Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Hawliau Plant i Addysg yng Nghymru
Fframwaith sy’n helpu athrawon, ac addysgwyr eraill, rhoi hawliau plant ar ganol eu gwaith.
Cynlluniau gwers Gwrthfwlio
Cafodd yr adnoddau yma eu cyhoeddi yn ystod Wythnos Gwrthfwlio 2017. Maen nhw’n helpu ysgolion archwilio bwlio gyda phob grwp oedran ysgolion cynradd.
Seiberfwlio
Rydyn ni wedi creu adnoddau i helpu plant arwain ar daclo seiberfwlio yn yr ysgol.
Tlodi Plant
Mae ein hadnoddau yn helpu ysgolion asesu cost eu ‘diwrnod ysgol’, ac i nodi ffyrdd gallen nhw helpu teuluoedd.
Y Prosiect Gwyrdd-droi
Mae prynu gwisg ysgol newydd pob blwyddyn yn rhoi straen ariannol ar deuluoedd. Mae’n hadnodd yn ysbrydoli plant i greu cynllun ail-ddefnyddio gwisg ysgol.
Perthnasau iach
Mae AGENDA yn dysgu plant am greu a chynnal perthnasau iach, ac am faterion fel cydsyniad, parch, a chydraddoldeb.
Pecyn Symbolau CCUHP
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys pecyn o gardiau a phoster i’ch helpu i addysgu disgyblion am eu hawliau.
Adnodd pontio’r cenedlaethau
Ry’n ni wedi creu Adnodd Pontio’r Cenedlaethau gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn i annog ysgolion a grwpiau o bobl hŷn i ffurfio grwpiau sy’n pontio’r cenedlaethau.
Poster Hawliau Plant
Gallwch ddefnyddio’r poster yma yn eich ysgol i arddangos holl hawliau’r CCUHP.
Cyflwyniad hawliau plant/Comisiynydd Plant Cymru
Cyflwyniad PowerPoint i gyflwyno hawliau plant a gwaith y Comisiynydd Plant.
Cynllun Gwers Cyfnod Sylfaen
Cynllun gwers i gyflwyno hawliau plant a rôl y Comisiynydd i blant Cyfnod Sylfaenol.
Cynllun Gwers Cyfnod Allweddol 2
Cynllun gwers i gyflwyno hawliau plant a rôl y Comisiynydd i blant Cyfnod Allweddol 2.
Pecyn lluniau Hawliau Plant
Lluniau hyfryd, wedi’u harlunio gan arlunydd proffesiynol i helpu addysgu plant am eu hawliau. Mae’r pecyn wedi’i drefnu dan bedair thema y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn: Datblygiad; Goroesiad; Diogelwch; Cyfranogiad
Ugain Top Tips
Ugain syniad defnyddiol ar gyfer cyflwyno hawliau plant yn eich ysgol