Plant a phobl ifanc sydd wedi gwirfoddoli fel rhan o’u grwp cymunedol neu grwp diddordeb arbennig i wneud 3 brif swydd yw Llysgenhadon Cymunedol:
- Dweud wrth eraill am hawliau plant;
- Dweud wrth eraill am Sally a Thîm y Comisiynydd Plant;
- Bod yn llais i’r Comisiynydd Plant ar lawr gwlad a chyfrannu i’w gwaith trwy dasgau arbennig a gweithdai.
Grwpiau sy’n rhan o’n cynllun
Mae’r grwpiau hyn i gyd yn rhan o’n cynllun Llysgenhadon Cymunedol. Mae nhw’n cwrdd i rannu’r ffyrdd mae nhw wedi bod yn hyrwyddo hawliau plant yn eu cymunedau.
Llysgenhadon Hawliau y Fro
Mae Llysgenhadon Hawliau y Fro yn darparu hyfforddiant ar hawliau plant, yn helpu ysgolion yn y Fro i gymryd rhan yn ein cynllun i ysgolion cynradd, ac i gefnogi pobl ifanc i ddatblygu ystod eang o sgiliau a phrofiadau.
ABM Ifanc
Grwp o bobl ifanc ar draws De Cymru yw ABM Ifanc; eu nôd yw gwella gwasanaethau iechyd i blant a phobl ifanc.
Grwp Dydd Mawrth
Mae’r ‘Grwp Dydd Mawrth’ yn cwrdd yng Ngheridigion, wedi’u cefnogi gan Dîm Plant Anabl i wneud yn siwr bod plant yn derbyn eu hawliau i ymuno â grwpiau a chlybiau.
Cylch Merched
Grwp dielw yw Cylch Merched sy’n cefnogi merched a menywod ifanc i gyrraedd eu potensial llawn
Fforwm Ieuenctid Caerffili
Mae Fforwm Ieuenctid Caerffili yn galluogi pobl ifanc yng Nghaerffili i ddweud eu dweud ar y materion sy’n effeithio nhw
Llysgenhadon Cymunedol Adamsdown
Prosiect wedi’i ariannu gan Gymunedau yn Gyntaf oedd Llysgenhadon Cymunedol Adamsdown; mae nhw wedi bod yn Lysgenhadon Cymunedol ers 7 mlynedd. Mae’r clip hwn yn dangos rhai o’r materion mwyaf diweddar yr oeddent yn pryderu amdanynt
Ymunwch
Os hoffech chi ymuno cysylltwch â’n swyddfa ar 01792 765600 neu ebostwich post@complantcymru.org.uk