Pwerau cyfreithiol

Mae’r dudalen hon yn esbonio pwerau Comisiynydd Plant Cymru ac yn rhoi enghreifftiau o sut maen nhw wedi cael eu defnyddio gan y Comisiynydd i hybu newid i blant ers 2001.

Sefydliad hawliau dynol plant annibynnol yw Comisiynydd Plant Cymru, a sefydlwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Cyflwynir cylch gorchwyl y Comisiynydd yn Neddf Comisiynydd Plant Cymru 2001, oedd yn diwygio Deddf Safonau Gofal 2000.

Diogelu hawliau plant

Prif nod y Comisiynydd yw diogelu a hybu hawliau a lles plant.

Rhaid mai hynny yw amcan gor-redol y Comisiynydd wrth ymgymryd â’i holl waith.

Yn Neddf 2000 diffinnir plentyn fel person o dan 18 oed, er y gall y Comisiynydd weithredu ar ran person ifanc dros 18 oed sydd wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol (‘yn derbyn gofal’) o dan rai amgylchiadau.

Wrth gyflawni ei gwaith, rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) – siarter ryngwladol sy’n cyflwyno’r safonau gofynnol ar gyfer plant a phobl ifanc ble bynnag maen nhw’n byw. CCUHP yw’r sylfaen ar gyfer holl waith y Comisiynydd.

Mae cylch gorchwyl y Comisiynydd yn cwmpasu pob rhan o bwerau datganoledig y Senedd i’r graddau y maen nhw’n effeithio ar hawliau a lles plant.

Crynodeb o bwerau’r Comisiynydd

  1. Pŵer i adolygu’r effaith a geir ar blant wrth i gyrff cyhoeddus a ddiffiniwyd, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ymarfer eu swyddogaethau neu fwriadu ymarfer eu swyddogaethau.
  2. Pŵer i adolygu a monitro pa mor effeithiol yw trefniadau cyrff cyhoeddus a ddiffiniwyd ar gyfer cwynion, datgelu camarfer ac eiriolaeth, o safbwynt diogelu a hybu hawliau a lles plant.
  3. Pŵer i archwilio achosion yng nghyswllt plant unigol o dan amgylchiadau penodol.
  4. Pŵer i roi cymorth i blant o dan amgylchiadau penodol.
  5. Pŵer i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ar unrhyw faterion sy’n destun pryder iddi sy’n effeithio ar hawliau a lles plant ac nad oes ganddi bŵer i weithredu yn eu cylch.
  6. Nid oes gan y Comisiynydd bŵer i weithredu mewn nifer o amgylchiadau a ddiffiniwyd:
    • materion sydd heb eu datganoli i’r Senedd, sy’n cynnwys mewnfudo a lloches, budd-daliadau lles, cyfiawnder a phlismona, a phlant yn y lluoedd arfog;
    • lle gall CAFCASS (Gwasanaeth Ymgynghorol Plant a’r Llysoedd) weithredu;
    • lle mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau yng nghyswllt achosion teulu; a
    • ni chaiff ymchwilio i unrhyw fater neu adrodd arno os yw neu os bu’n destun achos cyfreithiol.

Isod ceir rhagor o fanylion am y pwerau hyn a sut maen nhw wedi cael eu defnyddio.

Cyd-destun Strategol

Hyd yn oed lle mae gan y Comisiynydd bŵer i weithredu, dylai sicrhau:

  • ei bod yn defnyddio’i phŵer mewn modd sy’n gyson â’i blaenoriaethau polisi;
  • neu os nad yw defnyddio’i phŵer yn cyfateb i flaenoriaeth polisi, ei fod yn ymdrin â materion y mae’r Comisiynydd yn barnu ddylai fod yn flaenoriaeth polisi, neu sy’n ddigon difrifol i olygu y dylai hi weithredu o dan yr amgylchiadau hynny; a
  • bod ganddi adnoddau ariannol a gweithredol digonol i’w neilltuo i ddefnyddio’i phŵer yn briodol.

