Gobeithion i Gymru – Canfyddiadau

Rhannodd 8,330 o blant a phobl ifanc eu barn gyda ni trwy ein holiadur Gobeithion i Gymru. Yn ogystal â hyn, clywon ni gan dros 1,000 o rieni, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol.

Hoffwn ni ddiolch i bawb a gymerodd rhan i nodi y pethau rydych chi eisiau newid i wella bywydau plant yng Nghymru.

Adroddiad Gobeithion i Gymru

Lawrlwythwch ein hadroddiad llawn (PDF)

Fideo ar gyfer plant a phobl ifanc

Stori adborth ar gyfer plant gydag anawsterau dysgu dwys a lluosog

Am y tro cyntaf, roedd plant gydag anawsterau dysgu dwys a lluosog yn gallu cymryd ran yn ein holiadur.

Rydyn ni wedi creu adnodd i helpu gweithwyr proffesiynol i esbonio ein canfyddiadau i’r plant a gymerodd rhan, ac i ddweud beth rydyn ni am wneud nesaf.

Lawrlwythwch y stori adborth (Agor fel PDF)

Stori adborth ar gyfer plant o dan 7 oed

Rhannodd tua 400 o blant o dan 7 oed eu barn gyda ni.

Mae ein hadnodd yn helpu gweithwyr blynyddoedd cynnar i esbonio ein canfyddiadau i’r plant a gymerodd rhan, ac i ddweud beth rydyn ni am wneud nesaf.

Lawrlwythwch y stori adborth (Agor fel PDF)

Larlwythwch y stori adborth (Agor fel Powerpoint)

Ein strategaeth tair blynedd

Mae eich barn wedi bod yn ganolog i’n strategaeth tair blynedd, sy’n dangos y camau rydyn ni am gymrd i wella bywydau plant yng Nghymru.

Cliciwch ar y botwm yma i lawrlwytho ein strategaeth tair blynedd