TGAU a Lefel A 2021: Ydy Cymru wedi pasio’r prawf?

Mae’r wythnos hon yn wythnos ganlyniadau anghyffredin am lawer o resymau. Nid yn unig cafodd ymgeiswyr Cymru adroddiad ar eu canlyniadau dros dro rai wythnosau yn ôl, ond cafodd y neuadd arholiadau draddodiadol ei disodli gan system fwy hyblyg oedd yn dibynnu ar arweiniad ysgolion a cholegau wrth benderfynu sut i asesu graddau eu myfyrwyr, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ac offer oedd yn cael eu hargymell gan y bwrdd arholi.

Fel Comisiynydd Plant, fy rôl i yw sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn eu hawliau dynol ar draws llawer o feysydd yn eu bywydau. Mae hynny’n cynnwys hawliau i gael eu cefnogi i gyflawni hyd eithaf eich potensial ar ffurf cynnig addysgiadol eang, hawliau cydraddoldeb a pheidio â dioddef camwahaniaethu, a hawliau iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl. Mae’r angen am ddiogelu’r hawliau hynny yn wyneb argyfwng byd-eang wedi bod yn amlwg iawn yn ystod y 18 mis diwethaf.

Felly, mewn cyfnod rhyfedd dros ben, gyda mwy o droeon a digwyddiadau annisgwyl na’r bocsetiau rydyn ni i gyd wedi bod yn eu gwylio yn ystod amser sbâr y flwyddyn ddiwethaf, pa radd byddwn ni’n ei rhoi i Gymru fel llywodraeth a chymdeithas ar y system ar gyfer cymwysterau eleni?

Gadewch i ni ddechrau gyda’r bobl ifanc eu hunain. Yn fy marn i maen nhw wedi bod yn rhyfeddol at ei gilydd. Mae fy nhîm a minnau wedi cadw mewn cysylltiad agos â phobl ifanc trwy ein harolygon mawr, ein grwpiau ysgol a llysgenhadon cymunedol, ein gwasanaeth gwaith achosion, a gwaith gwych ein panel ymgynghorol o bobl ifanc. Mae 47 aelod y panel, sy’n dod o gefndiroedd amrywiol, wedi cadw mewn cysylltiad â mi ar hyd y pandemig, i rannu cyngor cytbwys a phrofiadau pob dydd. Er fy mod i’n dal i bryderu’n aruthrol ynghylch anghydraddoldeb profiadau o ran incwm teuluoedd, ethnigrwydd ac anabledd, mae pobl ifanc wedi addasu’n rhyfeddol a meithrin sgiliau newydd fel dysgu annibynnol hunangyfeiriedig, dilyn disgwyliadau newidiol mewn perthynas â chyfyngiadau mewn ysgolion, a rheoli’r pryder parhaus o orfod hunanynysu’n ddirybudd. Mae canlyniadau ein harolygon yn dangos bod hynny fel petai wedi pwyso’n drymach ar y rhai yn y grwpiau oedran fydd yn derbyn canlyniadau yr wythnos hon nag ar eraill. Ar ben hynny, mae llawer wedi chwarae rhan arweiniol mewn mudiadau cymdeithasol fel Black Lives Matter, gwrthwynebu algorithm arholiadau mis Awst diwethaf, a’r ymgyrchoedd yn erbyn aflonyddu rhywiol. Mae siarad mewn modd negyddol am beryglon chwyddo graddau yn diystyru’r gofynion dysgu aruthrol a fu arnynt a’r sgiliau a’r gwydnwch maen nhw wedi’u datblygu yn ystod y cyfnod hwn, ochr yn ochr ag anwybyddu’r anghydraddoldeb sydd wedi’i wreiddio yn llawer o’r system arholiadau cyn y pandemig.

Yna daeth y trefniadau newydd ar gyfer yr arholiadau, ac er i hynny gael effaith sylweddol yn bendant, y prif neges glywais i gan y proffesiwn oedd y bydden nhw’n gwneud beth bynnag oedd angen i sicrhau bod eu myfyrwyr yn cael canlyniadau teg.

Beth am y rhai sy’n gyfrifol am y system arholiadau? Yma mae triawd ar ffurf rheoleiddiwr yr arholiadau: Cymwysterau Cymru, y bwrdd arholi: CBAC, a’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg. Dyma’r man y bu fy nhîm a minnau’n craffu fwyaf arno.

