Hiliaeth mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru

Ein hymchwil ar hiliaeth mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru

Safbwyntiau plant

Trwy ein hymchwil, ‘Cymerwch y peth o ddifri’: Profiadau Plant o Hiliaeth mewn Ysgolion Uwchradd, clywon ni bod plant a phobl ifanc o leiafrifoedd ethnig ar draws Cymru yn profi hiliaeth mewn sawl ffordd – o ficro-ymosodedd i gam-drin geiriol a chorfforol, ac ar waelod y raddfa, bod y profiad hwnnw bron yn rhan normal o’u bywydau.

Clywon ni am lawer o resymau, gyda phrofiadau personol yn eu hegluro, pam na fydd dysgwyr o reidrwydd yn adrodd am ddigwyddiadau hiliol, gan gynnwys:

  • normaleiddio hiliaeth
  • methu gwybod beth i’w ddisgwyl os byddan nhw’n rhoi gwybod amdano
  • ofn y gallai’r broses eu llethu’n emosiynol a bod yn llafurus
  • a pheidio disgwyl bydd llawer yn digwydd beth bynnag

Mae hynny’n golygu, at ei gilydd, fod plant fel arfer yn gweld digwyddiadau hiliol fel rhywbeth nad yw’n werth rhoi gwybod amdanynt. Mae hynny’n awgrymu bod yr achosion yr adroddir amdanynt mewn gwirionedd yn frig gweladwy mynydd iâ anferth.

Barn athrawon

At ei gilydd, adroddodd athrawon nad ydynt yn teimlo’n barod nac yn hyderus i ymateb i hiliaeth. Bydden nhw’n hoffi cael arweiniad mwy ymarferol a chliriach, yn ogystal a chefnogaeth barhaus ynghylch sut dylen nhw ymateb i’r broblem hon wrth iddi esblygu.

Darllenwch ein hadroddiad llawn

Ymchwil eraill yn berthnasol i hiliaeth mewn ysgolion yng Nghymru

Mae sawl adroddiad wedi cael ei gyhoeddi ar hyn neu faterion cysylltiedig dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r adroddiadau yn dangos yn glir bod profiadau o hiliaeth yn gyffredin i bobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yng Nghymru.

Ymchwil mwy eang sy’n berthnasol i brofiadau pobl ifanc o gefnidoredd ethnig lleiafriol

Amrywiaeth ethnig yng Nghymru

Mae plant yng Nghymru yn grŵp ethnig sy’n mynd yn fwyfwy amrywiol, gyda bron 13% (dros 50,000) o’r holl ddisgyblion ysgol yn dod o ‘Unrhyw gefndir ethnig arall’ yn hytrach na ‘Gwyn Prydeinig’.

Mae cryn amrywiadau rhanbarthol, o 34.4% yn ysgolion Caerdydd i 4.1% yn ysgolion Ynys Môn. Er gwaethaf yr amrywiadau rhanbarthol hyn, mae amrywiaeth ethnig i’w weld ym mhoblogaethau dysgwyr ar draws Cymru. Mae hyn yn cynnwys plant o gefndiroedd amrywiol sy’n cynnwys tras Affricanaidd, Affro-Garibïaidd, Asiaidd, Americanaidd (Canolbarth a De), a thras Ewropeaidd, y mwyafrif ohonynt wedi’u geni yng Nghymru.

Beth sy’n digwydd i fynd i’r afael â hiliaeth mewn ysgolion yng Nghymru?

Rydyn ni’n parhau i weld gwaith positif yng Nghymu sy’n ceisio newid profiadau pobl ifanc.

Yn 2023, daeth y Cwricwlwm newydd i Gymru i rym yng Nghymru, ac un o’i bedwar diben yw ‘creu dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd’.

I gefnogi hyn, comisiynodd Llywodraeth Cymru waith arloesol dan arweiniad yr Athro Charlotte Williams, a arweiniodd at Gymru’n dod yn wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud addysgu hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn orfodol yn y cwricwlwm ysgol.

Elfen allweddol a ddeilliodd o’r gwaith hwnnw oedd comisiynu dysgu proffesiynol i addysgwyr ar hiliaeth a gwrth-hiliaeth trwy’r prosiect Dysgu Proffeisynol Amrywiaeth a Gwrthhiliaeth (DARPL).

Yn ogystal, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu ‘Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru Wrth-hiliol’  yn 2022, cynllun uchelgeisiol, cynhwysfawr a gynhyrchwyd ar y cyd ag unigolion a sefydliadau oedd â phrofiad bywyd o hiliaeth. Mae gan y Cynllun Gweithredu hwn adran benodol ar addysg, gyda nifer fawr o ymrwymiadau.

Er gwaethaf y camau pwysig hyn at wella amrywiaeth yr hyn mae plant yn dysgu mewn ysgolion, a’r hyn mae athrawon yn ei ddysgu am hiliaeth, mae’r dystiolaeth yn parhau i gynyddu ynghylch profiadau anghyfartal ym myd addysg a phrofiadau parhaus o hiliaeth a digwyddiadau hiliol ymhlith dysgwyr o grwpiau ethnig amrywiol.

Beth ydyn ni eisiau i ddigwydd?

