Gobeithion i Gymru

Flwyddyn diwethaf cymerodd bron i 9,000 ohonoch chi rhan yn ein holiadur Gobeithion i Gymru.

Rhannoch chi eich barn ar lawer o wahanol bethau, ac am beth rydych chi eisiau Rocio i wneud fel eich Comisiynydd Plant. Ei swydd yw i wrando ar blant a phobl ifanc Cymru ac i ddweud wrth bobl eraill am y pethau sy’n bwysig I chi, a sicrhau bod y Llyowdraeth a phobl eraill sydd yn gwneud penderfyniadau am eich hawliau yn cymryd eich hawliau o ddifrif.

Rydyn ni wedi defnyddio eich atebion i greu cynllun tair blynedd newydd, sy’n dangos sut byddwn ni’n gweithio i wella bywydau plant yng Nghymru.

Byddwn ni’n cyhoeddi canfyddiadau llawn ein holiadur Gobeithion i Gymru ar y dudalen yma.