Popeth sydd angen arnoch os rydych chi’n athro/athrawes neu arweinydd ieuenctid

Dyma pob fersiwn o’r holiadur:

Canllaw a Chwestiynau Cyffredin

Lawrlwythwch canllaw i athrawon ac arweinwyr ieunctid (PDF)

Cwestiynau Cyffredin (PDF)

Pecyn gwasanaeth/amser tiwtor a chôd QR

Cyflwyniad Powerpoint byr i’w ddefnyddio yn ystod gwasanaeth/amser tiwtor

Côd QR i holiaduron plant a phobl ifanc

Beth byddwn ni’n gwneud gyda’r atebion

Bydd yr atebion yn ein helpu i ddeall bywydau a phrofiadau plant, ac i ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth sydd angen iddyn nhw wneud i wella bywydau plant.

Blwyddyn nesaf, byddwn ni’n cyhoeddi cynllun gwaith ar sail yr atebion i’n holiadur. Bydd hyn yn dangos y gwaith rydyn ni’n bwriadu gwneud fel swyddfa i ddylanwadu newidiadau positif i blant.

Am y Comisiynydd

Rocio Cifuentes yw’r Comisiynydd Plant.

Mae ein swyddfa yn hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru. Mae gan bob plentyn dan 18 hawliau sy’n rhan o Gonfenswin y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Rydyn ni’n annibynnol, a ddim yn rhan o’r Llywodraeth.

Rydyn ni’n gweithio i bob plentyn sydd:

  • o dan 18 mlwydd oed
  • neu hyd at 21 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal, neu hyd at 25 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal a dal yn astudio

Os rydych chi angen cyngor

Mae gyda ni wasanaeth annibynnol, am ddim. Gallwch gysylltu gyda ni os rydych chi’n meddwl bod plentyn:
  • wedi ei drin yn anheg
  • ddim yn derbyn ei hawliau