Cylchlythyr Medi

Y Comisiynydd yn rhannu gwybodaeth i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Rhannodd y Comisiynydd dystiolaeth i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ei ymchwiliad sydd yn ffocysu ar ddrafft strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru.
Prif neges y Comisiynydd ydy bod angen i Lywodraeth Cymru adolygu ei strategaeth draft mewn modd cynhwysfawr. Nid yw’n cyfateb i ddifrifoldeb y sefyllfa mae plant a phobl ifanc Cymru yn ei hwynebu heddiw, yn ddiffyg uchelgais, ac yn bwysig, mae angen i’r strategaeth cyd-fynd gyda Chynllun Gweithredu cynhwysfawr a fframwaith monitro sy’n gosod allan targedau a chanlyniadau mesuradwy.

Gallwch ddarllen ein cyflwyniad i’r pwyllgor ar wefan y Senedd.

Tŷ Hafan

Yn ddiweddar aeth y Comisiynydd ac aelod o’n Tîm Polisi ar ymweliad i Dŷ Hafan, sef Hosbis ar gyfer plant a phobl ifanc. Gwnaethant glywed am y gofal diwedd oes maent yn darparu i nifer o blant a’u teuluoedd ar draws Cymru. Roedd hi’n wych gwrando arnynt yn rhannu eu gwaith a’i heffaith gyda ni.

Hwb Caerdydd

Aeth Rocio ac aelod o’n tîm polisi ar ymweliad i lansiad yr Hangout yn ddiweddar. Dyma ofod newydd sydd wedi cael ei gynllunio ar y cyd gyda phobl ifanc er mwyn iddynt allu cael mynediad i gefnogaeth iechyd meddwl a chyfleoedd i ymuno gyda grwpiau lles creadigol. Creuwyd yr Hangout o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Platform. Roedd hi’n arbennig cael gweld gwasanaeth mor bwysig wedi ei greu gyda phobl ifanc.

Diwrnod Datblygiad Staff

Y mis hwn daeth y staff at ei gilydd mewn cyfarfod wyneb yn wyneb i drafod syniadau, mewnwelediadau a meddyliau am faterion hawliau plant sydd yn wynebu plant a phobl ifanc yng Nghymru ar hyn o bryd. Cawsom drafodaethau gwych gan glywed o bob tîm o fewn y sefydliad fel rhan o’n broses cynllunio. Edrychwn ymlaen at wneud gwaith pellach ar hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru.

Ymweliad Ysgol Penyrheol

Fe wnaeth Rocio fwynhau ymweliad arbennig iawn i ysgol Gynradd Penyrheol a oedd yn cynnal gwasanaeth er mwyn cofio 50 mlynedd ers grym milwrol yn Chile (lle ganwyd Rocio) ac i gofio’r dioddefwyr. Rhannodd ein Tîm Cyfranogi sesiwn ar y llyfr o’r enw ‘The Journey’ gan Francesca Sanna gyda’r dysgwyr a chafwyd trafodaethau gwych am y llyfr sy’n trafod hawliau plant. Roedd y plant yn gyffrous i rannu dechrau eu taith dysgu am hawliau gyda ni.

Cynhadledd CLlLC

Cynhaliwyd Cynhadledd CLllLC yn Venue Cymru, Llandudno eleni. Agorwyd y digwyddiad gan y Prif Weinidog, a wnaeth dynnu sylw at heriau allweddol sydd yn wynebu awdurdodau lleol, a phobl yng Nghymru gan gynnwys yr argyfwng costau byw. Yma trafododd Rocio ein papur ar y cyd gyda Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg ar yr Iaith Gymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gallwch ddarganfod mwy a darllen y papur ar y cyd ar ein gwefan.

ENOC – Brwsel

Mae Mis Medi wedi bod yn fis prysur i’r Comisiynydd wrth iddi deithio i Wlad Belg i’r Gynhadledd Sefydliadau Hawliau Plant Annibynnol. Dyma gynhadledd lle mae comisiynwyr plant ac ombwdsmyn yn cwrdd er myn trafod materion sydd yn wynebu plant a phobl ifanc yn ei hawdurdodaeth. Eleni, thema’r gynhadledd oedd “Rôl Sefydliadau Hawliau Plant Annibynnol”. Roedd hi hefyd yn wych i glywed gan Rwydwaith Cynghorwyr Ifanc Ewropeaidd a chlywed safbwyntiau gan bobl ifanc o ar draws y cyfandir.

Mis nesaf byddwn yn cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol, a’n cwrdd â, ac yn gwrando ar bobl ifanc mewn digwyddiadau ymgysylltu ym Mlaenau Gwent, Gwynedd, Ynys Môn, Powys ac Abertawe.