Gwneud achosion cyfreithiol yn hygyrch i blant

Post gwestai gan Rachel – Cynghorydd Polisi

Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o gynnwys yn cael ei greu sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei ddeall, ond anaml y byddwn ni’n cysylltu ‘Cymraeg Clir’ neu fersiynau ‘hwylus i blant’ ag achosion cyfreithiol.

Serch hynny, mae barnwyr yn awr yn cael eu hannog i gyhoeddi’r rhesymau am eu penderfyniadau (dyfarniadau) ar-lein, er mwyn ceisio egluro prosesau’r llys a beth sy’n digwydd pan fyddan nhw’n clywed achos yn y llys teulu.

Mae achos gofal yn mynd i’r llys teulu pan fydd gweithwyr cymdeithasol awdurdod lleol yn pryderu am lefel y gofal mae rhieni’n ei ddarparu i’w plentyn; os yw’n debygol o achosi niwed sylweddol i’r plentyn, neu os yw hynny eisoes wedi digwydd.

Rhai o ganlyniadau posib yr achosion yma yw mynd â phlant i ofal nes eu bod nhw’n 18 oed, neu leoli plant ar gyfer eu mabwysiadu.

Dyw plant byth yn bresennol yn y llys pan fydd y penderfyniadau pwysig yma’n cael eu gwneud ynghylch ble byddan nhw’n byw nes eu bod nhw’n 18 (ac ar ôl hynny), ond mae gan yr awdurdod lleol ei gyfreithiwr ei hun, fel sydd gan bob un o’r ddau riant, a gofynnir i’r rhieni ddod i’r llys a chymryd rhan yn y gwrandawiad.

Mae’r plant yn cael eu cynrychioli yn y llys gan gyfreithiwr a gwarcheidwad plant annibynnol, ond, beth bynnag yw eu hoedran, dydyn nhw byth yno i glywed beth mae barnwr wedi’i benderfynu, ac yn fwy pwysig, beth yw’r rhesymau am y penderfyniadau hwnnw.

Gall hynny olygu bod llawer o blant heb ddeall eu profiadau’n glir na’r penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud am eu dyfodol.

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o blant sydd wedi’u mabwysiadu neu sydd mewn gofal maeth hir dymor yn aml heb wybod hanes eu bywyd oherwydd bod gwybodaeth ar goll, neu oherwydd bod oedolyn yn teimlo nad dyma’r ‘amser cywir’ i drafod pethau mawr.

Felly sut gall plant a phobl ifanc ddarganfod yn union pam maen nhw’n methu tyfu i fyny gyda’u rhieni biolegol neu yn eu teuluoedd biolegol?

Wel, mae dyfarniad gan Mr Ustus Peter Jackson wedi cael ei gyhoeddi’n ddiweddar, ac mae’n cael llawer o sylw oherwydd ei fod wedi’i ysgrifennu mewn iaith syml ac wedi’i gadw’n fwriadol mor fyr â phosib er mwyn i’r fam a’r plant hŷn fedru ei ddilyn.”

Cafodd yr achos ei glywed yn y llys ym mis Chwefror 2016 ond dim ond yn ddiweddar mae’r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi.

Cafodd pedwar plentyn eu cymryd o ofal eu rhieni oherwydd amheuon eu bod wedi ceisio teithio i Syria, ond wedi methu â gwneud hynny. Roedd pryderon hefyd bod gan dad dau o’r plant (Mr A) safbwyntiau eithafol, ac y gallai hynny fod yn cael effaith ar y plant.

Mae’r dyfarniad yn rhoi’r holl wybodaeth gefndir a ffeithiau ynghylch pam roedd rhaid i’r plant gael eu cymryd i ofal maeth, ac yna mae’n mynd ymlaen i sôn am y dystiolaeth mae’r Barnwr wedi’i chlywed cyn gwneud dyfarniad terfynol.