Wrth geisio cyfiawnder cymdeithasol i blant a phobl ifanc, gwelwyd darnau pwysig o waith yn dod o’r swyddfa, gan fod deiliaid blaenorol y swydd wedi gwneud penderfyniadau annibynnol i ddefnyddio’u pwerau statudol mewn ymateb i sefyllfaoedd sy’n destun pryder i blant a phobl ifanc, y rhai sy’n gofalu amdanyn nhw a’r rhai sydd â gofal amdanynt.

Pŵer i adolygu sut mae amrywiol gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn ymarfer eu swyddogaethau neu’n bwriadu ymarfer eu swyddogaethau

Ni chaiff y Comisiynydd adolygu’r broses o ymarfer swyddogaethau ond yng nghyswllt effaith y swyddogaethau hynny ar blant. “Swyddogaeth” yw popeth y mae’n ofynnol i gorff ei wneud neu y mae ganddo ganiatâd i’w wneud, h.y. ei bwerau a’i ddyletswyddau, a gallai gynnwys penderfyniadau ar bolisi, gweithdrefn, arferion, darparu neu gomisiynu gwasanaethau, rheoleiddio a gweithgaredd gorfodi.

Pŵer i adolygu a monitro trefniadau

Mae’r Comisiynydd wedi penderfynu defnyddio pŵer y swydd i adolygu a monitro trefniadau ar dri achlysur, ddwywaith yn ystod cyfnod y Comisiynydd cyntaf yn y swydd, ac unwaith yn ystod cyfnod y Comisiynydd diwethaf.

Bu ‘Rhannu Pryderon’ yn adolygu trefniadau awdurdodau lleol Cymru ar gyfer cwynion, datgelu camarfer a gwasanaethau eiriolaeth, tra bod ‘Dydy Plant ddim yn Cwyno’ yn adolygu’r trefniadau oedd ar waith gan awdurdodau addysg lleol.

Defnyddiodd ail ddeilydd y swydd ei bwerau statudol yng nghyswllt eiriolaeth broffesiynol annibynnol: ‘Lleisiau Coll’. ‘Y Gofal Cywir: Hawliau Plant mewn Gofal Preswyl yng Nghymru’ yw enw adroddiad wnaeth y Comisiynydd cyfredol gyhoeddi, sy’n cynnwys pedwar argymhelliad sy’n defnyddio’r pŵer i adolygu.

Pŵer i archwilio

Cyhoeddwyd adroddiad ‘Clywch’ wedi i ddeilydd cyntaf y swydd ddefnyddio’i bwerau Archwilio, gan ymchwilio i honiadau ynghylch cam-drin plant yn rhywiol mewn lleoliad ysgol, a arweiniodd at gyflwyno amrywiaeth o argymhellion i atal camdriniaeth o’r fath rhag digwydd eto, ac at sefydlu’r gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion.

Cychwynnodd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad ‘Clywch’ raglen dair blynedd o waith mewn ymateb i’r argymhellion manwl, a chyflwynwyd amrywiaeth o weithdrefnau, hyfforddiant a sefydliadau newydd i wella sut mae plant yn cael eu diogelu mewn ysgolion.

Bu awdurdodau lleol a CBAC hefyd yn cefnogi nifer o argymhellion pwysig. Cyflwynwyd mesurau diogelu mewn awdurdodau asesu a chyrff arholi, gan gynnwys CBAC. Dangosodd archwiliad o awdurdodau lleol a gynhaliwyd gan y Comisiynydd Plant yn 2012 lefel dda neu resymol o gydymffurfio â llawer o’r argymhellion. Mae cyflwyno cwnsela mewn ysgolion, un o argymhellion yr adolygiad, wedi cael croeso cyffredinol.