Mae ein hadroddiad yn gwneud 22 argymhelliad ar draws y themau yma:

  • ymateb cryfach i Hiliaeth a Digwyddiadau Hiliol mewn ysgolion
  • hyfforddiant a chefnogaeth i’r ysgol gyfan ar ddeall hiliaeth ac ymateb i ddigwyddiadau hiliol
  • data Cenedlaethol ar hiliaeth mewn ysgolion

Mae’r armgymhellion yn cynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru roi eglurhad yn y canllawiau gwrthfwlio diwygiedig sydd ar ddod sut mae’n disgwyl i ysgolion ymateb i ddigwyddiadau hiliol, eu cofnodi, ac ymdrin â nhw.
  • Yn ei chanllawiau gwrthfwlio diwygiedig, dylai Llywodraeth Cymru roi cyfarwyddyd i ysgolion ddelio â digwyddiadau hiliol a’u cofnodi fel rhai cyfatebol i ddigwyddiadau diogelu, gan sicrhau bod systemau ysgol a rhai rhanbarthol ar gyfer mynegi pryderon yn weladwy ac yn hygyrch.
  • Dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen ar frys gyda’r gwaith a gynlluniwyd i ddatblygu system Cymru gyfan o gofnodi ac adrodd am ddigwyddiadau hiliol mewn ysgolion, gan sicrhau bod sylfaen gyfreithiol ar gyfer casglu’r data yma, ac egluro gwahanol rolau a chyfrifoldebau ysgolion, awdurdodau lleol a chyrff eraill o fewn y system yma.
  • Dylai Consortia Gwella Ysgolion Cymru ddatblygu rôl ‘pencampwr gwrth-hiliaeth’ a grwpiau llywio sy’n cynnwys pobl a sefydliadau â phrofiad bywyd i gefnogi ysgolion i ddiwygio polisiau, gan ymateb i ddigwyddiadau a chodi lefel sgiliau staff ar y pwnc yma, yn ogystal â chynnig cyngor uniongyrchol i ysgolion ar faterion byw. Dylai’r rolau hyn gael eu cysylltu â Chydlynwyr Rhanbarthol arfaethedig ARWAP Llywodraeth Cymru.
  • Dylai polisiau ysgol ar ymateb i ddigwyddiadau hiliol gael eu cyfleu i bob disgybl mewn modd hygyrch a hwylus i blant a phobl ifanc, er mwyn cefnogi dysgu a datblygu diwyliant gwrth-hiliol yn yr ysgol.
  • Dylai polisiau ysgol ar ymateb i ddigwyddiadau hiliol fod yn eglur ynghylch beth sy’n digwydd i’r person sy’n adrodd, a’r person yr honnir iddynt fod yn hiliol, a dylai gynnwys adran ar ddarparu mecanweithiau adborth rheolaidd, amserol a sensitif i bawb a fu’n ymwneud .’r digwyddiad ac y bu’n effeithio arnyn nhw.
  • Dylai hyfforddiant am hiliaeth a gwrth-hiliaeth ac adnabod ac ymateb i ddigwyddiadau hiliol fod yn orfodol i’r holl arweinwyr addysg, athrawon a staff cefnogi, a chael ei adnewyddu o leiaf bob 3 blynedd, yn debyg i hyfforddiant diogelu. Er mwyn sicrhau safon a chysondeb, dylid cydlynu hyn trwy rwydwaith DARPL, a ariannir gan Lywodraeth Cymru, a’i gysylltu . gwaith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL).
  • Dylai CBAC roi blaenoriaeth i sicrhau cynnydd yn y gwaith sydd eisoes yn digwydd gyda DARPL i adolygu a diwygio rhestrau testunau yn y meysydd llafur sy’n cynnwys iaith hiliol, gan gydnabod effaith hynny ar ddysgwyr ac amgylchedd/diwylliant yr ysgol.

Ein gwaith parhaus a y mater yma

Rydyn ni’n angerddol am ddylanwadu newidiadau i wella profiadau pobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, yn ogystal a pharhau i weithio ar gydraddoldeb yn fwy eang.

Byddwn ni’n:

  • ystyried ymateb disgwyliedig y Llywodraeth i’n hadroddiad yn fanwl, a dogfennau arall hollbwysig yn cynnwys canllaw newidd gwrthfwlio i ysgolion. Byddwn ni’n parhau i ddal y Llywodraeth i gyfrif ar ei haddewidion.
  • parhau i hyrwyddo Dull Seiliedig Hawliau Plant ar draws lleoliadau addysg a chyrff cyhoeddus, sy’n hyrwyddo cydraddoldeb fel rhan o fframwaith hawiliau wedi ei seilio ar hawliau dynol.
  • parhau i rannu’r profiadau a gafodd eu rhannu gyda ni yn ein hadroddiad: i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, sefydliadau allweddol, arweinwyr ysgol, ac ymarferwyr, i helpu dylanwadu ar newid.

Cyngor a Chymorth

Mae ein gwasanaeth Cyngor a Chymorth yma i roi cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a’r rhai sy’n gofalu amdanynt os nad yw plentyn neu berson ifanc yn derbyn eu hawliau.

Gallwn ddarparu cyngor a chymorth yn uniongyrchol i neu mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc hyd at 18 oed (neu hyd at 25 mewn rhai amgylchiadau) a gallwn helpu ar unrhyw fater y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae’r gwasanaeth am ddim, yn canolbwyntio ar atebion ac yn gyfrinachol. Fodd bynnag, os rydyn nin meddwl bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o niwed, mae gennym ddyletswydd i rannu’r pryderon hyn.