Mae hefyd rai egwyddorion clir yn cael eu nodi ym mharagraffau 6-9, sy’n cefnogi nodau tryloywder yn y broses, sef –

  1. All plant ddim cael eu cymryd oddi wrth eu rhieni oni bai bod y gwasanaethau cymdeithasol yn profi wrth farnwr y byddai byw gartref yn niweidiol iddyn nhw. Os caiff plant eu cymryd i ffwrdd, bydd barnwyr bob amser yn ceisio’u dychwelyd nhw os yw hynny’n ddiogel.
  2. Peth arall yw bod plant ddim yn cael eu cymryd oddi wrth eu rhieni dim ond oherwydd bod y rhieni wedi dweud celwydd am rywbeth. Hyd yn oed os byddan nhw’n dweud celwyddau, maen nhw’n dal i fedru bod yn rhieni digon da.
  3. Mae pobl yn gallu dweud celwydd am rai pethau, ond dweud y gwir am bethau eraill.
  4. Hefyd, dyw plant ddim yn cael eu cymryd i ffwrdd oherwydd bod rhieni’n anghwrtais neu’n anodd, neu oherwydd bod ganddyn nhw farn ryfedd, hyd yn oed os yw’r farn honno’n gwneud i bobl ddigio. Yr unig reswm dros fynd â phlant i ffwrdd yw oherwydd bod angen eu hamddiffyn rhag niwed.”

Canlyniad yr achos yw bod y plant wedi mynd nôl i fyw gyda’u mam a’u mam-gu, ond mae’r dyfarniad yn esbonio pam roedd rhaid iddyn nhw fyw mewn gofal maeth yn ystod yr achos, a’r lefel uchel o bryderon sy’n golygu y dylai eu cyswllt â Mr A fod yn gyfyngedig, ac nid wyneb yn wyneb.

Mae hefyd yn helpu eu Mam i ddeall natur y risg mae Mr A yn ei achosi i’r plant, er mwyn iddi fedru eu diogelu nhw’n llawn rhag niwed sylweddol yn y dyfodol.

Er nad bwriad y post blog yma yw gwneud sylwadau ar natur gymhleth y materion oedd dan sylw yn yr achos yma, rydyn ni’n teimlo bod rhaid tynnu sylw at y defnydd o iaith a’r camau cadarnhaol sy’n cael eu cymryd i esbonio penderfyniad a fydd yn cael effaith barhaol ar y plant yma, a hynny mewn ffordd sy’n sicrhau y byddan nhw’n deall beth sydd wedi digwydd iddyn nhw a pham.

Er y gallai fod enghreifftiau eraill o ddyfarniadau mewn iaith eglur fel hyn, yn ystod fy nghyfnod yn astudio’r gyfraith ac wrth ymarfer fel cyfreithiwr gofal plant, dwyf i erioed wedi gweld dyfarniad wedi’i ysgrifennu fel hyn.

Fel arfer mae dyfarniadau yn cynnwys llwyth o baragraffau’n cyflwyno’r egwyddorion cyfreithiol sy’n sail i benderfyniad y Barnwr, ond dyw’r rheolau hynny ddim yn newid o un achos i’r nesaf.

Beth sy’n wahanol ym mhob achos yw’r amgylchiadau a gwybodaeth bersonol am y teulu, a dyna beth sydd angen cael ei adlewyrchu mewn dyfarniadau i wneud yn siŵr eu bod nhw’n bersonol i’r rhai maen nhw’n effeithio arnyn nhw.

Mae gan blant hawl i gael mynediad i’r wybodaeth yma, nawr neu yn y dyfodol, ac rwy’n gobeithio bydd y dull gweithredu yma’n dod yn arfer safonol ym mhob achos o’r fath.

Graddiodd Rachel yn y gyfraith o Brifysgol Warwick, ac mae wedi bod yn ymarfer fel cyfreithiwr plant. Fel Ymgynghorydd Polisi i Gomisiynydd Plant Cymru, mae hi’n arwain gwaith sy’n ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol, Cymunedau a Chyfiawnder.