Adolygiad o Lywodraeth Cymru – addysg yn y cartref ac ysgolion annibynnol

Beth sy’n digwydd?

Ar 7 Hydref, 2020, ysgrifennodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, at Brif Weinidog Cymru. Yn ei llythyr, fe ddywedodd hi wrtho y byddai hi’n edrych ar sut gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniadau am ddiogelu hawliau plant sy’n cael eu haddysgu gartref neu mewn ysgol annibynnol. Yr enw am hynny yw ‘adolygiad’.

Daeth yr Adolygiad i ben ym mis Ionawr 2021, a chyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Chwefror 2021.  Gallwch chi ddarllen mwy am hynny isod.

Pam bu’r Comisiynydd yn adolygu Llywodraeth Cymru?

Un o gyfrifoldebau’r Comisiynydd yw gwneud yn siŵr bod pob plentyn yng Nghymru, ble bynnag maen nhw’n cael eu haddysg, yn cael mynediad i’w hawliau.

Mae gan blant a theuluoedd resymau gwahanol iawn dros ddewis addysgu gartref, ac maen nhw’n cael profiadau gwahanol iawn o addysgu gartref.

Mae gan blant hawl i dderbyn addysg, a gall hynny ddigwydd gartref. Mae rhai plant yn mynd i ysgol annibynnol.

Dyw cael eu haddysg yn y lleoedd hynny ddim yn golygu bod plant ddim yn derbyn eu hawliau. Ond rydyn ni’n credu gallai rhai o’r amddiffyniadau yn y gyfraith fod yn well.

Beth ddylai gael ei wella?

Rydyn ni’n meddwl dylai athrawon mewn ysgolion annibynnol fod yn rhan o restr o’r enw ‘cofrestr broffesiynol’, sy’n gallu gweithredu os bydd athrawon yn torri’r rheolau ar gyfer gofalu am blant. Mae rhaid i athrawon mewn ysgolion eraill fod yn rhan o’r gofrestr broffesiynol eisoes. Yng Nghymru, mae’r gofrestr hon yn cael ei rheoli gan grŵp o’r enw ‘Cyngor y Gweithlu Addysg’.

Rydyn ni hefyd am weld gwelliannau er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwybod bod plant sy’n dysgu gartref yn derbyn eu hawl lawn i addysg.

Ble galla i gael rhagor o wybodaeth?

Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi adroddiad llawn, sydd i’w weld yma

Hefyd mae crynodeb o’r adroddiad ar gael yma

Cyhoeddodd y Llywodraeth eu hymateb ffurfiol ar 22 Mawrth 2021. Gallwch chi ddarllen hynny ar eu gwefan yma

Beth fydd yn digwydd nesa?

Cytunodd Llywodraeth Cymru i wneud rhai o’r gwelliannau ddywedon ni, ond fe benderfynon nhw eu bod yn methu gwneud y newidiadau cyn etholiad y Senedd yn 2021.

Nawr bod Gweinidog Addysg newydd yn y swydd, byddwn ni’n parhau i siarad ag ef a’i dîm am wneud y newidiadau angenrheidiol cyn gynted â phosib.

Byddwn ni’n diweddaru’r dudalen hon ar y we yn rheolaidd.

Beth os ydw i eisiau gwybod mwy am farn y Comisiynydd ar addysgu gartref?

Os ydych chi eisiau gwybod rhagor am farn y Comisiynydd ynghylch addysgu gartref, cliciwch ar y ddolen isod.

SAFBWYNT POLISI: ADDYSGU GARTREF

Beth os wyf fi’n poeni neu’n pryderu?

Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu bethau sy’n eich poeni am eich hawliau, cofiwch gysylltu â ni. Mae gennym ni wasanaeth cynghori cyfrinachol, di-dâl. Os ydych chi’n pryderu am unrhyw beth arall, mae llawer o help ar gael gan bobl fel ChildLine a Meic.

ANFON CWESTIWN ATON NI AM YR ADOLYGIAD

CYSYLLTU Â’N GWASANAETH GWYBODAETH A CHYNGOR

CYSYLLTU Â CHILDLINE

CYSYLLTU Â MEIC