Statws adroddiadau

Pan fydd y Comisiynydd yn adolygu swyddogaethau neu drefniadau sefydliad penodol, rhaid i’r Comisiynydd wneud y canlynol:

  • paratoi adroddiad yn cyflwyno ei chanfyddiadau a’i chasgliadau, a lle bo’n briodol, ei hargymhellion;
  • anfon copïau o’r adroddiad at Brif Weinidog Cymru, ac i lyfrgelloedd Senedd Cymru a Thai’r Senedd yn San Steffan; ac
  • anfon copïau o’r adroddiad at y sefydliad y mae ei swyddogaethau wedi cael eu hadolygu a/neu at y sefydliadau y mae’r Comisiynydd wedi cyflwyno argymhellion iddynt.

Lle mae’r Comisiynydd wedi cyflwyno argymhellion i sefydliadau penodol, gall y Comisiynydd holi’r sefydliad, dri mis wedi anfon yr adroddiad, a yw’r sefydliad dan sylw:

  • wedi cydymffurfio â’r argymhellion a wnaed;
  • yn mynd i gydymffurfio â’r argymhellion a wnaed; neu
  • yn mynd i beidio â chydymffurfio â’r argymhellion a wnaed (gan gynnwys rhesymau pam na fydd yn cydymffurfio).

Os bydd y sefydliad yn methu ag ymateb mewn modd y mae hi’n penderfynu sy’n briodol, gall y Comisiynydd gyhoeddi’r methiant hwn i ymateb.

Os bydd y Comisiynydd o’r farn bod lefel y cydymffurfio â’r argymhelliad yn annigonol, gall y Comisiynydd anfon hysbysiad ysgrifenedig yn nodi’r elfennau annigonol, ac mae’n rhaid i’r sefydliad ymateb i hynny o fewn mis.

Os bydd y sefydliad yn methu ag ymateb o fewn y mis penodedig, gall y Comisiynydd anfon cais pellach, yn rhoi mis arall i’r sefydliad ymateb.

Gall y Comisiynydd ddatgan y bydd methiant i ymateb mewn modd sy’n ei bodloni yn golygu bod y Comisiynydd yn cyhoeddi ei hanfodlonrwydd mewn modd y mae hi’n barnu sy’n briodol.

Darparu Cymorth

Mae ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor yn darparu cyngor annibynnol, cyfrinachol yn ddi-dâl i blant a phobl ifanc a’r bobl sy’n gofalu amdanyn nhw.

Mae’r gwasanaeth yn ffynhonnell o gymorth a chefnogaeth os bydd plant a phobl ifanc a’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw’n teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg.

Y prif nod yw diogelu a hybu hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru, gan ddarparu cyngor annibynnol, diduedd ar sail CCUHP.

Mae’r gwasanaeth yn rhoi’r plentyn yn y canol ac yn canolbwyntio ar gael hyd i atebion, felly mae’n ceisio datrys materion ar y lefel fwyaf priodol oddi mewn i strwythur trefniadol gwasanaeth a reoleiddir.

Wrth gyflawni ei rôl, gall y tîm Ymchwiliadau a Chyngor gyfeirio pobl ifanc neu eu rhieni / gofalwyr ymlaen at sefydliad arall a allai fod mewn sefyllfa fwy addas i weithio’n uniongyrchol gyda nhw.

Lle bo angen, mae gan y Comisiynydd a’i thîm bŵer i edrych ar achosion unigol er mwyn darparu cefnogaeth uniongyrchol ac ymchwilio i faterion cyfredol sy’n destun pryder.

Cofrestr adroddiadau

Mae rhwymedigaeth statudol sy’n gofyn bod y Comisiynydd yn cadw cofrestr o’r adroddiadau a luniwyd gan ei swyddfa. Mae’r gofrestr hon ar gael ar gais.

Ers 2008, yn ogystal â’n Hadroddiadau Blynyddol a mathau eraill o gyhoeddiadau megis canllawiau a fideos, rydym wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau ar bynciau sy’n cynnwys delio mewn plant, gofalwyr ifanc, eiriolaeth, unedau cyfeirio disgyblion a mynediad i gadeiriau olwyn mewn ysgolion uwchradd. Mae ein holl adroddiadau ar gael ar ein gwefan, o dan ‘Cyhoeddiadau’.