Ymateb i ganllaw statudol addysg ddewisol yn y cartref

Yn ymateb i’r canllaw statudol a gyhoeddwyd ar 12 Mai, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

“O ganlyniad i adolygiad a gynhaliwyd gan fy rhagflaenydd yn 2020, derbyniodd Llywodraeth Cymru tri phrawf y byddai’n rhaid i bolisi ar gyfer plant sy’n cael eu haddysgu gartref eu cyflawni:

  • Yn gyntaf, bod modd rhoi cyfrif am yr holl blant yng Nghymru, heb i neb ohonyn nhw fod yn anweledig.
  • Yn ail, bod pob plentyn yn derbyn addysg addas a’u hawliau dynol eraill, gan gynnwys iechyd, gofal a diogelwch.
  • Ac yn drydydd, bod pob plentyn yn cael eu gweld a bod eu barn a’u profiadau’n cael eu gwrando. Mae hyn yn hanfodol os yw’r ddau brawf cyntaf i gael eu bodloni.

“Daeth yr adolygiad hwnnw i’r casgliad mai y ffordd orau o gyflawni’r nodau hyn yw drwy ddeddfwriaeth sylfaenol newydd. Gwrthododd Llywodraeth Cymru y galw hwnnw. Yn fy adroddiad blynyddol cyntaf fel Comisiynydd, galwais am gynllun gwerthuso i’w gyhoeddi ochr yn ochr â chyfarwyddyd statudol newydd, fel y gallwn fesur effeithiolrwydd y canllawiau a’i effaith ar fywydau’r plant. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn. Mae’n siomedig felly nad yw’r cynllun hwn wedi’i gyhoeddi eto.

“Fy ffocws nawr fydd gwrando ar blant, eu teuluoedd ac awdurdodau lleol i ddeall i ba raddau y mae’r canllawiau statudol newydd hyn yn bodloni’r nodau hanfodol hynny yn ymarferol, a pha heriau sydd ar ôl. Rwyf hefyd eisiau i’r canllawiau hyn gael eu cyfathrebu’n glir i blant sy’n cael eu haddysgu gartref a’u teuluoedd, er mwyn osgoi camsyniadau, ac i sicrhau bod ei brif nôd o alluogi plant i gael mynediad at eu hawliau yn cael eu deall.”