Edrych yn ôl ar 2023

Fedra i ddim credu ein bod ni yn ystod dyddiau olaf 2023 – blwyddyn sydd wedi hedfan heibio mewn sawl ffordd – ac wrth i mi edrych yn ôl dros y 12 mis diwethaf rwy’n teimlo’n hynod ddiolchgar o fod wedi cael cymaint o uchafbwyntiau a chymaint o gyfleoedd i ddysgu gan eraill, gan gynnwys gan blant a phobl ifanc mewn llawer o wahanol amgylchiadau ledled Cymru.

Roedd dechrau’r flwyddyn yn llawn cyffro wrth i ni roi cynlluniau ar waith i roi tystiolaeth ym mis Chwefror i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ynghyd â Chomisiynwyr Plant eraill y DU, sefydliadau trydydd sector a phlant a phobl ifanc a oedd yn cynrychioli’r gwahanol wledydd hynny. Dim ond bob rhyw 5 mlynedd y mae’r broses hon yn digwydd, felly roeddwn i’n teimlo’n lwcus iawn i allu ei wneud mor gynnar yn fy nhymor fel Comisiynydd.

Dyma’r mis hefyd lle wnes i gwrdd ag aelodau o’m panel ymgynghorol ifanc yn Llandudno a Merthyr, gan glywed eu barn a’u pryderon am amrywiaeth o faterion gan gynnwys bwlio ar sail hunaniaeth, prydau ysgol fforddiadwy a chludiant cyhoeddus.

Ym mis Mawrth, roeddwn yn falch iawn o allu cyhoeddi ‘Llyfr Profiadau Dim Drws Anghywir‘ sy’n dangos profiadau teuluoedd â phlant sy’n niwroamrywiol, gan gynnwys yr amseroedd aros hir iawn y maent yn eu profi. Mae hwn yn bwnc sydd wedi achosi pryder i fy swyddfa am gryn amser, ac mae’n rhan fawr o waith fy ngwasanaeth Cyngor. Mae cynyddu amlygrwydd y gwasanaeth hwn yn rhywbeth rydym wedi gweithio arno’n fewnol am ran helaeth o’r flwyddyn, gyda ffordd newydd o hyrwyddo’r gwasanaeth hwn yn dod yn fuan.

Dros fisoedd yr haf bu’r tîm yn gweithio’n galed iawn i ddadansoddi ac ystyried y 10,000+ o ymatebion i’m harolwg cenedlaethol Gobeithion i Gymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, a lywiodd fy strategaeth 3 blynedd newydd ‘Gwneud Bywyd yn Well i Blant yng Nghymru’ a’m blaenoriaethau wedyn. Ni fydd yn syndod i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc fod y gwaith hwn wedi nodi tlodi ac iechyd meddwl fel materion sy’n dod yn fwyfwy hanfodol i fywydau plant a phobl ifanc.

Un o bleserau a breintiau’r swydd hon yw’r cyfle unigryw sydd gennyf i gwrdd â phlant a phobl ifanc a threulio amser gyda nhw mewn lleoliadau gwahanol iawn, ac yn ystod y flwyddyn hon, rydw i wedi bod yn hynod ffodus i ymweld, gydag aelodau o’m tîm cyfranogiad, pob awdurdod lleol yng Nghymru a chlywed gan ystod eang iawn o blant a phobl ifanc, a siarad â nhw am eu hawliau. Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc mewn lleoliadau preswyl, mewn ysbytai, mewn clybiau ieuenctid ac mewn ysgolion, plant ag anableddau, o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, plant a phobl ifanc sy’n ffoaduriaid, a phobl ifanc LGBTQ+.

Y cyfrifoldeb wedyn yw rhannu eu barn a’u lleisiau gyda’r rhai sydd mewn safleoedd o rym, a dyma’r hyn yr oedd ein hadroddiad ar Addysg mewn lleoliadau iechyd, a gyhoeddwyd ym mis Medi, yn bwriadu ei wneud. Dyma hefyd nod ein Hadroddiad Blynyddol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref a’r Argymhellion Polisi sydd ynddo ar gyfer y Llywodraeth.

Braint arall y rôl yw ei blatfform cyhoeddus, ac roeddwn yn arbennig o falch ym mis Tachwedd nid yn unig i allu cyhoeddi adroddiad cyntaf y swyddfa ar hiliaeth mewn ysgolion, ond hefyd bod yr adroddiad wedi cael cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau. Y gobaith yw y bydd sylw ac ystyriaeth y llywodraeth yn dilyn.

Mae fy sylwebaeth ar dlodi plant ym mis Rhagfyr hefyd wedi cael cryn sylw, ac unwaith eto, rydw i’n gobeithio y gall wneud gwahaniaeth cadarnhaol i benderfyniadau mewn perthynas â bywydau plant.

Mewn gwirionedd mae cymaint o straeon unigol am blant a phobl ifanc wedi glynu yn fy meddwl, a byddai’n amhosibl eu cyfleu i gyd. Ond rydw i’n gwybod mai ond oherwydd gwaith caled pob aelod o’m tîm sy’n darparu’r gefnogaeth y tu ôl i’r llenni, a’r strwythur y tu ôl i’r llenni, y mae fy mynediad breintiedig yn bosibl – felly rwy’n ddiolchgar iawn iddynt. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i aelodau fy Mhanel Ymgynghorol Pobl Ifanc, fy Mhanel Ymgynghorol Oedolion a Phwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – pob un o’r gwirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser a’u harbenigedd gyda mi a’r swyddfa.

Wrth i ni ddod â’r flwyddyn i ben, fel llawer o wasanaethau cyhoeddus eraill, gyda rhagolygon ariannol anodd ar gyfer y flwyddyn i ddod – mae hyn ond yn ein hatgoffa o’r anawsterau hyd yn oed yn fwy llym a wynebir gan ormod o blant a theuluoedd ledled Cymru, ac mae’n cryfhau fy mhenderfyniad i wneud mwy i fynd i’r afael â hyn a’r heriau niferus eraill sy’n wynebu pobl ifanc yn 2024.

Gan ddymuno Nadolig llawen a llonydd i chi gyd a blwyddyn newydd iach, hapus a llewyrchus

Rocio Cifuentes