Iechyd Meddwl

Cefndir

O dan erthygl 24 o Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn, mae gan bob plentyn hawl i’r safonau gofal iechyd gorau posib, ac i gael mynediad at gyfleusterau ar gyfer trin salwch ac ailsefydlu.

Ar sail ein hymchwil ein hunain a gwaith pobl eraill, rydyn ni’n gwybod mai iechyd meddwl a llesiant yw un o’r materion pennaf sy’n peri pryder i blant. Mae hynny hefyd yn wir am rieni a gofalwyr, a’r gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc.

Bydd y dudalen hon yn cyflwyno’r her sy’n ein hwynebu, a rhai o’r materion penodol sy’n gysylltiedig â chefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc, fel rwyf fi’n gweld pethau. Bydd hefyd yn rhannu rhai rhesymau i fod yn obeithiol.

Beth rydyn ni’n gwybod?

Er ein bod ni’n gwybod mai iechyd meddwl a llesiant yw un o’r materion pennaf sy’n peri pryder i blant, data cyfyngedig sydd ar gael ynghylch amlygrwydd salwch meddwl yng Nghymru. Dyma rywfaint o’r data sydd ar gael i greu darlun:

  • Canfu’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, ar sail eu harolwg o bobl ifanc oed ysgol uwchradd yn 2021/22, fod 46% yn adrodd bod ganddyn nhw symptomau iechyd meddwl ‘oedd yn cael eu hystyried ar lefel rywfaint yn uwch o leiaf… gyda 24% yn sôn am symptomau iechyd meddwl ar lefel “uchel iawn”’ (SHRN, 2023).
  • Yn fy arolwg o fwy nag 8,000 o blant a phobl ifanc yn hydref 2022, dywedodd tua dau draean o blant a phobl ifanc wrthyn ni eu bod yn pryderu am eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Mae’r lefel yma’n uwch ymhlith plant sy’n dweud eu bod yn perthyn i leiafrif ethnig, a phlant sydd yn y categori llai cefnog. Mae bron tri chwarter o’r plant a’r bobl ifanc yn y categori lleiaf cefnog yn pryderu am eu hiechyd meddwl.
  • Fe ofynnais i hefyd i fwy na 1,000 o rieni a gofalwyr am gefnogaeth iechyd meddwl i’w plant. Mae dros hanner yn pryderu am iechyd meddwl a llesiant eu plentyn yn aml, neu’n pryderu llawer amdano. Llai na hanner sy’n gwybod ble i fynd i gael cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant i’w plant, ac nid yw pedwar o bob pump yn hyderus y gallen nhw gael gafael ar gefnogaeth yn gyflym petai angen.
  • Cyhoeddodd y Senedd Ieuenctid adroddiad, Meddyliau Iau o Bwys, ym mis Tachwedd 2022, oedd yn adrodd ar ganfyddiadau eu hymgynghoriad â miloedd o bobl ifanc, lle canfuwyd bod ‘65% o bobl ifanc yn dweud eu bod yn cael trafferth ymdopi gyda’u hemosiynau a’u hiechyd meddwl o leiaf unwaith bob pythefnos, ond dim ond 23% ddywedodd eu bod wedi ceisio cael cefnogaeth’. Roedd yr adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys, ymhlith eraill, creu ‘“siop dan yr unto” gydnabyddedig yn ganolog ar gyfer gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth’; gwreiddio cefnogi iechyd meddwl a llesiant ym myd addysg; a gwell cefnogaeth i bobl ifanc yn gynharach er mwyn lleihau’r galw ar y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a’r Glasoed (CAMHS). Rydyn ninnau wedi ategu’r argymhellion hyn.

Gwaith achosion o’n gwasanaeth annibynnol Cymorth a Chyngor ar Hawliau Plant

Mae ein swyddfa’n clywed yn rheolaidd am brofiadau plant sy’n teimlo eu bod yn cael eu ‘bownsio’ rhwng gwasanaethau heb gael yr help cywir byth.

