Teenager looks at a smartphone

Safbwyntiau fy mhanel ymgynghorol ar Andrew Tate

Ddydd Llun fu fues i’n holi fy mhanel ymgynghorol o bobl ifanc am Andrew Tate, y dylanwadwr y mae’r cynnwys gwenwynig y mae’n ei rannu, sy’n sarhau menywod, wedi cael ei drafod yn helaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Grŵp o bobl ifanc 11-18 oed o bob rhan o Gymru yw fy mhanel, ac maen nhw’n fy nghynghori i a’r tîm ar ein gwaith ac yn rhannu eu profiadau a’u barn gyda ni.

Beth oedden nhw wedi clywed am Andrew Tate? Oedden nhw’n pryderu am beth roedden nhw wedi gweld? Beth oedden nhw’n meddwl ddylai ddigwydd?

Dyma beth ddwedson nhw:

‘Dod yn fwy poblogaidd’

“Rwy’n credu bod e’n lledu ei farn ac yn dod yn fwy poblogaidd. Bydd pobl yn dechrau deall a siarad a derbyn ei farn yn fwy. Dyw rhai o’r pethau mae e’n trafod ddim yn iawn.”

‘Mae’n bosib creu argraff ar bawb’

“Rwy’n teimlo bod e’n eitha hawdd creu argraff ar bawb yn yr oed yma. Mae’n un peth gweld hyn ar-lein, ond mae hyd yn oed yn cael ei drafod yn yr ysgol yn ABCh. Cawson ni’n dysgu amdano fe, ond roedd pawb yn gyffrous iawn. Roedd llwyth o bobl yn cytuno da beth roedd e’n dweud. Dyw rhai pobl yn fy ngrŵp dosbarth i ddim yn gall, ac roedden nhw’n dweud bod e’n berson da a’u bod nhw’n caru fe. Gallai rhai pobl ddweud bod nhw’n caru fe er mwyn ffitio mewn gyda phobl eraill.’

‘Peryglus’

“Mae’n beryglus bod e’n cael ei drafod mewn dosbarthiadau. Rwy’n credu bod llawer o arddegwyr yn hanner addoli fe oherwydd bod ganddo fe lwyth o arian a phethau moethus yn ei fywyd, ond mae hynny’n mynd law yn llaw â’i agweddau a’i farn am bethau fel rhywioldeb a bod yn fenyw. Maen nhw’n eitha peryglus ac mae’n poeni fi bod plant yn gallu bod yn agored i ddylanwad beth mae e’n dweud. Rwy’n poeni am blant diniwed sy’n nodweddiadol yn gwrando ar hyn. Hefyd dydw i ddim yn hoffi sut mae’n defnyddio’i grefydd i gyfiawnhau agwedd sarhaus at fenywod a homoffobia.”

‘Cymryd cymaint o le ac amser’

“Dydw i ddim yn amgylchedd yr ysgol i gael gwybod beth mae pobl ifanc yn gweld. Ond rwy wedi’i weld ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’n mynd â chymaint o le ac amser, a allai fod yn cael eu defnyddio i siarad am bethau adeiladol i helpu’r byd. Er mwyn i fi glywed amdano fe, gyda mod i ddim yn yr amgylchedd yna, mae’n golygu ei fod wedi ymledu’n bwnc sgyrsiau cyffredinol, ac wedi gwreiddio yn y gymdeithas ac yn siarad pobl. Mae hynny’n achos pryder.”

‘Mae wedi achosi rhaniadau rhwng llawer o bobl’

“Dydyn ni ddim yn siarad am unrhyw beth fel’na yn y chweched dosbarth, oherwydd bod addysg rhywioldeb a chymdeithas yn dod i ben unwaith rydych chi’n cyrraedd 16 oed. Mae wedi creu rhaniadau rhwng llawer o bobl ar sail dadleuon mewn grwpiau o ffrindiau. Dyw e ddim yn iawn”

‘Mae llawer o blant yn agored i ddylanwad hyn’

“Mae perygl ei fod yn pegynnu pobl. Rwy wedi gweld erthygl ar BBC Cymru Fyw am fenyw o dde Cymru yn adrodd stori am ddylanwad y pethau ddywedodd Andrew Tate ar ei mab, a’i fod wedi mabwysiadu llawer o’i agweddau. Mae pobl ifanc mewn perygl oddi wrth y pethau yma ar-lein, fel llawer o eithafiaeth asgell dde eithafol, mae llawer o blant yn agored iawn i ddylanwad hyn. Dyw e ddim yn iawn bod hyn yn digwydd.”

