Plant yn pryderu am gael digon i’w fwyta

16 Tachwedd 2022

Dywedodd 45% o’r plant 7-11 oed, a 26% o’r bobl ifanc 12-18 oed a ymatebodd i arolwg cenedlaethol eu bod yn pryderu am gael digon i’w fwyta.

Roedd yr arolwg gan Gomisiynydd Plant Cymru yn gofyn barn 7873 o blant a phobl ifanc ar amrywiaeth o faterion.

Cafwyd 876 o ymatebion gan rieni hefyd.

Adleisiwyd pryderon y plant gan y rhieni: dywedodd 36% o’r rhieni eu bod yn pryderu a fyddai eu plant yn cael digon o fwyd.

Roedd bron dau o bob tri (61%) o’r plant 7-11 oed yn pryderu bod gan eu teuluoedd ddim digon o arian ar gyfer y pethau maen nhw eu hangen, ac roedd yr un peth yn wir am fwyafrif (52%) o’r plant 12-18 oed.

Yn ôl y comisiynydd, Rocio Cifuentes MBE, mae canfyddiadau cynnar yr arolwg yn ‘giplun sy’n peri sioc’ o effaith yr argyfwng costau byw ar blant.

Ac mae’r canfyddiadau’n dod ddau ddiwrnod yn unig ar ôl i bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd (PPIA) rybuddio bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar bresenoldeb yn yr ysgol.

Dywedodd y Comisiynydd Plant: “Hyd yn oed cyn yr argyfwng yma, roedd gennym ni nifer aruthrol o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Rydw i wedi galw droeon ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu ynghylch tlodi plant, ac rwyf wedi dweud hynny eto yn fy adroddiad blynyddol diweddaraf. Mae angen dybryd i ni weld cynllun clir, sydd â ffocws a thargedau i leihau nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n wynebu caledi – a chefnogir yr alwad hon gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

“Mae’n creu argraff a sioc fawr gweld lefel y pryder ymhlith plant a phobl ifanc ynghylch rhai o’r pethau pob dydd mwyaf sylfaenol, fel cael digon i’w fwyta a digon o arian i sicrhau’r pethau mae arnyn nhw eu hangen. Ddylai plant ddim bod yn poeni am y pethau yma o gwbl, ac rydw i’n pryderu’n fawr am effaith hirdymor bosibl hynny ar eu lles. Mae’r rhain yn ganfyddiadau cynnar iawn o’n harolwg cenedlaethol, a ddaeth i ben yr wythnos ddiwethaf. Wrth gwrs mae’n debygol, pan edrychwn ni ar atebion grwpiau arbennig o fregus o blant, y bydd y niferoedd yn destun pryder mwy fyth.

“Mae hefyd yn dristwch mawr gweld yr effaith ar rieni. Mae o leiaf dau draean ohonyn nhw (68%) yn pryderu oes ganddyn nhw ddigon o arian ar gyfer y pethau mae ar eu plant eu hangen, ac mae’r ffigurau yna’n eitha cyson ar draws ystod eang o gwestiynau cysylltiedig â chyllid yn yr arolwg.

“Rydw i wedi rhannu’r canfyddiadau cynnar hyn yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru. Mae yna benderfyniadau mawr i’w gwneud ym Mae Caerdydd ac yn San Steffan ynghylch yr argyfwng costau byw a beth arall gallwn ni wneud i helpu, ac mae angen i blant fod yn ganolog i’r penderfyniadau hynny. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud popeth posibl i leihau’r costau i deuluoedd, ac mae angen cynllun arnon ni i sicrhau bod adnoddau’n cael yr effaith rydyn ni’n dymuno. Gwariwyd biliwn o bunnoedd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf ar leddfu tlodi, ond heb gynllun clir, does dim modd gwerthuso effeithiolrwydd hynny’n iawn. Mae rhaid i leihau lefelau tlodi a rhoi’r pethau a’r arian angenrheidiol i bobl fod yn flaenoriaeth i bob llywodraeth yn y Deyrnas Unedig.”

Dyfyniadau gan blant

Bachgen 9 oed: “Helpu plant yn yr ysgol sydd heb lawer o arian ac sy’n drist am hynny”

Merch 11 oed: “Codi llai o arian am fwyta mewn ysgolion. Rydw i’n gweld cynifer o blant yn llwglyd oherwydd bod ganddyn nhw ddim arian”

Merch 13 oed: “Rhoi prydau ysgol am ddim, oherwydd mae rhai pobl yn cael trafferth fforddio’r prydau ysgol, ac yna’n cael eu gadael yn llwglyd weddill y dydd”

Merch 11 oed: “Gwneud yn siŵr bod bwyd gan blant gartre os yw eu rhieni’n methu fforddio bwyd”

Arolygon Rhieni

Dangosodd canlyniadau’r arolwg rhieni ystod eang o bryderon ariannol:

  • roedd 68% yn pryderu a fyddai gan eu plant ddigon o arian ar gyfer y pethau roedd arnyn nhw eu hangen
  • roedd 44% yn pryderu ynghylch talu am dri phryd o fwyd y dydd
  • roedd 54% yn pryderu ynghylch talu am wisg ysgol
  • roedd 57% yn pryderu ynghylch cost teithiau ysgol
  • roedd 59% yn pryderu ynghylch talu am ddillad
  • roedd 68% yn pryderu ynghylch talu am deithiau a diwrnodau allan
  • roedd 67% yn pryderu ynghylch talu am anrhegion pen-blwydd a rhoddion
  • roedd 49% yn pryderu ynghylch talu am adnoddau i’r ysgol, fel deunydd ysgrifennu a chyfarpar.

Ar 17 Tachwedd bydd pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn craffu ar adroddiad blynyddol y Comisiynydd Plant, sy’n annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i daclo tlodi plant trwy Gynllun Gweithredu Tlodi Plant.

Mae’r Adroddiad Blynyddol hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn peilota trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bawb o dan 18, a fyddai’n lleddfu un gost allweddol mae plant a phobl ifanc yn ei hwynebu, ac mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru hefyd yn cefnogi’r alwad hon.