Cylchlythyr Mehefin

Lansio ein Strategaeth Tair Blynedd
Fis diwethaf cyhoeddom ein strategaeth tair blynedd newydd, sy’n amlinellu beth fyddwn yn gwneud dros y tair blynedd nesaf i ddiogelu a hyrwyddo hawliau plant yng Nghymru. Mae’r strategaeth yn gosod ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n pwrpas i helpu gwneud bywyd yn well i blant yng Nghymru.

Mae ein cynllun tair blynedd ar gael i’w ddarllen ar ein gwefan yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Eisteddfod yr Urdd
Dechreuodd mis Mehefin gydag wythnos wych yn Eisteddfod yr Urdd, cynhaliwyd yr ŵyl eleni yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. Bu sawl aelod o staff ar y stondin trwy gydol yr wythnos yn rhyngweithio gyda phlant, rhieni a gweithwyr proffesiynol o fewn y sector addysg a gofal plant. Darparodd ein stondin lleoliad tawel i blant ymlacio a oedd yn cynnwys teganau synhwyraidd. Roedd hi’n wych cael trafod sut gall gweithwyr proffesiynol ddefnyddio ein hadnoddau dwyieithog ac am ddim i osod dysgu am hawliau plant yn eu gwaith. Bu’r Eisteddfod hefyd yn gyfle i dynnu sylw at ein gwasanaeth cyngor ac ymchwiliadau i ymwelwyr o ar draws Cymru. Yn ystod yr wythnos roeddem yn gofyn i blant a phobl ifanc ddangos ar fap o ble redden nhw wedi teithio i gyrraedd yr Eisteddfod. Erbyn ein diwrnod olaf, roedd y map llawn sticeri ym mhob cornel o Gymru.

Hefyd, yn yr wythnos lansiodd Rocio papur ar y cyd gyda Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, yn tynnu sylw at bwysigrwydd darpariaeth cyfrwng Cymraeg i blant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Diwrnod Datblygu Staff, Sain Ffagan
Yn ddiweddar cwblhaodd ein staff diwrnod yn San Ffagan ar ddiwrnod braf iawn. Fe wnaeth y tîm gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddoli ar draws yr amgueddfa gan gynnwys torri cloddiau a chlirio llwybrau. Rydym yn falch o fod wedi gallu ymroi mewn modd cadarnhaol mewn atyniad diwylliannol Cymreig bwysig.

Ysgol Pillygwenlly
Aeth Rocio ar ymweliad i Ysgol Pillygwelly yn gynt y mis hwn. Cawsom wahoddiad gan yr ysgol i’r Comisiynydd ddod i weld eu gwaith. Cafodd Rocio ei chefnogi ar yr ymweliad gyda dau aelod o’n tîm cyfranogiad. Ymunodd ddysgwyr o Ysgol Uwchradd Lliswerry ac Ysgol Sant Andrew hefyd. Daeth yr ysgolion at ei gilydd i gwrdd Rocio a thrafod materion sydd yn effeithio plant o gymunedau Sipsiwn, Roma neu Deithwyr. Gwrandawodd Rocio ar eu profiadau, a chlywodd beth oedden nhw eisiau gweld yn newid. Ynghyd â hyn siaradodd hi gyda nhw am ei rôl fel Comisiynydd Plant. Cafodd y plant a phobl ifanc gyfle i ofyn cwestiynau i Roico am y materion sydd yn bwysig iddynt. Roedd hi’n ymweliad gwych ac yn hyfryd cwrdd grŵp o ddysgwyr brwdfrydig.

Os hoffech wahodd ein tîm ar ymwelid i’ch ysgol. Cysylltwch gyda’n swyddfa trwy ein gwefan.

Cynhadledd Cefnogi Teuluoedd, Rhieni a Phlant
Yn ystod y mis hwn mynychodd a siaradodd Rocio yng Nghynhadledd Cefnogi Teuluoedd, Rhieni a Phlant yng Nghasnewydd. Yma ailadroddodd ei galwad at Lywodraeth Cymru i ddarparu cynllun gweithredu tlodi plant sydd yn cynnwys  targedau clir a mesuradwy i daclo tlodi plant yng Nghymru. Yn dilyn ei araith arweiniodd rhai aelodau o’n tîm gweithdy hawliau gyda’r unigolion wnaeth fynychu oedd yn ffocysu ar hawliau plant.

Yn ddiweddar, ymatebodd Rocio i ddrafft strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru. Er mwyn darllen ei hymateb yn llawn ewch at ein gwefan. 

Is-grŵp Newid Hinsawdd ein Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc
Mae rhai aelodau o’n Panel Ymgynghorol Ifanc wedi sefydlu is-grŵp i drafod Newid Hinsawdd, a dros y misoedd diwethaf meant wedi bod yn rhannu syniadau ar sut gal newid hinsawdd effeithio are u bywydau. Yn ddiweddar fe wnaeth y grŵp cyfarfod i drafod eu gwaith hyd yn hyn. Mae ei gwaith wedi cynnwys ysgrifennu blog a chreu deiseb am faterion sydd yn bwysig iddynt.

Coleg Plas Dwbl (Ruskin Mill Trust)
Yn ddiweddar aeth Rocio ar ymweliad i Goleg Plas Dwbl sydd yn rhan o’r Ruskin Mill Trust yn Sir Benfro. Fe wnaeth yr ymweliad gynnwys cyfle i’r Comisiynydd gwrdd â phennaeth y coleg a rhyngweithio a gwrando ar bobl ifanc sydd yn mynychu cyrsiau yna. Roedd hi’n wych glywed am eu profiadau yng Ngholeg Plas Dwbl a chlywed eu gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mwynhaodd y tîm ddysgu mwy am eu cyngor dysgwyr na sut mae hyn yn gweithio o fewn y coleg.

Os hoffech drefnu ymweliad o’n swyddfa, cysylltwch trwy ein gwefan.