Cylchlythyr Mawrth

 

Dim Drws Anghywir i Niwroamrywiaeth: llyfr profiadau

Y mis hwn ddaeth penllanw o waith rydym wedi bod yn gwneud gyda phlant a’u teuluoedd sydd yn edrych am gefnogaeth a chymorth gyda chyflyrau niwrodatblygiadaol a niwroarwahaniaeth heb ddiagnosis. Yn ein llyfr mae yna brofiadau plant a’u teuluoedd, perspective  seicolegydd clinigol, a mannau allweddol rydym yn gofyn i’r llywodraeth ystyried. Gallwch ddarganfod ein llyfr o brofiadau, ynghyd a fersiwn hawdd i’w ddarllen gyda symbolau a safbwyntiau rhieni a gweithwyr proffesiynol yma ar ein gwefan.

Gwnaeth rhai o’r teuluoedd yma edrych am gefnogaeth trwy ein gwasanaeth Cyngor ac Ymchwiliadau annibynnol. Dyma wasanaeth cyfrinachol ac am ddim i gynghori a chefnogi plant neu’r rhai sydd yn gofalu amdanynt os ydynt yn teimlo bod plentyn yn cael eu trin yn annheg. Mae yna fwy o wybodaeth am ein gwasanaeth ar ein gwefan.

 

Ein hymweliadau ag ysgolion

Mae’r Comisiynydd a’r tîm cyfranogiad wedi bod yn brysur yn ymweld â gwahanol ysgolion (wyneb yn wyneb ac ar-lein) i’w dysgu am waith y swyddfa’n amddiffyn hawliau plant, ac i weld gwaith eraill yn eu hyrwyddo nhw. Yn ddiweddar, bu Rocio ar ymweliad ag Ysgol Gynradd Sgeti, a chafodd groeso hyfryd gan y dysgwyr a’r athrawon. Bu dysgwyr yr ysgol sy’n Llysgenhadon Parchu Hawliau ac yn Gynghorwyr Ysgol yn rhannu eu gwaith ar hawliau plant ar draws yr ysgol. Hefyd yn ystod yr ymweliad bu’r dysgwyr a’r athrawon yn dangos eu gwaith ar lesiant i’r Comisiynydd Plant ac un o’n Swyddogion Cyfranogiad, gan gynnwys taith o amgylch eu Sied Llesiant wych. Diolch, Ysgol Gynradd Sgeti am ymweliad arbennig! Mae rhagor o wybodaeth am ein Cynlluniau Llysgenhadon, sydd am ddim ac yn ddwyieithog, ar gael ar ein gwefan.

Os hoffech chi ofyn am ymweliad gan ein tîm, cysylltwch â’n swyddfa yma.

Gwrando ar, a dysgu wrth ddarparwyr gwasanaeth

Yn gynt yn y mis aeth staff y swyddfa ar ymweliad i leoliadau gwahanol swyddfeydd Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig Ieuenctid Cymru (EYST) ar gyfer diwrnod datblygu staff hynod o ddiddorol. Rhoddodd staff EYST disgrifiad manwl o’u gwaith a sut meant yn cefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd sydd o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Roedd hi’n ddiddorol i glywed am y prosiectau niferus meant yn cynnal er mwyn darparu ystod eang o gefnogaeth. Roedd y tîm yn lwcus i glywed wrth unigolion sydd wedi derbyn cefnogaeth gan yr elusen ac sydd wedi buddio o’u gwaith diflino mewn nifer o ffyrdd. Tynnodd yr ymweliad sylw at yr heriau mae teuluoedd yn wynebu pan meant yn cyrraedd Cymru fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches.   Bu’n gyfle gwych i ddysgu am eu sesiynau galw mewn sy’n darparu lleoliad i bobl ifanc gymdeithasu a derbyn cefnogaeth ar gyfer eu gwaith ysgol. Yn sicr, roedd hi’n ddiwrnod datblygu styff llawn gwybodaeth a buddiol iawn gan fod pawb wedi gadael gyda dealltwriaeth ddyfnach o’r heriau mae plant a phobl ifanc yn wynebu yng Nghymru. Hefyd y mis hwn fe wnaeth staff gymryd rhan mewn hyfforddiant ymwybyddiaeth hiliaeth. Fel rhan o’n cynllun dysgu a datblygu rydym yn trefnu ymweliadau tebyg i sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Cysylltwch gyda ni os ydych yn credu os byddai ein staff yn buddio o ymweliad gyda’ch sefydliad.

 

Llongyfarchiadau Rocio

Gwobrwywyd Rocio MBE ar gyfer ei gwasanaeth i blant a phobl ifanc ar draws Cymru, gan Dywysog Cymru, lle cytunodd hi fod llawer o waith i’w barhau i wneud. Llongyfarchiadau Rocio gan bawb yn y swyddfa.

 

Diolch, Andy

Bu mis Mawrth hefyd yn fis o ffarwelio Andrew Walsgrove ein Pennaeth Gweithrediadau sydd wedi ymddeol. Roedd ef yn rhan allweddol o’r swyddfa am dros ddegawd. Cyn ei ddiwrnod olaf, atebodd rhai cwestiynau am ei amser yn y swyddfa –

Beth ydych wedi mwynhau fwyaf am eich rôl?

Rydw i wedi mwynhau gweithio gyda grŵp o bobl gyfeillgar sydd â chymhelliant i weithio’n galed ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’r ymroddiad a rennir gan y staff wedi bod yn elfen hollbwysig o weithio yn y sefydliad.

Pa mor hir rydych chi wedi bod yn gweithio i Gomisiynydd Plant Cymru?

Mae hi wedi bod yn 13 o flynyddoedd ers i mi ddechrau gweithio yma yn fis Hydref 2009. Doeddwn i byth yn meddwl aros am mor hir! Dwi wedi gweithio gyda 3 chomisiynydd yn ystod fy amser yma. Yn gyntaf gweithiais gyda Keith Towler, cyn yna gweithio gyda Sally Holland a Rocio Cifuentes.

Beth fyddwch yn gweld eisiau’r mwyaf?

Cysylltiad gyda chydweithwyr! Byddaf yn gweld eisiau gweithio gyda chriw gwych o bobl yn ddyddiol.  Er bod ffyrdd o weithio wedi newid yn ystod ac ar ôl covid 19 rydw i wedi parhau i fwynhau dod mewn i’r swyddfa i drafod gwahanol brosiectau gyda gwahanol aelodau o staff.

Beth yw rhai o’ch uchafbwyntiau o weithio yma?

Ar gyfer diwrnod datblygu staff ym mis Medi 2019 fe wnaeth rhai aelodau o’r swyddfa gwblhau Sialens Tri Chopa Cymru mewn 24 awr. Roedd hi’n heriol ar brydiau ond gyda’n gilydd fe wnaethom gydweithio a helpu ein gilydd i gwblhau’r sialens! Yn sicr dyma atgofion bydd yn aros yn y cof am amser hir.

Uchafbwynt arall oedd cynnal digwyddiadau yng Ngholeg Atlantic ar gyfer plant mewn gofal i gwrdd â’i gilydd. Dwi hefyd wedi mwynhau teithio o gwmpas Cymru ar gyfer gwahanol gyfarfodydd a digwyddiadau.

Diolch Andy am dy holl waith ar draws y blynyddoedd, byddwn yn gweld dy eisiau di!