Cylchlythyr Ebrill

Llysgenhadon Cymunedol

Ar ddiwedd mis Mawrth roedd Rocio’n falch iawn i gynnal ei digwyddiad Llysgenhadon Cymunedol gyntaf yng Ngogledd Cymru. Daeth y digwyddiad â grwpiau ynghyd o ar draws Gogledd Cymru i gwrdd â Chomisiynydd Plant Cymru, i ddysgu mwy am hawliau plant a rhannu eu meddyliau a theimladau am unrhyw broblemau mae eu cymunedau yn profi ar hyn o bryd.

Fe wnaeth y grwpiau fwynhau gweithgareddau fel arwerthiant hawliau a chael y cyfle i siarad gyda’r Comisiynydd am y pethau sydd yn pryderu plant a phobl ifanc yn eu cymunedau. Diolch  Grŵp  Inclusion (Wrecsam), WCD Young Carers, Mind Our Future project Barnados, EYST a Stand NW wnaeth cymryd rhan yn y digwyddiad.

Mae’r cynllun Llysgenhadon Cymunedol yn gyfle i ystod eang o grwpiau cymunedol i fod yn rhan o waith swyddfa Comisiynydd Plant. Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am sut i fod yn rhan o’r cynllun yma.

Cynhadledd Mudiad Meithrin

Yn ddiweddar gwnaeth ddau o aelodau ein Tîm Cyfranogi fynychu Cynhadledd Mudiad Meithrin De Cymru yn Abertawe, a oedd yn dilyn thema ‘Llais y Plentyn’. Bu hi’n bleser cael ein gwahodd unwaith eto eleni yn dilyn ein presenoldeb yng Nghynhadledd Gogledd Cymru llynedd. Roedd gennym stondin a oedd yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer gweithwyr blynyddoedd cynnar i ryngweithio, ymgysylltu a thrafod sut gallant glymu dysgu hawliau plant gyda phlant ifanc. Arweiniodd ein staff ddau weithdy yn ystod y diwrnod, un ar hawliau plant a’r llall ar sut mae modd cyflwyno hawliau plant o fewn eu sefydliadau. Roedd hi’n gyfle gwych i’n staff ni wrando a rhyngweithio gyda phroffesiynwyr eraill oedd yn cymryd rhan yn y gynhadledd.

Os ydych chi’n gweithio gyda phlant ifanc neu yn y sector blynyddoedd cynnar, gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ac adnoddau er mwyn cynnwys hawliau plant yn eich gwaith ar ein gwefan.

Ein Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc yn cwrdd Ymgynghorwyr Ifanc Western Cape (De Affrica)

Cafodd ein Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc gyfle cyffrous a diddorol i gwrdd gydag Ymgynghorwyr Ifanc Comisiynydd Plant Western Cape. Darparodd y cyfarfod rithiwr gyfle i’r bobl ifanc rhannu sut mae’r paneli yn cydweithio gyda’r Comisiynydd Plant. Gofynnodd y ddau grŵp nifer o gwestiynau gwych am eu gwaith a’u cyfleoedd. Roedd yn ddiddorol dysgu sut mae Ymgynghorwyr Ifanc yn Western Cape yn rhannu gwybodaeth gyda swyddfa eu Comisiynydd o gymharu gyda sut mae ein Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc yn rhannu gwybodaeth gydag ein swyddfa ni. Cyflwynodd rhai aelodau o’n panel gyflwyniad ar Ddiwylliant Cymreig a Chymru, tra cyflwynodd pobl Ifanc Western Cape am fwyd a diwylliant De Africa.

Gallwch ddarganfod mwy am ein Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc ar ein gwefan.

Rocio yn cwrdd â Fforwm Ieuenctid Heddlu Dyfed Powys

Mae’r Comisiynydd wedi cael mis prysur arall o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar lein gyda phlant a phobl ifanc ar draws Cymru. Un uchafbwynt oedd cyfarfod Fforwm Ieuenctid Heddlu Dyfed Powys lle wnaeth hi wrando ar eu gwaith am gamddefnyddio sylweddau. Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys yn bresennol hefyd.

Eich ymatebion i’n Tasg Arbennig

Mae ein swyddfa wedi bod yn derbyn ymatebion gwych o’n Hysgolion Llysgenhadon am Dasg Arbennig y Gwanwyn. Mae wedi bod yn hyfryd gweld sut mae gwahanol ysgolion wedi defnyddio gwahanol elfennau’r o’r dasg i ddechrau trafod tlodi ac effeithio costau byw gyda phlant a phobl ifanc, gan hefyd dechrau gweithredu i helpu hyn! Mae rhai ysgolion hyd yn oed yn bwriadu agor siop cyfnewid i gefnogi eu dysgwyr trwy’r argyfwng costau byw, tra bod eraill wedi defnyddio’r stori i ddechrau trafod y pwnc sensitif hwn gyda phlant ifanc. Amcan y Dasg Arbennig yw galluogi plant a phobl ifanc rhannu eu profiadau o dlodi a datblygu empathi wrth ddychmygu sut byddent nhw’n teimlo petai yn wynebu hyn. Diolch i’r holl ysgolion sydd wedi danfon eu hymatebion. Mae’r Timoedd Cyfranogi a Chyfathrebu wedi mwynhau darllen eich gwaith a gweld lluniau o’ch gweithgareddau Tasg Arbennig.
Os hoffai eich ysgol gwblhau Tasg Arbennig y Gwanwyn gallwch lawrthwytho’r adnoddau yma.

Hefyd, os hoffwch ymuno ein cynllun llysgenhadon sydd am ddim a’n ddwyieithog ewch at ein gwefan. Mae modd ymuno gyda’r cynllun unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ysgol.

Hiliaeth mewn Ysgolion

Rydym  wedi bod yn brysur yn cwrdd gyda nifer o rhandeiliad fel rhan o’n hymchwil mewn i’r mater hwn – gan gynnwys pobl ifanc, addysgwyr ac eraill sydd gydag arbenigedd yn y maes hwn.

Gallwch ddarllen mwy o wybodaeth am ein hymchwil ar ein tudalen we.