Cylchlythyr Ionawr

Neges gan Rocio – ei gobeithion ar gyfer 2023

Blwyddyn Newydd Dda pawb, a dwi wir yn gobeithio bod 2023 yn eich trin chi’n dda hyd yn hyn. Mae blwyddyn newydd wastad yn dod â gobaith a phosibiliadau, felly meddyliais i rannu’r pethau rwy’n gobeithio amdanynt yn 2023.

Wel, yn gyntaf gobeithiaf fydd 2023 yn flwyddyn lle byddaf yn gallu cwrdd â chlywed gan fwy ohonoch, neu hyd yn oed os na fyddaf yn eich cwrdd wyneb yn wyneb, byddwch yn clywed wrthaf i, neu byddai’n clywed wrthoch chi. Cysylltwch os oes gennych rywbeth i rannu neu unrhywbeth hoffwch fy ngwahodd i ymweld. Mae yna nifer o ffyrdd i gysylltu! Bydd Marged ein Cynorthwyydd Cyfathrebu yn falch i glywed wrthoch, mae hefyd gen i Dîm Cyfranogi gwych J! Os oes gennych bryder difrifol am eich hawliau cysylltwch gyda’n Gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor.

Yn ail, hoffwn 2023 i fod yn flwyddyn o weithredu ar yr hyn mae pobl ifanc wedi dweud wrthaf. Roedd yn wych bod dros 8,000 o bobl ifanc wedi ymateb a rhannu, yn fy arolwg diweddar Gobeithion i Gymru, yr hyn sy’n bwysig iddynt, y pethau sy’n mynd  yn dda a’n wael i bobl ifanc a beth hoffent i mi ffocysu arno am y blynyddoedd nesaf. Mae fy nhîm yn bresennol yn brysur yn darllen a dadansoddi eich holl ymatebion a byddwn yn cyhoeddi ein cynllun 3 mlynedd cyn bo hir gan ddechrau gweithio ar y cynllun yn Ebrill 2023!

Yn drydedd, byddaf yn parhau i herio‘r rhai sy’n gwneud penderfyniadau pwysig sy’n effeithio plant a phobl ifanc yng Nghymru er mwyn sicrhau ei bod nhw’n cyflawni’r hyn meant yn dweud a’n gwrando ar blant a phobl ifanc wrth barchu hawliau plant. Er fod llywodraethau mewn cyfnod heriol yn ariannol, mae’n hollbwysig bod plant yn cael eu diogelu trwy gydol y cyfnodau hyn. Dwi’n credu byddaf yn gorfod parhau i ddweud hyn! Rydw i hefyd yn awyddus i gysylltu gyda mudiadau eraill sy’n dweud pethau tebyg am Dlodi Plant a deall sut gall ein lleisiau fod yn gryfach gyda’n gilydd.

Yn olaf, mae bod yn atebol i blant yn rhywbeth sydd yn gymhwysol i mi hefyd, dyna pam dwi’n edrych ymlaen at groesawu aelodau newydd i fy Mhanel Ymgynghorol Ifanc mewn cyfarfod wyneb yn wyneb ym mis Chwefror! Mae’r grŵp hwn yn allweddol ar gyfer fy herio a gwneud yn siŵr fy mod yn ffocysu ar beth sy’n bwysig i chi. Rwyf hefyd yn awyddus i ddatblygu trafodaethau dwfn gyda Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn gweld sut gallwn gysylltu gyda’n gilydd yn well a chryfhau sut dwi’n atebol i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Wel, dyna ddigon ar gyfer fy rhestr dymuniadau am nawr, ond dwi bob tro’n barod i glywed mwy o awgrymiadau wrthoch chi! Hwyl am y tro J

Rocio

Cwrdd Amaia

Does dim llawer o ddyddiau gwaith lle mae gen i’r cyfle i siarad Sbaeneg, ond fe wnes i fwynhau siarad gyda Amaia wythnos diwethaf. Symudodd hi i Gymru o Newcastle, ac mae ei theulu o Fecsico. Buodd hi’n rhannu ei phrofiadau o ddysgu Cymraeg fel rhan o raglen teledu newyddion i blant fydd yn darlledu ar S4C yn hwyrach yn y flwyddyn. Siaradom ni am sut mae siarad Sbaeneg wedi ein helpu i ddysgu Cymraeg, a’r pethau rydym yn caru am siarad mwy nag un iaith. Gracias Amaia!