Rydyn ni’n cyflwyno rhai o’r enghreifftiau hynny yn ein cyfres Dim Drws Anghywir, ac yn cynnwys sefyllfaoedd fel y rhain:

  • mae plentyn yn mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys sawl tro, ac mae’r heddlu’n cael eu galw sawl tro, ond does dim cymorth therapiwtig yn cael ei ddarparu iddyn nhw, ac mae’r teulu’n cael ar ddeall bod CAMHS yn methu helpu;
  • plentyn yn gorfod aros mewn cyfleuster iechyd meddwl am wythnosau, er eu bod heb gael diagnosis iechyd meddwl, oherwydd bod dim darpariaeth amgen;
  • plentyn oedd wedi cymryd gorddos a arweiniodd at eu derbyn i’r ysbyty heb gael cefnogaeth ddilynol; yn cael eu rhoi ar restr aros ar gyfer CAMHS a gwasanaeth cwnsela’r ysgol, heb syniad pryd byddai apwyntiad ar gael. Yr adran gwasanaethau cymdeithasol lleol yn gwrthod rhoi cefnogaeth ac yn dweud wrth y teulu mai cyfrifoldeb CAMHS oedd cefnogi’r plentyn.

Mae’r sefyllfaoedd argyfyngus hyn fel arfer yn dilyn misoedd neu flynyddoedd o godi materion gyda gweithwyr proffesiynol, ond heb dderbyn y gefnogaeth gywir, a fyddai o bosib wedi atal y sefyllfa rhag gwaethygu.

Yn aml mae plant a phobl ifanc sy’n chwilio am help ar gyfer iechyd meddwl a llesiant hefyd yn disgwyl am asesiad ar gyfer cyflwr niwroddatblygiadol. Rydyn ni’n archwilio profiadau rhai o’r plant a’r bobl ifanc hyn yn ein hadroddiad o 2023, Dull Dim Drws Anghywir o ymdrin â Niwroamrywiaeth.

Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr, neu’n cefnogi pobl ifanc yn eich gwaith, ac rydych chi’n pryderu eu bod nhw ddim yn derbyn eu hawliau, gallwch chi gysylltu â’n gwasanaeth annibynnol Cyngor a Chymorth ar Hawliau Plant.

Ein hargymhellion

Fe gyflwynon ni gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru a’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn 2020 a 2022 i geisio sbarduno gwelliant yn y cynnig i blant ledled Cymru, trwy ein gwaith Dim Drws Anghywir. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar sail nifer o’n hargymhellion. Ers ein hadroddiadau rydyn ni wedi gweld enghreifftiau gwych sy’n teithio’r filltir ychwanegol i geisio cefnogi plant yn eu sefyllfa bresennol. Er bod gweld cynnydd yn braf, mae heriau’n parhau, ac rydyn ni’n ymhelaethu ar y rheiny yn yr adran ‘casgliad’.

Beth sy’n digwydd i gefnogi plant?

Ymatebion i argyfwng – Modelau Lloches Iechyd Meddwl

Mae Byrddau Iechyd ar draws Cymru wedi ehangu’r hyn maen nhw’n ei gynnig i blant a phobl ifanc mewn argyfwng iechyd meddwl, gyda’r rhan fwyaf o Gymru’n cynnig neu’n datblygu gwasanaeth ymateb 24/7 mewn argyfwng. Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, trwy’r Cytundeb Cydweithio, wedi darparu ar gyfer ‘modelau lloches iechyd meddwl’ newydd. Roeddwn i’n falch o gael ymweld â’r un cyntaf a agorodd, yng Nghaerfyrddin. Mae’r llochesi hyn yn lleoedd diogel, llonydd i blant sy’n profi argyfwng iechyd meddwl, ac maen nhw’n gallu cael mynediad trwy ffonio ymlaen llaw a dod draw’n fuan, neu mewn rhai achosion, mae modd iddyn nhw alw heibio. Mae gwasanaeth ffôn cymharol newydd ‘NHS 111 press 2’, gwasanaeth 24/7 i bobl sydd angen cefnogaeth iechyd meddwl ar frys, eisoes yn chwarae rhan hanfodol trwy gyfeirio’r rhai sy’n cysylltu â nhw at y gefnogaeth gywir lle bo modd. Mae modd cyfeirio pobl at y llochesi newydd trwy’r gwasanaeth hwnnw.

Ym model Caerfyrddin, mae’r staff yn cynnwys ystod o weithwyr proffesiynol o faes iechyd a’r tu hwnt sy’n gallu helpu i weithio i wneud y sefyllfa’n llai o argyfwng, cyn gweithio gyda’r person ifanc i greu cynllun ar gyfer yr oriau a’r diwrnodau nesaf, yn ogystal â nodau tymor hwy. Rwy’n wir yn croesawu’r model yma o ofal i blant a phobl ifanc, sy’n eu helpu yn ystod eu hargyfwng presennol, ond hefyd yn golygu eu bod yn gallu osgoi teimlo nad oes opsiwn ganddyn nhw heblaw mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys.

