Diwrnod lansio arbennig

Ysgrifenwyd y post gwestai hwn gan Josh Houston, person ifanc a ddaeth i lansiad ein hadroddiad Stori Sam yn ystod ei wythnos profiad gwaith.

Am #WythnosGwrthFwlio, rydyn ni wedi lansio adnoddau i ysgolion cynradd ac uwchradd; mae’r adnoddau yn deillio o’n hadroddiad Stori Sam.

Wrth gyrraedd Ysgol Gynradd MiIlbank, ar ôl teithio yno o Abertawe, roedd yn amlwg ar unwaith bod awyrgylch cynnes, croesawgar yn yr ysgol gynradd, oedd yn lleoliad perffaith ar gyfer lansio stori Sam.

Roeddwn i eisoes wedi darllen adroddiad stori Sam, oedd wedi’i seilio ar ymatebion, canfyddiadau a syniadau miloedd o blant ynghylch bwlio ledled Cymru, ac felly roeddwn i’n gwybod bod rhywbeth arbennig yn fy nisgwyl pan glywais i y byddai Sally Holland ac ambell ddisgybl dethol o Ysgol Gynradd Millbank yn rhoi cyflwyniad i ni ar yr wybodaeth maen nhw wedi’i chasglu a’r gwaith unigol roedd yr ysgol gynradd wedi’i wneud ers ymweliad Sally y flwyddyn flaenorol.

Ar ôl helpu i roi popeth yn barod, fe eisteddon ni i gyd i lawr i ddisgwyl am y cyflwyniad fyddai’n cael ei roi, nid yn unig i ni, ond i rai pobl dylanwadol iawn, gan gynnwys ambell un o Lywodraeth Cymru a newyddion ITV.

Cychwynnodd Sally’r lansio drwy sôn am y nodau a’r targedau lle byddai rhyddhau’r adroddiad yn ceisio sicrhau gwelliant, a sut dylai ysgolion ddelio gyda bwlio a rhoi gwybod i ddisgyblion amdano.

Cyflwynwyd sawl darlun hardd oedd wedi’u cynhyrchu gan rai o’r plant a fu’n rhan o’r adroddiad, ac roedd yn ddiddorol sylwi ar sawl thema oedd yn codi droeon ac o dan yr wyneb ym mhob llun.

Roedd y lluniau fel arfer yn cyflwyno Sam fel rhywun trist, anhapus neu oedd yn cael ei ynysu oherwydd nodwedd benodol oedd ganddo, ac roedden nhw hefyd yn portreadu’r rhai oedd yn ei fwlio fel rhai oedd, er enghraifft, yn unig, heb ffrindiau, neu’n gwneud pethau fel galw enwau, rhywbeth yr oedd yn bosib y byddai’r rhan fwyaf o leiaf wedi tystio iddo yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.

Ar ôl y cyflwyniad hwn, oedd yn llawn gwybodaeth, cafodd disgyblion Millbank eu cyfle i siarad â ni.

Cyn dod i’r lansio fyddwn i byth wedi disgwyl bod gan blant cynradd lefelau mor rhyfeddol o aeddfedrwydd a dealltwriaeth ynghylch bwlio.

Roedd y sgwrs gawson ni ganddyn nhw yn delio gyda materion allweddol oedd yn ymwneud â deall pwnc bwlio, wrth iddyn nhw ddangos, trwy weithgaredd byr gyda’r gynulleidfa, bod Sam yn gallu bod neu edrych fel unrhyw un ohonom ni, oedd yn neges bwysig iawn, yn fy marn i, i’w dysgu o’r lansio yma.

Roedd y plant yn eithriadol o frwd, a dangosodd hynny wir lefel eu hangerdd ynghylch sut dylai delio gyda bwlio gael blaenoriaeth uchel o ran sut mae ysgolion yn mynd i’r afael â bwlio ar lefel unigol a chenedlaethol.

Wedyn cafodd pawb ohonon ni weld peth o’r gwaith yr oedd Ysgol Gynradd Millbank, fel ysgol unigol, wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn, ac roeddwn i’n rhyfeddu at yr amrywiaeth eang o ffyrdd arloesol a chreadigol yr oedd plant wedi cael eu dysgu am fwlio.

Mewn sesiwn holi ac ateb gyflym ar ddiwedd y cyflwyniad, holwyd y disgyblion beth oedd eu hoff weithgaredd ar destun bwlio, a’u hymateb oedd mai tasgau ysgrifennu creadigol, gwasanaethau a thynnu lluniau oedd rhai o’r gweithgareddau roedden nhw’n eu ffafrio fwyaf.

Ar ôl cymeradwyaeth haeddiannol iawn, fe gawson ni gyfle i sgwrsio rhagor gyda’r disgyblion. Pan ofynnon ni i’r plant beth maen nhw’n meddwl sy’n fwyaf effeithiol wrth ddelio gydag achosion o fwlio, eu hymateb nhw oedd eu bod nhw’n meddwl bod angen mwy o ymyrraeth gan rieni a chyfathrebu rhwng rhieni a’r ysgol i gael gwared ar fwlio, a bod angen i’r oedolion ymwneud yn fwy â delio ag achosion o fwlio.

Y rhesymeg y tu ôl i hyn oedd, er bod athrawon yn gwybod beth sydd o bosib yn digwydd yn yr ysgol, mai’r rhieni sy’n gwybod sut mae bwlio’n effeithio ar y plant yn eu bywyd gartref, ateb rhyfeddol sydd unwaith yn rhagor yn dangos dealltwriaeth aruthrol y disgyblion hyn.

Buon nhw hefyd yn trafod sut maen nhw’n dysgu llawer am hawliau plant yn Millbank a mynegodd y myfyrwyr hefyd eu hapusrwydd a’u bodlonrwydd ym Millbank, gymaint roedden nhw’n mwynhau eu bywyd yn yr ysgol, a bod bwlio ddim yn broblem yno.

Roedd yn hyfryd gwrando ar rai o’r disgyblion ifancaf, hyd yn oed, yn ateb cwestiynau ynghylch beth oedd hawliau plant (roedd llawer ohonyn nhw’n gwbl gywir) a hefyd yn gofyn cwestiynau diddorol iawn ynghylch sut cyrhaeddodd Sally’r man lle mae hi nawr, a beth fyddai’n digwydd petai hawliau plant yn cael eu torri yng Nghymru.

Roedd y lansio’n llwyddiannus iawn ac roedd holl waith caled tîm y Comisiynydd Plant wedi dwyn ffrwyth.

Roedd yn braf iawn clywed y plant yn mynegi eu barn, eu safbwyntiau a’u syniadau eu hunain ynghylch bwlio a hawliau plant, yn hytrach na bod oedolyn yn dweud beth ddylai ddigwydd ‘ar ran’ plant yng Nghymru.

Dangosodd y lansio lefelau mor uchel o wybodaeth a chynifer o syniadau oedd gan y disgyblion a’r Llysgenhadon Gwych am fwlio. Mae hynny’n amlygu y dylai plant gael eu cynnwys, ac y dylai eu barn gael ei hystyried yn fwy pwysig wrth drafod materion sy’n cael effaith fawr arnyn nhw, gan eu bod nhw’n gwybod beth sydd orau iddyn nhw’n bersonol, ac yn fy marn i, dyna’r neges bwysicaf i’w chofio o’r lansio.

Gallwn ni’n sicr ddisgrifio Ysgol Gynradd Millbank fel arloeswyr o ran sut mae ysgolion yn meddwl am fwlio ac yn mynd i’r afael ag e, yn ogystal ag addysg hawliau Plant yng Nghymru.