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghymru

Yn ddiweddar trafododd y Panel Ymgynghorol Ifanc gyda’r comisiynydd am unigolion fel Andrew Tate a’i dylanwad ar bobl ifanc. Roedd nifer o’r aelodau yn poeni am risg hyn a sut gall nifer o bobl ddilyn yr agweddau yma. Yn wir, mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd a gorfodol yng Nghymru fel gall blant a phobl ifanc ddysgu am gydraddoldeb, parch ac empathi mewn perthnasau. Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnal y trafodaethau hyn gyda phlant a phobl ifanc mewn gofod lle gallant herio a chael eu herio gan beth maent yn gweld yn y cyfyngau wrth barchu ystod o safbwyntiau. Gallwch ddarllen mwy am beth oedd gan ein panel ymgynghorol i ddweud am y pwnc ar ein gwefan.

Amcanion ein Panel Ymgynghorol Ifanc ar gyfer 2023

Mis yma, gwnaeth ein Panel Ymgynghorol Ifanc gwrdd â thrafod eu hamcanion dros y flwyddyn nesaf. Prif bynciau ffocws rhai o’r grŵp oedd trafnidiaeth gyhoeddus am ddim ar gyfer pobl ifanc, taclo hiliaeth, homoffobia a thrawsffobia mewn ysgolion a symud tuag at wisg ysgol sydd yn fwy cynhwysol o holl ddiwylliannau a chefndiroedd.

Penderfynodd y grŵp ffocysu ar ymgyrchu dros drafnidiaeth gyhoeddus am ddim ar gyfer pobl ifanc a chytuno ar rai gweithredoedd i gamu ymlaen. Roedd hyn yn cynnwys ysgrifennu blog am y pwnc, ysgrifennu deiseb i’r Senedd i annog eraill i gefnogi’r achos a chysylltu â Senedd Ieuenctid Cymru i weld os gallant gydweithio ar y mater hwn. Cytunon nhw i greu is-grŵp o’r panel a chwrdd eto mewn rhai wythnosau er mwyn asesu cynnydd.

Lawnsio’r Tasg Arbennig

Yn ystod y mis hwn mae ein Tîm Cyfranogi wedi bod yn brysur yn lansio ein Tasg Arbennig ar gyfer ein Llysgenhadon mewn Ysgolion a chymunedau i’w gwblhau yn ystod tymor y Gwanwyn. Mae Tasgau Arbennig yn dasgau ar gyfer plant a phobl ifanc y ein Hysgolion a Grwpiau Cymunedol Llysgennad sy’n helpu gwaith ein swyddfa, a dysgu plant a phobl ifanc am eu hawliau a’r CCUHP. Yn ein harolwg Gobeithion i Gymru, cafodd ei gwblhau diwedd llynedd, dysgom fod 61% o blant rhwng 6-11 oed yng Nghymru yn poeni am arian a sut fydd yn effeithio eu bywydau. Mae Tasg Arbennig y tymor hwn yn adlewyrchu hyn a’n cynnwys tasgau am gostau byw a chostau yn gysylltiedig â’r diwrnod ysgol. Mae’r rhain yn cynnwys pethau fel gwisg ysgol a gweithgareddau allgyrsiol. Mae’r tîm wedi bod yn gweithio’n galed i greu gweithgareddau bydd yn helpu plant a phobl ifanc drafod a deall sut gall gostau byw effeithio eu bywydau a sut gallant weithio gyda’u hathrawon ar syniadau i helpu eu hysgol a’u cymuned.

Gallwch ddarllen mwy am ein Tasg Arbennig yma.

Etholiadau a phleidleisio

Yn ystod y mis hwn mae ein Swyddog Cyfathrebu Lewis wedi bod yn adlewyrchu ar ei dro gyntaf yn pleidleisio mewn etholiad. Edrychai nôl ar yr hyn roedd ef yn gwybod, a sut mae wedi newid yn y blynyddoedd ers hynny. Mae’r blog hefyd yn adlewyrchu ar adnoddau a newidiadau sy’n galluogi pobl ifanc i wybod mwy ar sut i ddefnyddio eu pleidlais. Y 30ain o Ionawr fydd cychwyn Wythnos ‘Croeso i dy Bleidlais’ Y Comisiwn Etholiadol sef wythnos i ddechrau’r drafodaeth am ddemocratiaeth a gwleidyddiaeth gyda phobl ifanc. Gallwch ddarganfod mwy am sut i gymryd rhan ar wefan Y Comisiwn Etholiadol.

Hefyd, gallwch ddarllen y blog llawn ar ein gwefan.