Yn union fel darparwyr addysg a phobl ifanc eu hunain, bu’n rhaid i’r rhai oedd yn llywodraethu ac yn rheoleiddio cymwysterau ymdopi â sefyllfa frys nad oeddent wedi paratoi ar ei chyfer nac wedi’i phrofi o’r blaen. Maent hwythau wedi bod yn dysgu ar garlam, a bu datblygiadau cadarnhaol yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae fy nhîm a minnau wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion Addysg bron bob wythnos, ac rydw i wedi mynegi’n glir wrth y Llywodraeth bod angen diogelu hawliau pobl ifanc wrth i system newydd gael ei chynllunio. Mewn un o nifer o lythyron a ysgrifennais at y Gweinidog Addysg ar y pryd, fe nodais ym mis Awst y llynedd fod angen cynllunio ar gyfer beth bynnag ddeuai yn sgîl y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfle teg a chyfartal i gyflawni eu cymwysterau. Dangosodd Adolygiad Casella, y bues i’n cyfrannu ato, yn eglur bod tegwch, gallu i addasu i sefyllfa newidiol y feirws, ac yn anad dim, system oedd yn rhoi’r bobl ifanc yn y canol, yn hanfodol. Gofynnodd y Gweinidog Addysg, yn ddoeth yn fy marn i, i nifer o arweinyddion ysgolion a cholegau lunio system a fyddai’n cyflawni’r nodau hynny, ac fe wnaethon nhw ystyried barn a phrofiadau pobl ifanc fel rhan o’r gwaith yma. Bu Cymwysterau Cymru hefyd yn gweithio gyda fy swyddfa i ddatblygu panel ymgynghorol pobl ifanc ac i sicrhau bod eu deunydd cyfathrebu yn fwy addas i bobl ifanc, oedd yn ddatblygiad cadarnhaol, ac roeddwn i’n sicr yn fy nghyfarfodydd â nhw bod datblygu system oedd yn deg i wahanol grwpiau o ddysgu yn ganolog i’w syniadau ar gyfer 2021.

Roedd gan y system a ddeilliodd o hynny lawer o fanteision o gymharu â 2020, gan gynnwys system apeliadau, trefniadau ar gyfer ymgeiswyr preifat, gan gynnwys pobl ifanc sy’n cael eu haddysgu gartref, a chyfle i ysgolion a cholegau ddatblygu’r asesiadau oedd yn deg o safbwynt gwahanol brofiadau eu dysgwyr yn ystod y flwyddyn. Roedd rhai diffygion yn bendant, yn arbennig y nifer aruthrol o asesiadau a ddaeth i’r amlwg yn eitha hwyr i ymgeiswyr a’u hathrawon. Roedd hynny’n golygu bod llawer o bobl ifanc yn profi tymor yr haf oedd yn rhoi pwysau trwm arnyn nhw o ran asesu, ac roedd hynny ynddo’i hun yn cyfyngu ar y cyfleoedd i barhau i ddysgu wyneb yn wyneb.

Doedd system berffaith byth yn mynd i gael ei datblygu, ac rydyn ni’n aros i weld a fu canlyniadau eleni yn ffafrio rhai grwpiau cymdeithasol yn fwy nag eraill, ond mae angen i ni gofio nad yw’r system gymwysterau arferol yn berffaith chwaith. Mae’n gwobrwyo ymgeiswyr sydd â mathau penodol o sgiliau academaidd a hyder, yn ogystal wrth gwrs â’r rhai y mae adnoddau’r teulu yn rhoi mwy o gyfleoedd i rai pobl ifanc ddatblygu eu doniau a’u sgiliau, a mwy o hyder i adlewyrchu’r rheiny yn eu perfformiad mewn arholiad.

Rwy’n credu bod Cymru wedi pasio’r prawf o sicrhau bod cynifer â phosib o’n pobl ifanc yn gallu derbyn eu cymwysterau eleni. Fel sy’n digwydd bob blwyddyn, bydd rhai pobl ifanc yn cael eu siomi, ond rwy’n gobeithio y byddan nhw, a’r oedolion o’u cwmpas, yn cofio faint maen nhw wedi’i ddysgu a’i gyflawni, ac y bydd hynny’n aros gyda nhw ar hyd eu hoes.

Mae angen i ni fod yn falch o’n pobl ifanc a sut maen nhw wedi ymateb i’r ddwy flynedd anodd ddiwethaf. Mae angen i ni sicrhau bod pob person ifanc a’u hathrawon yn teimlo’n hyderus ein bod ni’n gosod gwerth ar y gwaith caled y mae’r cymwysterau hyn yn ei gynrychioli. Ac mae angen i ni sicrhau bod pob person ifanc yn cael cefnogaeth i symud ymlaen yng nghyfnod nesaf eu dysgu neu eu profiad.

Mae addasiadau eisoes wedi’u cynllunio ar gyfer cymwysterau yn 2022, i gydnabod y materion y bydd ymgeiswyr wedi’u hwynebu eleni. Bydd yn bwysig bod ein pobl ifanc yn derbyn gwybodaeth a sicrwydd yn gynnar ynghylch hyn. Rwyf wedi clywed gan nifer o bobl ifanc ym mlwyddyn 12 a blwyddyn 10 eu bod yn pryderu ynghylch bod yn barod ar gyfer arholiadau yn 2022.

Y cwestiwn mawr sy’n parhau yw beth ddaw nesaf ar gyfer cymwysterau yng Nghymru, yn arbennig yng ngoleuni’r cwricwlwm newydd? Sut gallwn ni adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn y pandemig er mwyn datblygu system deg sy’n annog dysgu a datblygiad parhaus, yn hytrach na pharatoadau cyfyng ar gyfer arholiadau? Sut gallwn ni symud i ffwrdd oddi wrth system sy’n gwneud i rai pobl ifanc deimlo eu bod yn methu i un lle gall pob person ifanc wneud cynnydd a lle mae eu cyflawniadau’n cael eu gwerthfawrogi? Dyna’r prawf nesaf y bydd yn rhaid i Gymru ei basio.