Cylchlythyr Gorffennaf

Ymateb y Comisiynydd i gyhoeddiad prydiau ysgol am ddim 
Y mis hwn ymatebodd Rocio i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod nhw yn mynd i leihau darpariaeth prydiau ysgol am ddim tu allan i dymor yr ysgol a’r grant hanfodion ysgol. Yn ei hymateb, adlewyrchodd Comisiynydd Plant Cymru ar beth ddywedodd plant a phobl ifanc yn ein harolwg Gobeithion i Gymru, lle nodwyd eu bod nhw’n poeni am ddim cael digon o fwyd. Rhannodd hi ei phryder bydd y rhif hwn yn cynyddu yn ystod y gwyliau ysgol, ac ysgrifennodd at y Gweinidog Addysg yn galw ar wrth droi y penderfyniad.

Comisiynydd yn galw am gael gwared ar y terfyn dau blentyn
Ynghyd â sefydliadau hawliau plant eraill o ar draws y DU, galwodd y Comisiynydd ar gael gwared y terfyn dau blentyn mewn llythyr ar y cyd i arweinwyr pleidiau yn San Steffan.
Gallwch ddarllen mwy ar y dudalen yma.
Dywedodd Rocio:
“Rwy’n bryderus iawn am effaith tlodi plant yng Nghymru, ac rwyf wedi galw’n barhaus ar Lywodraeth Cymru i gynllunio a monitro camau gweithredu penodol a mesuradwy i helpu’r niferoedd enfawr o blant sy’n cael eu heffeithio. Ond mae’n amlwg mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y prif ysgogwyr cymorth ariannol i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi. Mae newidiadau amlwg y gallai ac y dylai Llywodraeth y DU ei wneud i daliadau lles, a fyddai’n rhoi mwy o arian ym mhocedi miloedd o deuluoedd ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar y terfyn dau blentyn, sydd i bob pwrpas yn cosbi plant am fod â mwy nag un brawd neu chwaer, gan eu hamddifadu o’u hawliau dynol i safon byw, iechyd a datblygiad da. Mae hwn yn bolisi creulon y mae’n rhaid ei ddileu.”

Digwyddiad Teach the Future yn y Senedd
Y mis hwn mae ein Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc wedi cael cyfleoedd i fynychu digwyddiadau lle maent wedi siarad am bynciau sydd yn bwysig iddyn nhw. Yn ddiweddar, buodd tri aelod o’n panel yn siarad yn nigwyddiad Teach the Future yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Siaradodd y tri yn wych gan rannu eu safbwyntiau am weithredu o achos newid hinsawdd.

Cynhadledd Addysgiadol Prifysgol De Cymru 
Yn ddiweddar, siaradodd Rocio mewn Cynhadledd Addysgiadol cafodd ei gynnal ym Mhrifysgol De Cymru, Campws Pontypridd. Roedd y gynhadledd yn trafod Anghenion Addysgiadol Ychwanegol a phwysigrwydd dull hawliau plant yn y maes hwn o addysg. Aeth dau aelod o’n panel ymgynghorol pobl ifanc. Rhannodd y ddau aelod eu profiadau personol mewn addysg yn ystod cyflwyniad y Comisiynydd. Defnyddiodd y Comisiynydd Plant y cyfle i dynnu sylw ein Gwasanaeth Cyngor ac Ymchwiliadau.
Gallwch ddarganfod mwy am ein Gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor ar ein gwefan.

Cyfarfodydd Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc
Mae mis Gorffennaf wedi bod yn fis prysur i’n Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc. Cafodd aelodau o’r panel fynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb i drafod ac adlewyrchu gwaith ein swyddfa.  Bu’r aelodau o Ogledd Cymru yn cwrdd yng Nghyffordd Llandudno, a’n aelodau o Dde Cymru ym Merthyr Tudful. Rhyngweithiodd y bobl ifanc mewn trafodaethau a rhoi mewnwelediad gwych ar gyfer ein swyddfa yn y ddau gyfarfod. Trafododd y grŵp sut gallwn wella ein cynlluniau llysgenhadon ac edrych ar rhai o’n hargymhellion ar gyfer ein Hadroddiad Blynyddol. Diolch i bawb wnaeth gymryd rhan.

Cyngor Ieuenctid Dinbych
Yn ystod y mis diwethaf aeth dwy o’n Swyddogion Cyfranogiad fynd i ddigwyddiad yn Siambrau Cyngor Rhuthun ar gyfer ysgolion clwstwr Ysgolion Uwchradd Dinbych. Roedd disgyblion o nifer o ysgolion yn bresennol ac fe wnaethon nhw drafod am eu gwaith gyda’u Cynghorau Ysgol yn ystod y tymor ysgol ddiwethaf. Cynhaliodd ein tîm Gweithdy Hawliau gyda’r plant a phobl ifanc a oedd yn trafod hawliau plant.

Digwyddiad Pride Hawarden 
Roedd Tîm Comisiynydd Plant Cymru yn falch o gael fod yn rhan o ddiwgyddiad Pride Ysgol Uwchradd Hawarden ‘Dathlu bod yn fi fy hun’. Roedd hi’n wych cael gweld pobl ifanc o ysgolion uwchradd ar draws Sir y Fflint yn ymuno i ddathlu Pride. Gwahoddwyd y bobl ifanc i ysgrifennu neges ar ein baner ‘Dathlu bod yn fi fy hun’ a oedd yn hyrwyddo’r hawl am beidio â chael dy wahaniaethu (Erthygl 2) a’r hawl i gael dy lais wedi’u chlywed (erthygl 12).

Cynhadledd ‘Gwrando ar ein Lleisiau mwyaf ifanc’ 
Yn fis Gorffennaf mynychodd o’n tîm cynhadledd flynyddol cyntaf Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREY), ‘Gwrando ar ein lleisiau mwyaf ifanc’. Roedd hi’n wych clywed am ymarferiad da ar draws y DU a oedd yn hyrwyddo llais plant yn y blynyddoedd cynnar. Mae’n hollbwysig bod hyd yn oed ein plant mwyaf ifanc gyda’r hawl i gael eu llais wedi’u clywed (Erthygl 12)!