Fi yw Fi

Adnoddau a Chynlluniau Gwers

Adnodd/Cynllun Gwers Fi yw Fi

Cynllun gwers Hygyrch Fi yw Fi

Cynllun gwers Cyfnod Sylfaen Fi yw Fi

Ystrydebau

Rydym wedi gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc ar ein prosiect ‘Fi yw Fi’ er mwyn taclo ystrydebau (stereoteipiau).

Gofynwyd i bobl ifanc creu fideos yn siarad am eu profiadau sy’n cael ei ddefnyddio fel rhan o’r cynllun gwers yn ein hadnodd.

Gwyliwch y fideos, wedyn, creuwch rhywbeth eich hun sy’n cynrychioli neu ddathlu eich hunaniaeth. Gallwch naill ai weithio yn unigol neu fel grŵp/dosbarth.

Gallwch fod mor greadigol ag yr hoffech chi.

Mae rhai syniadau yn yr adnodd a allai eich helpu chi.

Rydyn ni’n gwybod mai dim ond hunaniaethau rhai grwpiau o bobl ifanc sydd i’w gweld yn ein fideos ni.

Rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n gallu dathlu hunaniaethau llawer o blant a phobl ifanc gwahanol ar draws Cymru. Mae’n bosib y bydd ganddo’ch chi sawl peth rydych chi’n ei ystyried fel rhan o’ch hunaniaeth, ac mae’n bosib y byddwch chi’n dymuno eu cynrychioli nhw i gyd yn yr hyn fyddwch chi’n ei greu.

Eich fideos

Gan ‘Mixtup’ yn Abertawe

Gan Ofalwyr Ifanc Barnardo’s Cymru

Cyngor Ieuenctid Pobl Ifanc mewn gofal Castell Nedd-Port Talbot – YoVo

Into Film Cymru – I’m The One

Mae Into Film Cymru wedi creu adnodd arbennig i gyd-fynd a’r ffilm fer a ennillodd wobr ‘Ffilm Orau’ Gwobrau Into Film 2020, “I’m the One” gan Eden o Bowys. Datblygwyd yr adnodd yma mewn partneriaeth rhwng Into Film Cymru, Kidscape ac Eden er mwyn rhoi’r cyfle i archwilio rhai o brif themau’r ffilm, sef,  iechyd meddwl, gwrth-fwlio, rhagfarn a derbyn. Cliciwch y linc isod i fynd i wefan Into Film Cymru i ddysgu mwy am y ffilm a’r adnodd.

Cer i wefan Into Film Cymru