Er bod plant o dan 16 yn methu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, mae gan holl blant Cymru hawl i gael eu gwrando a’u cymryd o ddifri (Erthygl 12).
Efallai bydd plant yn teimlo nad ydyn nhw’n derbyn rhai o’u hawliau ar hyn o bryd, neu efallai byddan nhw’n teimlo’n angerddol am fater arbennig, ac eisiau creu newid.
Rydym wedi paratoi dwy wers ar etholiadau’r Senedd a democratiaeth i chi wneud yn yr ystafell dosbarth.
Eich Tasg Arbennig y tymor yma yw dweud wrthyn ni pa newid byddech chi’n ei wneud, tasech chi’n Brif Weinidog Cymru am ddiwrnod. Efallai byddech chi am newid rhywbeth yn eich ardal neu eich cymuned leol, neu newid rhywbeth mawr, sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru.
Cwblhewch y daflen weithgaredd “Taswn i’n Brif Weinidog Cymru…” i ddweud wrthyn ni. Gallech chi gasglu holl atebion eich dosbarth neu eich grŵp a throi’r cyfan yn waith celf neu’n ddarn mawr o waith ysgrifenedig gan eich ysgol.
Dywedwch wrthyn ni beth hoffech chi newid erbyn 26 Mawrth 2021. Gallwch chi anfon e-bost aton ni i post@complantcymru.org.uk neu anfon trydariad i @complantcymru
Adnoddau a Chynlluniau Gwers
Cyfnod Allweddol 2:
Pe bawn i’n Brif Weinidog byddwn i CA2
Cyfnod Sylfaen:
Gweithgaredd Un: Caerdydd Cyfnod Sylfaen
Gweithgaredd Dau: Y Senedd Cyfnod Sylfaen