Cylchlythyr Awst

Comisiynydd yn ymateb i gyhoeddiad Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru ar Ysbyty Hillview

Mis hwn ymateb Rocio i gyhoeddiad yr Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru fod cofrestriad yr ysbyty iechyd meddwl wedi cael ei atal. Gallwch ddarllen y datganiad llawn ar ein gwefan.

Diwrnod Chwarae Cenedlaethol

Ar yr ail o Awst buom yn rhan o ddathliadau Diwrnod Cenedlaethol Chwarae yn Wrecsam! Roedd hi’n wych gweld canol y ddinas llawn ystod eang o weithgareddau a chyfleoedd chwarae. Mae chwarae yn rhan bwysig o fywydau plant ac roeddem yn falch i weld cymaint o deuluoedd yn mwynhau’r hawl i chwarae (Erthygl 31 CCUHP). Arweiniodd ein tîm gweithgareddau a oedd yn cynnwys annog plant i wneud llun o’u hunain yn chwarae eu hoff degan neu wrth wneud pethau meant yn eu mwynhau.

Panel Ymgynghorol Oedolion

Mae’r mis hwn wedi bod yn gyffrous wrth i ni gwrdd ag aelodau newydd ein panel ymgynghorol oedolion am y tro gyntaf. Roedd hi’n wych gweld unigolion sydd yn angerddol am greu newid cadarnhaol ym mywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Prif bwrpas ein panel ymgynghorol yw darparu cyngor, cefnogaeth, archwiliad a herio’r Comisiynydd a’i thîm yn annibynnol, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldebau statudol yn effeithiol

Strategaeth Tair blynedd

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi cyhoeddi ein strategaeth tair blynedd, ‘Gwella Bywyd i Blant yng Nghymru’,  sydd yn gosod allan ein blaenoriaethau sydd yn seiliedig ar dystiolaeth casglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf y Comisiynydd yn ei rôl, ac yn arddangos sut fyddwn yn hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru. Mae’r strategaeth ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar ein gwefan.

Tlodi Plant

Yn ddiweddar fe wnaeth Rocio gwrdd â Victoria Winkler o’r Bevan Foundation a Chris Birt o’r Joseph Rowntree Foundation er mwyn trafod yr  angen am ymateb effeithiol i fater tlodi plant. Mae’r Comisiynydd yn parhau i alw am gynllun gweithredu clir a mesuradwy gan Lywodraeth Cymru i  fynd gyda’r strategaeth tlodi plant.

Gobeithion i Gymru

Llynedd fe wnaeth bron i 9,000 o blant a phobl ifanc gymryd rhan yn ein harolwg ‘Gobeithion i Gymru’. Fe wnaeth rhieni, gwarchodwyr ac athrawon gymryd rhan trwy rannu eu safbwyntiau gyda ni. Gallwch nawr ddarllen ein hadroddiad dwyieithog gyda chanfyddiadau ein harolwg ar ein gwefan. Rydym hefyd wedi cyhoeddi adnoddau am y canfyddiadau er mwyn adborth y canfyddiadau i blant â phobl ifanc yng Nghymru.

Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc 

Ymunodd 12 o aelodau’r panel ymgynghorol pobl ifanc y mis hwn ar gyfer ein cyfarfod, a oedd yn gyfle i’r pobl ifanc arwain y trafodaethau. Y prif bwnc y mis hwn oedd am ardaloedd gwyrdd, gwnaeth rhai o’r aelodau gyflwyno eu pryderon am ddatblygiadau yn eu hardaloedd lleol. Hefyd yn ddiweddar mae Is-Grŵp y panel wedi cael ymateb gwych i’w gwaith lle buon nhw’n galw ar awdurdodau lleol i ddiweddaru’r grŵp am eu gwaith ar newid hinsawdd.