‘Nid nawr yw’r amser i leihau cefnogaeth’ yn ôl Comisiynydd Plant Cymru

4 Gorffennaf 2023

Yn ymateb i benderfyniadau Llywodraeth Cymru i leihau cefnogaeth i blant a theuluoedd trwy brydau bwyd am ddim dros yr haf, a’r grant hanfodion ysgol, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

“Dywedodd nifer sylweddol o blant a gwblhaodd fy arolwg cenedlaethol llynedd eu bod yn poeni am gael digon i’w fwyta. Dywedodd rhieni eu bod yn poeni am fwydo i’w plant, a chost y diwrnod ysgol, gan gynnwys gwisg ysgol. Er fy mod i’n cydnabod y straen ar arian cyhoeddus, mae’n eironi trist fod Llywodraeth Cymru, yn fuan ar ôl cyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant ddrafft, wedi cyhoeddi gostyngiad i’r cymorth hollbwysig yma. Rydw i’n bryderus iawn am y plant hynny a sut y bydd eu teuluoedd yn ymdopi dros yr haf, yn enwedig gyda chostau byw yn dal yn anhygoel o uchel, yn enwedig ar gyfer bwyd. Ni ddylai plant fynd heb fwyd yng Nghymru, ac rwy’n poeni y bydd y newid hwn yn cynyddu’r nifer sydd yn.

“Mae’r ymyriadau hyn gan Lywodraeth Cymru wedi darparu cymorth hollbwysig i blant a theuluoedd yng Nghymru. Nid nawr yw’r amser i leihau’r cymorth yma. Mae teuluoedd dal yn wynebu pwysau sylweddol. Rydw i wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ar eu penderfyniadau fel y gallwn ddeall yn well sut maen nhw’n meddwl y bydd effaith y penderfyniadau yma ar blant yn cael eu lleddfu.”