Fy malchder yn ein hactifyddion ifanc

Ddoe (Mehefin 5) fe drefnodd fy swyddfa gyfarfod rhwng rhai o’r bobl ifanc a fu’n cymryd rhan mewn streiciau newid yn yr hinsawdd yn ddiweddar yng Nghaerdydd (o ysgol Radnor a Choleg yr Iwerydd) a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Fe achosodd y protestiadau dipyn o gynnwrf: roedd llawer yn beirniadu pobl ifanc am ‘gymryd mantais o’r sefyllfa’ i osgoi mynd i’r ysgol, tra bod eraill yn dathlu dull ein pobl ifanc o fanteisio ar eu rhyddid mynegiant i leisio barn ar fater brys.

Beth bynnag yw eich barn am y rhan a chwaraewyd gan ddisgyblion ysgol, roedd canlyniadau’r protestiadau, y bu plant ac oedolion yn bresennol ynddynt ar draws y Deyrnas Unedig, yn arwyddocaol. Yn fuan wedyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Argyfwng Hinsawdd’, gan gydnabod bod cloc yr amgylchedd yn tician, a bod angen i ni ailystyried ein ffordd o feddwl ac ymddwyn os ydyn ni am ddiogelu’r byd y bydd ein plant a’u plant hwythau’n byw ynddo.

Rwy’n hoffi meddwl bod siantiau’r plant a’r bobl ifanc yn canu yng nghlustiau Prif Weinidog Cymru wrth iddo bwyso a mesur effaith amgylcheddol adeiladu traffordd newydd ar draws ardal gefn gwlad yn llawn bioamrywiaeth, o gymharu â gwella cludiant cyhoeddus.

Ac i rai o’r bobl ifanc hynny, roedd cwrdd â’r Gweinidog yn anogaeth bellach iddyn nhw greu newid.

Roedd yn gyfle i ddweud eu barn yn uniongyrchol wrth y Gweinidog ynghylch beth gallai’r ‘Argyfwng Hinsawdd’ ei olygu i bobl ifanc, a’i holi ynghylch polisïau posibl a allai effeithio ar hawliau a llesiant cenedlaethau sydd i ddod.

A minnau’n Gomisiynydd Plant, rwyf wrth fy modd yn gweld penderfyniad i greu newid yn dwyn ffrwyth ymhlith pobl ifanc, ac rwy’n falch bod ein cwricwlwm newydd yn mynd i gefnogi hynny.

Rwy’n credu bod llawer o oedolion yn gweld plant a phobl ifanc fel cymeriadau goddefol, sydd ddim yn rhoi rhyw lawer o sylw i’r digwyddiadau gwleidyddol o’u cwmpas. Mae rhai hyd yn oed yn awgrymu, yn eu gwrthwynebiad i roi pleidlais i bobl ifanc 16 oed, eu bod yn dibynnu’n llwyr ar eu rhieni am eu barn.

Yn fy mhrofiad i, allai dim fod yn bellach o’r gwir.

Rwy’n cwrdd â phobl ifanc ledled Cymru bob wythnos sydd â syniadau angerddol ynghylch y materion sy’n dylanwadu ar eu bywydau, o’r grwpiau eco o blaid yr amgylchedd sy’n fwyfwy poblogaidd yn yr ysgolion cynradd, i’r grwpiau cydraddoldeb cymdeithasol niferus yn yr ysgolion uwchradd. Y gwir amdani yw bod gan bobl ifanc lawer i’w ddweud. Y broblem yw nad ydynt weithiau yn cael llwyfan i sefyll a gweiddi.

Datblygiad cadarnhaol iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw’r cyhoeddiad y bydd pobl ifanc 16 oed yng Nghymru yn cael hawl i bleidleisio mewn etholiadau. Er bod hwn yn gam pwysig, ac yn un fydd yn annog mwy o blant i ymwneud â llunio penderfyniadau, mae’n bwysig ein bod ni’n ei ategu trwy sicrhau bod profiad plant yn yr ysgol a’r gymuned yn rhoi cyfle iddyn nhw gyfranogi’n weithredol: gyda gwrandawiad i’w lleisiau a phwysigrwydd i’w pleidlais.

Yn y dyfodol gallen ni weld rhagor o actifyddiaeth pobl ifanc, tebyg i’r misoedd diwethaf.

Yng nghwricwlwm newydd Cymru, bydd ffocws penodol ar ddatblygu pobl ifanc fel dinasyddion gweithredol.

Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n cefnogi ac yn annog ein pobl ifanc, nid yn unig i ymddiddori yn y byd o’u cwmpas, ond i ymgysylltu â’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau a dylanwadu arnynt, o sut mae eu cymuned leol yn gweithio i’r materion byd-eang pwysig sy’n cael effaith ar bawb ohonon ni.

Yn y diwedd, mater yw hyn o ymdrechu i fyw mewn democratiaeth go iawn, lle rydyn ni’n addysgu pob dinesydd am sut mae’r ddemocratiaeth honno’n gweithio, ac yn gwneud pawb yn awyddus i fod yn rhan ohoni.

Os ydyn ni i adeiladu cymunedau sy’n gweithio i bawb, os ydyn ni i ddarparu gwasanaethau sy’n gweithio i bawb, ac os yw ein pobl ifanc i deimlo’n abl ac yn hyderus i herio’r status-quo, mae hyn yn hanfodol.

Ers cychwyn yn swydd y Comisiynydd Plant rwyf wedi annog cyrff cyhoeddus yng Nghymru i weithio ar eu Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant: mae pum egwyddor penodol i hyn, y cyfan wedi’u cysylltu â hawliau plant, gan gynnwys Grymuso Plant, ac Atebolrwydd. Y nod yw datblygu cymdeithas sy’n gwrando ar blant, lle mae gan blant bŵer i ddylanwadu ar benderfyniadau’n gyson, a lle mae disgwyl, yn hollbwysig, y bydd plant yn gallu herio’r penderfyniadau dydyn nhw ddim yn cytuno â nhw, a gweld canlyniadau eu mewnbwn yn glir.

Dyna pam roeddwn i mor falch bod rhai o’r protestwyr hinsawdd wedi cael cyfle i gwrdd â’r Gweinidog. Nid yn unig cawson nhw gyfle i leisio barn yn y ralïau ar ein strydoedd yn ddiweddar, ond fe welson nhw effaith y gweithredu hwnnw.

Wrth i ni symud ymlaen yng Nghymru, rwy’n gobeithio y bydd ein cwricwlwm newydd yn cefnogi ac yn annog llawer mwy o’n pobl ifanc i gyfranogi’n ystyrlon fel dinasyddion heddiw.

Rwy’n edrych yn ôl ar fy addysg innau, sy’n bell iawn yn ddiwylliannol (diolch byth) o’r fan lle rydyn ni heddiw.

Yn fy ysgol i, roedden ni’n cael ein dysgu i gau ein cegau a gwrando. Yn sicr doedden ni ddim yn beth fyddwn i’n eu galw’n ‘ddinasyddion gweithredol’. Wnes i ddim datblygu’r hyder i godi llais am flynyddoedd lawer.

Nid dyna beth rydw i eisiau i’n plant ni.

Roeddwn i’n falch o’r bobl ifanc hynny oedd eisiau gwneud gwahaniaeth, ac rwy’n gyffrous mai nhw yw ein dyfodol.

A’n presennol.