiadau gan y rhai sy’n gyfrifol, fel bod y system yn cyflawni ac yn diwallu anghenion pob plentyn, ble bynnag yng Nghymru maen nhw’n byw.

Yn y cyfamser, os bydd gan unrhyw bobl ifanc, eu rhieni/gofalwyr a/neu bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda nhw bryderon ynghylch mynediad at wasanaethau cefnogi, gallwch chi gysylltu â’m tîm ymchwiliadau a chyngor annibynnol i gael gwybodaeth, cefnogaeth neu gymorth. Mae rhagor o wybodaeth am y tîm, gan gynnwys eu manylion cyswllt llawn, ar gael ar fy ngwefan yma.