Gweld y testun: Bach Canolig Mawr

Addysg yn y Cartref

Am beth mae’r Comisiynydd Plant yn galw?

I’r gyfraith i ddatblygu polisi newydd i blant sy’n cael eu haddysgu o gartref. Mae tri phrawf mae angen i’r polisi cyflawni:

  • Yn gyntaf, bod dim plentyn yng Nghymru yn anweledig o gymdeithas
  • Yn ail, bod pob plentyn yn derbyn addysg addas ac yn derbyn ei hawliau eraill, fel iechyd, gofal a diogelwch
  • A bod pob plentyn yn cael ei weld er mwyn rhannu ei farn a phrofiadau

Rydyn ni eisiau diogelu’r dewis sydd ar gael i bob teulu ar hyn o bryd, sef addysgu eu plant gartref. Dydyn ni ddim eisiau i neb ymyrryd â hynny; yn hytrach rydyn ni am sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn diflannu o olwg y gwasanaethau a’r gefnogaeth ddylai fod ar gael i bob plentyn, ble bynnag maen nhw’n cael eu haddysg.

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei chynlluniau ynglyn â addysgu o gartref. Dydy amcanion y Comisiynydd heb newid: bod dim plentyn yn anweledig, bod pob plentyn yn derbyn ei hawl i addysg a bod pob plentyn yn cael ei weld ac yn cael cyfle i rhannu ei brofiadau a theimladau ynglyn â’i addysg. Bydd y Comisiynydd â’i thîm yn archwilio sut gall cyhoeddiad ddiweddar Llywodraeth helpu i gyrraedd nôd yr amcanion.

Mae ein datganiad diweddaraf yma. 

Pa wahaniaeth bydd y newidiadau’n eu wneud?

Os bydd awdurdodau lleol yn deall mwy am anghenion a dymuniadau plant sy’n cael eu haddysgu gartref yn eu hardal, bydd yn golygu bod modd iddyn nhw wrando’n gyson ar y plant hynny a’u teuluoedd er mwyn clywed am eu hanghenion addysg a gwella’r gefnogaeth ychwanegol sy’n cael ei chynnig iddyn nhw, os bydd angen.

Bydd hefyd yn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw blentyn yn diflannu o olwg awdurdodau lleol neu wasanaethau cymorth eraill.

Mae rhwymedigaeth ar y llywodraeth o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael addysg, cyfle i gael gwrandawiad, diogelwch, a chyfle i gyflawni eu potensial. O dan y system bresennol all y llywodraeth ddim gwneud hynny.

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae gan blant hawl i gyrchu a derbyn yr addysg orau bosibl; addysg sy’n ymateb i’w hanghenion ac yn defnyddio eu doniau, eu diddordebau a’u galluoedd i’r eithaf. Mae gwrando ar farn plant – p’un a ydyn nhw’n cael eu haddysg mewn ysgol neu gartref – yn rhan bwysig o sicrhau bod yr addysg maen nhw’n ei derbyn yn cyflawni hynny. Os nad yw’r awdurdod lleol yn clywed barn a phrofiadau plant, gallai hynny olygu eu bod yn colli cyfle i gael unrhyw gymorth a chyfleoedd ychwanegol y gallai fod eu hangen arnynt.

Os bydd plant yn diflannu o olwg gwasanaethau, does dim modd gwybod eu bod nhw’n iach ac yn ddiogel.

Trwy gadw deialog gyda phlant sy’n derbyn eu haddysg gartref a’u teuluoedd, gall awdurdodau lleol sicrhau bod teuluoedd sy’n addysgu gartref yn cael y gefnogaeth briodol i roi’r addysg orau i’w plant, bod unrhyw pryderon am lesiant plant yn cael eu nodi’n gynnar, a bod teuluoedd yn cael cynnig mwy o gefnogaeth i wella’r sefyllfa, os bydd angen mwy o gymorth arnyn nhw.

Nid mater o ymyrryd yw hyn na dyfarnu pa fath o addysg mae plentyn i’w derbyn gartref.

Beth fydd dan sylw?

Gallai olygu bod gweithiwr cymwysedig yn trefnu i ymweld â theulu sy’n addysgu gartref unwaith neu ddwywaith y flwyddyn i glywed eu meddyliau a’u teimladau ynghylch addysg y plentyn. Yn y pen draw, Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu ar union fanylion unrhyw system newydd, ar ôl ymgynghori â phlant sy’n cael eu haddysgu gartref a’u teuluoedd.

