Straeon i helpu oedolion casglu barn plant 2-7 oed

Stori i blant 2-3 oed (Agor fel Word Document)

Stori i blant 4-7 oed (Agor fel Word Document)

Bydd y dau stori yma yn eich helpu i:

  • esbonio i’ch plentyn ifanc pam rydyn ni eisiau clywed ei farn
  • gasglu ei safbwyntiau, gyda chyfarwyddiadau clir

Anfon yr atebion nôl

Gallwch anfon trwy:

  • Ebost i: post@complantcymru.org.uk
  • Bost i: Comisiynydd Plant, Ty Llywellyn, Parc Busnes Glan yr Harbwr, Heol yr Harbwr, Port Talbot, SA13 1SB

Beth byddwn ni’n gwneud gyda’ch atebion

Bydd eich atebion yn ein helpu i ddeall bywydau a phrofiadau plant, ac i ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth sydd angen iddyn nhw wneud i wella bywydau plant.

Blwyddyn nesaf, byddwn ni’n cyhoeddi cynllun gwaith ar sail yr atebion i’n holiadur. Bydd hyn yn dangos y gwaith rydyn ni’n bwriadu gwneud fel swyddfa i ddylanwadu newidiadau positif i blant.

Am y Comisiynydd

Rocio Cifuentes yw’r Comisiynydd Plant.

Mae ein swyddfa yn hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru. Mae gan bob plentyn dan 18 hawliau sy’n rhan o Gonfenswin y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Rydyn ni’n annibynnol, a ddim yn rhan o’r Llywodraeth.

Rydyn ni’n gweithio i bob plentyn sydd:

  • o dan 18 mlwydd oed
  • neu hyd at 21 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal, neu hyd at 25 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal a dal yn astudio

Os rydych chi angen cyngor

Mae gyda ni wasanaeth annibynnol, am ddim. Gallwch gysylltu gyda ni os rydych chi’n meddwl bod plentyn:
  • wedi ei drin yn anheg
  • ddim yn derbyn ei hawliau