Adroddiad comisiynwyr plant i’r Cenhedloedd Unedig

Comisiynwyr plant yn dweud wrth y Cenhedloedd Unedig beth sydd angen i lywodraethau gwneud er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn ei hawliau

30 Tachwedd 2022

Mae comisiynwyr plant o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cyflwyno adroddiad ar y cyd i’r Cenhedloedd Unedig. Mae’r adroddiad yn nodi record y llywodraethau datganoledig a llywodraeth ganolog y Derynas Unedig ar hawliau plant, ac yn ystyried os ydy’r DU yn cyflawni ei haddewidion rhyngwladol ar hawliau plant.

Darllenwch yr adroddiad llawn (PDF)

Darllenwch adroddiad o brofiadau pobl ifanc ym mhob gwlad (PDF)

Darllenwch fersiwn gyda symbolau i’ch helpu i ddarllen (PDF)

Yn eu “cerdyn adrodd” i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – mae’r tri Chomisiynydd wedi tynnu sylw at agweddau hawliau plant sydd o bryder iddyn nhw – gan gynnwys tlodi, iechyd meddwl, a newidiadau posib i’r Ddeddf Hawliau Dynol gan Lywodraeth y DU.

Mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i ddweud wrth y pwyllgor beth maen nhw’n ei wneud i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn ei hawliau. Fel rhan o’r proses adrodd, mae’r comisiynwyr plant yn rhannu eu barn gyda’r pwyllgor ar gyflwr hawliau plant ym mhob gwlad.

Bu’r adroddiad diwethaf yn 2016, Y tro yma, mae’r comisiynwyr wedi nodi cynnydd yn rhai meysydd, ond mae llawer o faterion heb eu datrys ar draws ystod eang o hawliau. Mae’r comisiynwyr eisiau i’r llywodraethau gweithio ar y materion yma a sicrhau fod hawliau plant ar ganol polisiau ac ymarfer.