Amddiffyniad Cyfartal i blant o’r diwedd

‘Beth, mae oedolion yn gallu bwrw plant?’

Bydda i wastad yn cofio ymateb fy mab ar ôl i fi ddechrau ymgyrchu yn gyhoeddus ar gyfer amddiffyniad cyfartal i blant.

Roeddwn i’n academig ar y pryd ym Mhrifysgol Caerdydd, a gyda chriw o gydweithwyr yn y maes roeddwn i’n dadlau bod angen i Gymru dal lan. Heddiw, mae dros 60 gwlad ar draws y byd wedi rhoi amddiffyniad cyfartal i’w plant rhag cosb gorfforol.

Rydyn ni wedi dal lan o’r diwedd, ond mae hi wedi bod yn broses hir.

Rydw i’n gwybod bydd gan lot mawr o blant Cymru ymatebion tebyg iawn i fy mab. Wedi’r cyfan, mae’r newid yn y gyfraith yn adlewyrchu newid mewn barn gyhoeddus – newid i ffyrdd positif o rhianta, cydnabyddiaeth bod plant yn ddinasyddion cyfartal gyda hawliau dynol eu hunain, a ffocws ar reoli gwrthdaro mewn ffordd barchus a thawel. Mae pob plentyn ym mhob ysgol yn dysgu nad bwrw yw’r ateb, a bod hi lot yn well i ddatrys ein problemau pob dydd trwy eiriau. Mae smacio rhywun i wneud nhw i fihafio mewn ffordd benodol yn groes i’r cysyniad yna.

Fel oedolion, dydyn ni ddim yn derbyn ymosodiadau corfforol yn ein perthnasoedd. Nawr, rydyn ni’n glir fel gwlad nad ydym yn derbyn hyn ym mherthnasoedd ein plant chwaith.

Mae ymchwil yn dangos bod smacio yn gallu cael effaith hirdymor ar iechyd ac ymddygiad plant. Fel academig, fy mhrif ffocws oedd ar danlinellu’r dystiolaeth glir a chynhwysfawr yma. Rydw i wedi parhau i wneud hyn fel Comisiynydd Plant, ond mae hi hefyd yn ddyletswydd arna i hyrwyddo a diogelu hawliau plant. Ac felly rydw i hefyd wedi pwysleisio’r pwynt bod y gyfraith wedi bod yn groes i hawliau plant, tan nawr.

Mae gan bob plentyn hawliau penodol fel rhan o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r ffaith bod y confensiwn yn bodoli yn adlewyrchu’r ffaith bod plant yn naturiol yn fwy bregus nag oedolion, a bod angen eu hamddiffyn nhw’n fwy. Mae eu hawliau yn cynnwys hawliau penodol i iechyd, i ddiogelwch, ac i gyrraedd eu potensial llawn. Does dim cytundeb hawliau dynol wedi cael eu mabwysiadu gan fwy o wledydd na CCUHP.

Trwy wrthod amddiffyniad cyfartal i blant, roedden ni’n atal plant rhag derbyn eu hawliau dynol. Roedden ni hefyd yn cynnig llai o amddiffyniad iddyn nhw nag oedolion, er y ffaith eu bod nhw’n fwy bregus. Dydw i ddim yn gallu meddwl am un maes arall lle byddwn ni fel oedolion yn derbyn bod gan ein plant llai o amddiffyniad na ni.

Yn amlwg, mae digon o bobl wedi anghytuno gyda fi a fy nghyd-ymgyrchwyr dros y blynyddoedd. Roedd ymgyrchu weithiau yn teimlo fel tasg anodd, a cafon ni dadleuon ffyrnig. Ond wedi dweud hynny, mae pob newid yn atynnu ymatebion cymysg. Ond pwy nawr byddai’n ymgyrchu i smocio mewn tafarn? Pwy fyddai’n ymgyrchu  i wneud gwregysau diogelwch yn  ddewisol, yn  hytrach na’n rheol? Yn y blynyddoedd i ddod, dwi ddim yn dychmygu byddai unrhyw un yn cael eu cymryd o ddifrif petasai nhw’n ymgyrchu i gael gwared ar yr amddiffyniad ychwanegol yma i blant.

Dwi’n ddiolchgar eu bod hi wedi datblygu i fater llai dadleuol, ac rydw i’n hyderus bod Cymru yn  cefnogi hyn fel gwlad.

Wrth gwrs, mae angen bod unrhyw newid fel hyn hefyd yn rhan o becyn mawr o godi ymwybyddiaeth a chefnogaeth, ac rydw i’n falch o’r gwaith rydyn ni wedi gwneud fel gwlad. Rydw i’n hyderus y bydd Cymru yn defnyddio’r newid yn  y gyfraith fel platfform i hyrwyddo rhianta positif, ac i gefnogi rhieni sy’n gweld pethau’n anodd.

Rydw i hefyd yn falch bod y ddeddfwriaeth arwyddocaol yma wedi llwyddo o ganlyniad i weithio mewn partneriaeth. Mae wedi bod yn gymaint o bleser gweld gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, o iechyd i’r heddlu, uwch arweinwyr crefyddol i’r sector wirfoddol, yn gweithio fel un ar hyn.

Mis nesaf yw fy mis olaf fel Comisiynydd Plant Cymru. Wrth i fi adael y rôl arbennig yma, bydda i’n hapus iawn fod Cymru wedi blaenoriaethu hawliau plant mewn ardal lle, cyn heddiw, nid oedd plant yn cael eu trin yn gyfartal.

Os ydy fy mhlant i yn dewis i gael plant eu hunain un diwrnod, dwi’n siŵr bydden nhw wedi eu synnu hyd yn oed yn fwy na fy mab i ddysgu ein bod ni wedi derbyn smacio plant yn y gorffennol.

Efallai bydda i’n dweud wrthyn nhw am fy rôl i mewn gwthio’r newid yma yng Nghymru, a fy niolchgarwch i’r gweddill a wthiodd y newid hefyd.