Trafodaethau dosbarth

Dydw i ddim wedi cael fy nysgu am hyn yn yr ysgol, felly y cyfan rydw i wedi bod yn gwneud yw creu rhagdybiaethau ar sail clywed pethau gan bobl eraill. [Byddai’n dda] clywed am hyn yn uniongyrchol gan athrawon, sy’n gallu dweud wrthyn ni pam dyw beth mae e’n gwneud ddim yn iawn, yn enwedig pobl ifancach. Efallai bod nhw [pobl ifanc] ddim yn deall cymaint o effaith mae beth mae e’n dweud yn cael.

Cael ein dysgu amdano fe

Falle dylen ni gael ein dysgu amdano fe. Allwn i ddim dweud unrhyw beth wrthych chi. Fe wnaeth fy ysgol i gymharu fe â Harry Styles a sôn bod gwrywdod Andrew Tate yn wenwynig, yn wahanol i Harry Styles. Ond nid cymharu fe â rhywun arall fel Harry Styles, rhywun mae pobl yn dwlu arno fe, yw’r syniad gorau. Dylen ni gael ein dysgu am beth mae e’n gwneud a gweld pam dyw hynny ddim yn iawn.

Poeri atgasedd

Rwy’n credu, gyda gwrywdod gwenwynig, y gallai pobl ifanc 12-13-14 oed dyfu i fyny mewn amgylchedd lle mae pobl yn dweud wrthyn nhw beth i’w wneud ac mae confensiynau cymdeithasol yn fwy amlwg. Maen nhw’n ddioddefwyr cymdeithas ar un ystyr. Yn amlwg mae llawer o’r teimladau hynny, falle teimladau cas atyn nhw eu hunain, yn cael eu cyfleu mewn ffordd wahanol. Pan fyddan nhw’n poeri atgasedd at grwpiau eraill fel menywod a LHDTC+. Mwy o broblem wedi’i mewnoli. Mae’n fwy o broblem gyda’r blynyddoedd iau, yn fy mlwyddyn i, rydyn ni’n ei gasau. Mae gan bawb hawl i fynegi ei hun, oni bai bod hynny’n amharu ar fywyd rhywun arall.

Casgliad

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghymru

Roedd pawb yn y grŵp wedi clywed am Andrew Tate, ac fe ddwedodd pawb ohonyn nhw eu bod nhw’n poeni am ei ddylanwad a’r risg mae’n ei achosi i bobl ifanc.

I fi, mae hyn yn dangos yn eglur iawn pam mae addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd orfodol Cymru mor bwysig. Mae angen i bobl ifanc fedru bod yn rhan o berthnasoedd llawn parch sydd wedi’u seilio ar gydraddoldeb ac empathi. Mae angen iddyn nhw ddeall cydsyniad, ac mae angen iddyn nhw wybod sut mae perthynas afiach neu gamdriniol yn edrych. Maen nhw hefyd angen safe space i herio, ac i gael eu herio ynglyn â’r hyn maen nhw’n eu gweld ac yn eu clywed yn y cyfryngau, tra’n parchu ystod eang o safbwyntiau.  Bydd hynny’n eu helpu i gadw’n ddiogel, i fyw bywydau hapus, ac i feddwl yn feirniadol am negeseuon sy’n mynd yn groes i’r nodau a’r gwerthoedd hynny.

Yn ogystal â gwrthod dylanwadwyr gwenwynig, mae hi hefyd yn bwysig bod pobl ifanc sy’n cael eu dylanwadu gan negeseuon tebyg yn derbyn cefnogaeth. Dyma un o’r rhesymau mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb mor bwysig, a pam mae dysgu a chymorth proffesiynol  o safon uchel ar gyfer yr athrawon a fydd yn cael y sgyrsiau yma gyda phobl ifanc yn hanfodol.

Cyfryngau Cymdeithasol

Mae hwn yn tanlienllu pwysigrwydd rheoliadau diogelwch newydd ar-lein hefyd. Nid yn unig mewn ymateb i nifer bach o unigolion; mae yna ystod eang o gynnwys a dylanwadwyr sydd â’r potensial i niweidio plant a phobl ifanc. Dyma pam mae angen deddfwriaeth  sy’n amddiffyn plant yn iawn rhag cynnwys niweidiol, ac sy’n cosbi’r bobl a’r platfformau sydd ddim yn cydymffurfio.

Adnoddau

Mae yna nifer o adnoddau o safon uchel ar wefan Llywodraeth Cymru sy’n trafod ystod eang o faterion diogelwch arlein. Mae rhain wedi eu creu ar gyfer pobl ifanc, rhieni, ac addysgwyr.

Mae adnodd o’r enw ‘effaith y dylanwadwr’ sy’n cynnwys cyngor gan arbenigwyr i helpu oedolion rheoli yr effaith gall dylanwadwyr eu cael ar blant a phobl ifanc.