Paneli ymyrraeth gynnar ac anghenion cymhleth

Mae enghreifftiau ar draws Cymru o baneli sy’n dod â gweithwyr proffesiynol ynghyd ar draws asiantaethau i adolygu atgyfeiriadau plant ag anghenion cymhleth y mae angen dull amlasiantaeth yn aml i’w cefnogi. Yr enghreifftiau mwyaf hirsefydlog o’r paneli hyn yw’r Gwent SPACE-Wellbeing panels. Mae’r paneli hyn yn cwrdd bob wythnos, ac mae pawb sy’n cael atgyfeiriad yn cael cynnig gwasanaeth o fewn 28 diwrnod. Mae gwasanaethau niwroddatblygiadol hefyd yn rhan o’r paneli SPACE, sy’n golygu bod modd defnyddio ymateb amlasiantaeth hefyd i gefnogi’r plant hynny sy’n cael atgyfeiriad i’r tîm niwroddatblygiadol. Gall unrhyw un yng Ngwent atgyfeirio’u hunain i’r paneli hyn, ac mae’n bosib mai atgyfeiriad i wasanaethau arbenigol fydd yr ymateb, ond gallai arwain hefyd at y gwasanaeth lleol cymorth i deuluoedd, cefnogaeth iechyd meddwl trydydd sector, neu wasanaethau eraill. Mae’r dull gweithredu hwn yn helpu i sicrhau nad yw atgyfeiriadau’n cael eu hanfon yn awtomatig at CAMHS arbenigol, gyda’r plentyn yn treulio amser ar restr aros, os nad dyna’r opsiwn gorau iddyn nhw.

Rydyn ni wedi bod yn falch o glywed bod byrddau iechyd yn dysgu o fodel Gwent, a bod dulliau gweithredu tebyg wedi cael eu datblygu.

Dull Gweithredu Ysgol Gyfan

Mae gofyn bod pob ysgol yng Nghymru yn ystyried dull ysgol gyfan o ymdrin â iechyd meddwl a llesiant, a dylen nhw fod yn creu cynlluniau i wreiddio hynny. Nod y dull gweithredu ysgol gyfan yw cefnogi llesiant emosiynol a meddyliol da trwy hyrwyddo amgylchedd cefnogol mewn ysgolion, ochr yn ochr â sicrhau bod plant sydd angen cefnogaeth ychwanegol ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u llesiant yn cael y gefnogaeth briodol honno gan y gweithwyr proffesiynol cywir. Mae llawer o ysgolion yng Nghymru yn gwneud cynnydd da o ran eu cynlluniau dull gweithredu ysgol gyfan. Mae angen i ysgolion sicrhau bod plant yn rhan o’r broses ar ei hyd, fel bod y newidiadau a wneir yn adlewyrchu realiti anghenion y boblogaeth ysgol, a dylai Llywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru sicrhau eu bod yn monitro sut mae ysgolion yn gwneud hynny. Mae yna brosiectau gwerthuso’r gweithredu ar waith ar hyn o bryd, a byddwn ni’n cadw llygad barcud arnyn nhw.

NEST/NYTH

Offeryn ar gyfer cynllunio gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant ar draws Cymru yw fframwaith NEST / NYTH. Fframwaith yw hwn sy’n meithrin, sy’n grymuso, sy’n ddiogel, ac y mae modd ei drystio. Fe’i lluniwyd i gefnogi pob gwasanaeth, nid dim ond gwasanaethau iechyd meddwl, i gydweithio er mwyn helpu plant a phobl ifanc gyda’u hanghenion iechyd meddwl a llesiant. Rydyn ni’n cefnogi fframwaith NEST/NYTH, a’r ffaith ei fod wedi’i seilio ar hawliau dynol plant. Rydyn ni’n gobeithio gweld cynnydd pellach i wreiddio NEST / NYTH yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Ar y cyd â thîm NEST / NYTH yn Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, rydyn ni wedi cefnogi datblygiad modiwl e-ddysgu ar blatfform Ty Dysgu, a lansiwyd yng Ngwanwyn 2023. Mae’r modiwl e-ddysgu yn gyflwyniad i fframwaith NEST / NYTH, hawliau plant, a sut gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol roi’r ddau beth ar waith a’u cynnal.

