Cylchlythyr Mai

Ysgol y Dderwen
Mae mis Mai wedi bod yn fis llawn ymweliadau ysgolion gwych gan Rocio ac aelodau o’n tîm Cyfranogiad. Mae wedi bod yn wych gweld sut mae gwahanol ysgolion yn plethu dysgu am hawliau yn eu hystafelloedd dosbarth a’u hardaloedd allanol. Gwnaeth ymweliad ag Ysgol y Dderwen yng Nghaerfyrddin gynnwys gwasanaeth ysgol gyfan a thrafodaeth gyda’i Llysgenhadon Hawliau sydd wedi bod yn cynnwys yr ysgol gyfan gan greu heriau hawliau. Cafodd Rocio hefyd gyfle i ddysgu’r plant bach o Sbaeneg!

Ysgol Gynradd Mair Ddihalog
Gwnaethom hefyd ymweld ag Ysgol Gynradd Mair Ddihalog yn Hwlffordd, lle gwnaethom wasanaeth oedd yn canolbwyntio ar ‘o le mae bwyd yn dod’. Adlewyrchodd hyn yr Hawl y Mis yma sef, Erthygl 27 hawl i safon dda o fyw. Roedd clywed o Gabinet a Gweinidogion yr ysgol yn gyfle gwych i ddysgu mwy am eu hymdrechion i wneud eu gardd helygen a’r pwll yn hygyrch.
Os hoffech wneud cais am ymweliad i’ch ysgol cysylltwch gyda’n swyddfa os gwelwch i fod yn dda.

Canolfan Plant Jig-so
Rydym hefyd wedi ymweld â sefydliadau sy’n cefnogi plant a’u teuluoedd mis hwn. Ym mis Mai aethom i Ganolfan Plant Jig-so yn Aberteifi. Dyma sefydliad sydd wedi bod yn cefnogi plant ers dros 30 mlynedd. Darparodd hyn gyfle i ni siarad gyda rhieni a gwarchodwyr sy’n defnyddio’r ganolfan ynghyd a siarad gyda ymddiredolwyr hefyd.

Os ydych chi’n sefydliad sydd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac eisiau i ni ymweld  chi, cysylltwch gyda’n swyddfa.

Ysgol Tŷ Coch, Pontypridd
Yn ddiweddar aeth Rocio a dau aelod o’n staff ar ymweld ag Ysgol Tŷ Coch ym Mhontypridd, i gasglu gwybodaeth ar gyfer ymchwiliad y senedd am fynediad plant at addysg. Gwnaethom gwrdd â phlant a phobl ifanc o dri dosbarth a wnaeth ateb ein cwestiynau a rhannu eu profiadau gyda ni. Gan gynnwys Leigh Wharton a’i dosbarth a wnaeth helpu ni gydag arolwg Gobeithion i Gymru PMLD yn Hydref 2022.

Clwb Cŵl Byddar Caerdydd
Cawsom gyfle gwych i ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc ar ôl cael gwahoddiad i ymweld â Chlwb Cŵl Byddar Caerdydd. Fe wnaethom gynnal gweithdy hawliau a thrafod hawliau Erthyglau 31,28 a 24 o’r CUCHP. Roedd hi’n gyfle gwych i ryngweithio gydag unigolion lle BSL yw eu hiaith gyntaf, a dysgu am yr heriau meant yn wynebu wrth gael mynediad i wasanaethau yng Nghymru.  Diolch am y gwahoddiad!

Cyngor Ieuenctid Caerdydd
Fel rhan o’n grwpiau ffocws ar gyfer prosiect Hiliaeth mewn Ysgolion, wnaethom gwrdd 37 o bobl ifanc o ysgolion ar draws Caerdydd yn Siambrau Neuadd y Ddinas. Clywodd y grŵp am eu profiadau a’u safbwyntiau.

Show Racism the Red Card, Llandudno
Mae wedi bod yn fis prysur yng Ngogledd Cymru. Aeth aelodau o’n Tîm Cyfranogi fynychu digwyddiad dathlu, Dangos Cerdyn Coch i Hiliaeth ‘Arweinwyr nawr’ yn Llandudno. Roedd hi’n arddangosfa wych o weithredoedd arweinir gan ddysgwyr i hyrwyddo wrth-hiliaeth. Mae’r cyfle i weld ymarferiad da yn ein helpu ei fwydo gwybodaeth i’n gwaith prosiect am Hiliaeth mewn Ysgolion. Yn hwyrach y diwrnod hynny, cynhaliodd y tîm grŵp ffocws yn Wrexham fel rhan o’n prosiect Hiliaeth mewn Ysgolion er mwyn glywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc am eu profiadau o hiliaeth mewn ysgolion.

Lansiad Siarter Plant Betsi Cadwaladr
Mynychodd y Comisiynydd Plant dau ddigwyddiad lansio yng Ngogledd Cymru, gyda hawliau plant a ‘dim drws anghywir’ yn thema allweddol. Yn gyntaf, lansiad ‘Siarter Plant’ Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, lle gwnaeth proffesiynwyr o ar draws Ogledd Cymru ddod ynghyd i farcio’r lansiad, a phwysigrwydd gynnwys dull hawliau plant. Mwynhaodd tîm Comisiynydd Plant Cymru wneud gweithdy hawliau gyda’r attendees, a hefyd cafwyd araith gan y Comisiynydd Plant.

Ysgol y Gogarth
Wedyn mynychodd y Comisiynydd Plant lansiad ‘Fideos Bywyd ar ôl Ysgol’ a ‘Chyfres We Drws Cywir’ yn Ysgol y Gogarth yn Llandudno.

“Mae wedi bod yn wych cael cwrdd â chlywed gan bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sydd wedi bod yn rhan o greu’r adnodd pwysig yma – Cyfres We Drws Cywir. Rydw i‘n falch iawn o weld y dull partneriaeth sydd wedi galluogi hyn, ac ymrwymiad y bobl ifanc wnaeth gyd-gynhyrchu’r adnodd hwn. Dwi’n ymwybodol bod yr enw ‘Drws Cywir’ wedi ei hysbrydoli gan ddull Dim drws anghywir fy swyddfa, a dwi’n falch bod bobl ifanc wedi creu’r enw, cymryd ymsyniad a’i greu yn rhywbeth cadarnhaol ac sy’n cadarnhau hawliau iddynt! Hoffwn longyfarch pawb sydd yn rhan o’r gwaith a dymuno pob hwyl ichi yn eich gwaith.” – Comisynydd Plant Cymru

Grŵp Ieuenctid Stand NW
Roedd hi’n bleser ymuno gyda Grŵp Ieuenctid Stand NW ar lein er mwyn trafod eu profiadau o addysg. Gwnaeth trafodaeth onest ac agored y grŵp fwydo dealltwriaeth y Comisiynydd am yr heriau sy’n wynebu plant gydag anableddau  , fel rhan o ymchwiliad ‘Mynediad Plant Anabl i Addysg’.