Felly ydych chi’n meddwl bod plant sy’n cael eu haddysg gartref mewn perygl?

Nac ydw. Dyw addysgu gartref ddim yn fater diogelu ynddo’i hun.

Dylai addysgu plentyn gartref gael ei ystyried yn ddewis cadarnhaol sy’n aml yn gweithio’n eithriadol o dda ar gyfer rhieni a phlant.

Rheswm cyffredin iawn sydd gan rieni dros ddewis addysgu gartref yw eu bod yn teimlo y bydd hynny’n well o safbwynt addysg a llesiant cyffredinol eu plentyn.

Mae hyn yn fater o sicrhau bod yr holl blant sy’n cael eu haddysgu gartref yn gallu cyrchu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i fod y gorau gallan nhw fod, a gweithio ochr yn ochr â rhieni i helpu i gadw eu plant yn iach, yn hapus ac yn ddiogel.

Pam mae angen i’r wladwriaeth ymyrryd gydag addysg gartref? Ydyn nhw ddim yn ymddiried mewn rhieni i ddysgu eu plant yn dda?

Mae’n debygol bod y mwyafrif llethol o blant yn cael addysg ardderchog gartref, ac mae rhieni’n aml yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a gwasanaethau eraill i gyflwyno amrywiaeth o ddulliau gweithredu addysgol.

Mater yw hyn o sicrhau bod pob plentyn yn cael gwrandawiad ac yn gallu trafod unrhyw gefnogaeth ychwanegol y gallai fod arnyn nhw ei hangen i fod y gorau gallan nhw fod.

Mae’n eglur bod rhai rhieni sy’n addysgu gartref wedi colli hyder yng ngallu eu hawdurdod lleol i’w cefnogi, os na fu eu plentyn yn ffynnu yn yr ysgol yn y gorffennol. Bydd angen i awdurdodau lleol feithrin yr ymddiriedaeth honno trwy ddangos eu bod yn deall nad un glasbrint sydd ar gyfer addysg dda, a’u bod nhw yno i roi cefnogaeth os bydd angen.

Un ffordd o feithrin ymddiriedaeth fyddai bod awdurdodau lleol yn cynnwys plant a gafodd eu haddysgu gartref a’u rhieni neu eu gofalwyr wrth ddylunio gwasanaethau.

Pam dydych chi ddim yn canolbwyntio ar wella ysgolion fel bod dim angen i rieni addysgu gartref?

Nid yn achos plant sy’n cael eu haddysgu gartref yn unig mae’r Comisiynydd Plant yn canolbwyntio ar hawl plant i gael eu clywed, mae hi’n galw am welliannau ar draws y system addysg gyfan, gan gynnwys:

  • Ymgorffori hawliau a llais y dysgwr i’r cwricwlwm newydd;
  • Gwell cefnogaeth i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol;
  • Ymateb gwell a mwy rhagweithiol i fynd i’r afael â bwlio; a
  • Gwell cydlyniant rhwng addysg a gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae’r Comisiynydd Plant hefyd wedi creu fframwaith i ysgolion, i’w helpu i wella’u ffordd o gynnwys plant a gwrando arnyn nhw.

Oes yna bobl eraill yn galw am gryfhau’r ddeddfwriaeth?

Oes, mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol wedi galw am y newid hwn.

Cyhoeddodd Bwrdd Diogelu Cenedlaethol Annibynnol Cymru adroddiad seiliedig ar dystiolaeth ym mis Hydref 2017 a ddaeth i’r casgliad:

‘Rydyn ni felly yn argymell dull gweithredu newydd ar gyfer addysgu gartref yng Nghymru. Dylai’r dull hwn fod wedi’i seilio ar egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a rhoi blaenoriaeth i gymorth a chyd-gynhyrchu.

Fodd bynnag, mae hefyd yn rhesymol bod y gymdeithas yn gwybod faint o blant sy’n cael eu haddysgu gartref, a bod y wladwriaeth yn asesu diogelwch, llesiant ac addysg y plant hynny. Nod ein hargymhellion yw creu’r bartneriaeth fwy adeiladol a thryloyw hon rhwng rhieni a’r wladwriaeth pan gaiff plant eu haddysgu gartref.’

Mae’r Comisiynydd Plant yn cefnogi’r casgliad hwn.