Strategaeth genedlaethol iechyd meddwl a llesiant

Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth iechyd meddwl a llesiant ddrafft i bob oed, a’i strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio ddrafft i bob oed. Byddwn i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl a llesiant plant i ddarllen y rhain ac ystyried ymateb i’r ymgyngoriadau trwy ddilyn y dolenni uchod.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd y strategaeth newydd yn cynnwys ffocws gwirioneddol ar blant a phobl ifanc, gyda chynllun cyflawni penodol ar gyfer gwella profiadau plant, p’un a oes angen cymorth ataliol, lefel is neu fwy arbenigol arnyn nhw. Byddwn ni’n sicrhau bod ein hymateb yn adlewyrchu’r pryderon a’r heriau rydyn ni wedi’u clywed gan blant a phobl ifanc, rhieni/gofalwyr, ac o’r cyfarfodydd diweddar rydyn ni wedi’u cynnal gyda Byrddau Iechyd, yn ogystal â’r hyn rydyn ni’n ei glywed yn ein cyfarfodydd rheolaidd gyda gweithwyr proffesiynol eraill.

Beth mae Byrddau Iechyd yn gwneud?

Rhwng mis Rhagfyr 2023 ac Ebrill 2024 fe fues i’n cwrdd â phob bwrdd iechyd yng Nghymru i drafod iechyd meddwl a llesiant plant. Fe sonion nhw wrthyf fi am y pwysau ar wasanaethau oedd yn cefnogi plant gyda’u hiechyd meddwl, ond fe sonion nhw hefyd am enghreifftiau calonogol o ymarfer. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn gweithio gydag ysgolion i uwchsgilio a chefnogi staff trwy raglen In-reach CAMHS ac arfer arloesol arall;
  • Modelau arloesol sy’n golygu bod plant yn cael eu gweld yn gyflym o’u hatgyfeirio i’r gwasanaeth, a lle mae’r gefnogaeth yn cael ei theilwra i’w hanghenion unigol, yn hytrach na’u bod yn ymuno â rhestr aros arall;
  • Dulliau newydd o ymdrin â recriwtio a chadw, gan gynnwys gweithio gyda phrifysgolion i uwchsgilio graddedigion newydd, er enghraifft; a
  • Chynlluniau ar gyfer ymatebion i argyfwng a modelau ‘lloches’ newydd.

Yr Heriau

Er gwaethaf y datblygiadau hyn, mae’r heriau’n peri pryder mawr. Dyma rai o’r pethau glywais i gan y byrddau iechyd:

  • Mae’r gweithlu presennol yn cael trafferth ymateb i’r galw;
  • Mae plant a phobl ifanc yn rhy aml yn aros yn rhy hir i gael y gefnogaeth angenrheidiol, a dyw’r data mae Llywodraeth Cymru yn ei gasglu a’i gyhoeddi ar hyn o bryd ddim yn adrodd hanes profiadau plant, nac ymateb gwasanaethau, yn ddigonol;
  • Mae rhestrau aros blynyddoedd o hyd ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol, a diffyg cefnogaeth wrth aros;
  • Mae’r gwasanaeth ar gyfer plant ag anhwylderau bwyta yn annigonol;
  • Wynebir problemau’n aml wrth i berson ifanc bontio o’r gwasanaethau plant i rai’r glasoed (rydyn ni’n cefnogi ymgyrch Mind Cymru i wella’r profiad o bontio i wasanaethau oedolion – Sort the Switch). Fe glywson ni hefyd am adegau pan gaiff plant eu cadw ar wardiau oedolion neu mewn gofal arall amhriodol oherwydd bod dim gwelyau addas ar gael;
  • Mae problemau wrth gyrchu gofal iechyd meddwl arbenigol i gleifion mewnol;
  • Mae natur tymor byr trefniadau cyllido yn dal i olygu bod Byrddau Iechyd yn cael trafferth darparu gwasanaethau cynaliadwy. Er enghraifft, efallai bydd cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer prosiect peilot 6-mis, ond yn aml wedyn mae’n anodd cynnal hynny heb gefnogaeth bellach gan Lywodraeth Cymru;
  • Nid yw’r berthynas rhwng gwasanaethau iechyd ac addysg bob amser yn gadarnhaol, ac mae hynny’n golygu bod cyfle’n cael ei golli i wreiddio cefnogaeth iechyd meddwl mewn ysgolion; ac
  • Fel y gwelson ni yn ein gwaith Dim Drws Anghywir, mae anghytundeb yn parhau rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yng nghyswllt darparu ar gyfer plant ag anghenion cymhleth.

