Fy addewid Cymraeg

Ers dechrau fel comisiynydd, mae’n amlwg i fi fod yr iaith Gymraeg yn un byw yma, gyda’r staff yn ei ddefnyddio bob dydd, ym mhob agwedd o’u gwaith. Dyw e ddim yn rhywbeth rydyn ni ond yn defnyddio i gyfleu negeseuon ond yn rhywbeth ni’n ei ddefnyddio i gysylltu gyda’n gilydd a gyda rheiny rydyn ni yma i gynrychioli.

Mae’n anrhydedd bod yn gomisiynydd i blant Cymru. Rhan bwysig o’r swydd yw i fedru gwrando a chynrychioli barn plant a phobl ifanc o ar draws Cymru. Rhan annatod o hynny fydd fy ngallu i fod mor hygyrch â phosibl i gymaint o blant â phosibl ac i gysylltu gyda nhw. Mae hyn yn golygu mod i’n benderfynol sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn rhywbeth fydd yn dod yn fyw ac yn rhywbeth alla i  ddefnyddio bob dydd, ym mhob agwedd o fy rôl.

Yma, mae staff yn gosod addewidion Cymraeg; dyma fy rhai i am eleni:

  1. Llwyddo yn fy arholiad Cymraeg cyntaf.
  2. Cymryd rhan mewn gwersi Cymraeg yn wythnosol a defnyddio’r Gymraeg bob dydd.
  3. Gwarchod ac hyrwyddo hawliau ieithyddol plant yn ein gwaith.
  4. Diweddaru pobl am fy siwrnai o ddysgu Cymraeg drwy gyhoeddi blogiau am beth dwi’n gwneud.
  5. Rhannu fy addewidion Cymraeg i bob blwyddyn.