Ysgol Gynradd Parc y Castell

Heddiw, fe wnaeth rhai o aelodau grŵp arwain Blwyddyn 6 gwrdd â Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru a Kath O’Kane, sy’n gweithio gyda Sally.

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Sally am neilltuo amser i gyfarfod â ni ar TEAMS, er bod hi mor brysur. Gofynnodd Sally a Kath i ni chwarae gêm i ddechrau, i’n helpu ni i gyflwyno ein hunain a sôn am beth rydyn ni am wneud ar ôl tyfu i fyny. Yna, fe gawson ni gyfle i holi Sally a sôn wrthi am sut rydyn ni’n trafod Hawliau’r Plentyn yn Ysgol Gynradd Parc y Castell.

Roedd hi’n ddiddorol iawn gwybod bod Sally wedi bod yn Gomisiynydd Plant Cymru am saith mlynedd bron ac nad oes neb yn cael aros yn y swydd hon am fwy na saith mlynedd. Bydd Sally yn mynd yn ôl wedyn i’w swydd flaenorol fel athro Coleg.

Esboniodd Sally y bydd angen gwybodaeth arnon ni am Hawliau’r Plentyn mewn nifer o’r swyddi rydyn ni am eu cyflawni pan fyddwn ni’n oedolion. Dywedodd hi fod y Pandemig wedi bod yn galed a’i bod hi wedi gwneud ei gorau glas i gefnogi POB plentyn, trwy sicrhau, er enghraifft, fod ganddyn nhw fwyd, lloches a thechnoleg gwybodaeth i’w helpu i ddysgu yn y cartref.

Dywedodd y bydd hi’n dal i gefnogi hawliau plant yn ystod ei hwythnosau olaf a bod modd i bobl sy’n derbyn gofal iechyd neu bobl ag anabledd ffonio rhif ffôn arbennig os ydyn nhw’n teimlo nad yw eu hawliau’n cael eu cefnogi.

Fe gawson ni ein hysbrydoli gan Sally pan ddywedodd nad oedd hi byth yn colli golwg ar ei breuddwydion, ei bod hi wedi gweithio’n galed i ddod yn Gomisiynydd Plant Cymru a’i bod hi wedi newid sawl peth yn ystod ei chyfnod, ond bod mwy i’w wneud o hyd.

Diolch am wrando arnon ni ac ateb ein cwestiynau, Sally. Byddwn ni’n gweld eich eisiau chi ac rydyn ni’n gobeithio y cawn ni gyfle i siarad â’r Comisiynydd Plant newydd – Rocio Cifuentes, pan fydd hi’n cychwyn yn y swydd ddiwedd mis Ebrill.

Myla, Lily, Lowri, Thomas, Ethan, Brendan a Jackson