Beth mae eraill yn dweud

Sylwadau Terfynol y Cenhedloedd Unedig

Bob rhyw 5 mlynedd, mae Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn yn gofyn bod llywodraethau’n adrodd am sut maen nhw’n cynnal hawliau plant.

Ar y cyd â’n cydweithwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac ochr yn ochr â sefydliadau hawliau plant ar draws y Deyrnas Unedig, fe gyflwynon ni adroddiad i Bwyllgor y CU ym mis Tachwedd 2022.

Fel rhan o’n tystiolaeth i Bwyllgor y CU, buon ni’n gweithio gyda phobl ifanc o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i rannu eu lleisiau a’u profiadau. Fel rhan o’u hadroddiad, mynegodd pobl ifanc o Gymru yr angen am gefnogaeth a chyngor hygyrch ynghylch materion iechyd meddwl, gyda galwadau am fesurau ataliol. Mae’r adroddiad yn mynd ymlaen i sôn am sut dylai pobl ifanc fod yn ganolog i’r holl wasanaethau cefnogi, ac na ddylai unrhyw rwystrau atal pobl ifanc rhag derbyn y gefnogaeth angenrheidiol maen nhw’n ei haeddu. Felly, o bersbectif person ifanc, rydyn ni’n clywed eu bod nhw am fedru cyrchu cefnogaeth yn ôl yr angen, yn hytrach na chael eu hanfon i ffwrdd i gael hyd i’r holl wahanol wasanaethau eu hunain.

Ar ôl clywed ein tystiolaeth ninnau a thystiolaeth eraill, cyflwynodd Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn eu hargymhellion i holl Lywodraethau’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys nifer ar iechyd meddwl. Dyma grynodeb o’r hyn dylai Llywodraethau ei wneud:

  • Sicrhau bod gwasanaethau a rhaglenni iechyd meddwl cymunedol therapiwtig ar gael i blant o bob oed, a darparu hyrwyddo cynhwysfawr ar gyfer iechyd meddwl, sgrinio ar gyfer anawsterau iechyd meddwl, a gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn ysgolion;
  • Rhoi sylw ar frys i’r amserau aros hir i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl;
  • Cryfhau mesurau i ymdrin ag achosion gwaelodol iechyd meddwl gwael, anhwylderau bwyta ac ymddygiad arall hunan-niweidiol ymhlith plant, a buddsoddi mewn mesurau ataliol. 

Rydyn ni’n disgwyl i Lywodraeth Cymru ymateb i’r argymhellion hyn eleni.

 Casgliad

Mae’r her sydd o’n blaenau yn anferth, a phob dydd dyw plant a phobl ifanc yng Nghymru, yn syml, ddim yn derbyn y gwasanaeth maen nhw’n ei haeddu.

Mae’r her hon yn galw am ymdrech bendant ar y cyd, wedi’i seilio ar gamau gweithredu ystyrlon, mesuradwy.

Er gwaethaf gwaith fy swyddfa i amlygu llawer o’r materion hyn trwy ein prosiectau Dim Drws Anghywir, a gwaith diflino sefydliadau eraill, gan gynnwys rhai yn y trydydd sector, mae llawer o’r un problemau’n parhau, ac mewn llawer o achosion maen nhw wedi cael eu gwaethygu gan effaith y pandemig, a’r gostyngiad mewn safonau byw sy’n cael ei brofi ar draws Cymru.

Dyna pam rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau Cynllun Cyflawni penodol ar gyfer plant a phobl ifanc, fydd yn cyflawni uchelgeisiau’r strategaeth iechyd meddwl sydd i ddod.

Mae rhesymau i fod yn optimistaidd. Mae Byrddau Iechyd unigol yn darparu adnoddau ar gyfer dulliau arloesol o roi sylw i’r heriau hyn, ac mae rhai ohonynt wedi’u cynnwys uchod. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd o ran datblygu polisi, a darparu cyllid ar gyfer rhai prosiectau sy’n ceisio cyflwyno dull gweithredu Dim Drws Anghywir. Mae angen i hynny wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad yn ystod y blynyddoedd nesaf. Bydd fy nhîm a minnau yn awr yn gweithio i fonitro’r cynnydd i sicrhau bod hawl plant i dderbyn gofal o’r safon uchaf ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u llesiant yn cael ei gwireddu yng Nghymru.