Comisiynydd yn ymateb i gyhoeddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar ysbyty Hillview

Yn ymateb i gyhoeddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bod cofrestriad ysbyty iechyd meddwl Hillview wedi’i atal, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

“Rydyn ni wedi cael pryderon am ddarpariaeth Ysbyty Hillview ers nifer o flynyddoedd. Yn haf 2022, ymwelais â’r lleoliad mewn ymateb i bryderon a ddaeth i’m swyddfa gan deuluoedd plant a leolwyd ar y pryd yn yr ysbyty. Codais i’r pryderon hynny gyda’r Arolygiaeth, y Corff Comisiynu a Llywodraeth Cymru. Mewn ymateb i argymhellion yn ein hadroddiad blynyddol yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ymrwymodd y Llywodraeth i sicrhau digon o gymorth arbenigol i bobl ifanc yng Nghymru.

“Flwyddyn yn ddiweddarach, ac adroddiad beirniadol arall gan yr arolygwyr. Ac eto rydyn ni heb ffordd ymlaen clir gan y Llywodraeth ar ofalu am blant sydd â’r lefel uchaf o anghenion iechyd meddwl. Yn hollbwysig, rydym heb leoliad therapiwtig diogel sbesiffig ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cymorth iechyd meddwl arbenigol yng Nghymru Mae pobl ifanc a’u teuluoedd yn haeddu gwell a byddaf yn codi eto gyda’r Llywodraeth beth yw eu cynllun tymor byr i wneud yn siŵr bod cymorth ar gael yng Nghymru, sy’n addas i blant yng Nghymru, ac yn ail, gydag arolygwyr am eglurder ynghylch pam y caniatawyd i’r lleoliad i barhau am gyfnod mor hir pan oedd yr un methiannau yn amlwg ers sawl blwyddyn.”