Edmygedd a chydnabyddiaeth i ofalwyr ifanc

Ddydd Sadwrn diwethaf fe fues i ym marbeciw Gofalwyr Ifanc Caerdydd ym Mhafiliwn Ieuenctid Trebiwt.

Fe gawson ni ddigwyddiad arddangos anhygoel i ddechrau, gyda phobl ifanc ddawnus yn canu ar eu pen eu hunain ac mewn grwpiau. Rhwng y caneuon roedd yna hanesion personol oedd mor emosiynol fel bod gen i lwmpyn anferth yn fy ngwddw erbyn i fi siarad.

Fe glywais i ragor o storïau a phrofiadau hefyd gan bobl ifanc, rhieni a gwirfoddolwyr yn ystod y barbeciw anffurfiol wedyn.

Fe glywais i gan bobl ifanc sut roedden nhw wedi bod yn gyfrifol am baratoi a sicrhau eu bod nhw’n cyrraedd yr ysgol eu hunain, ac yna, wrth dyfu’n hŷn, wedi gofalu bod eu rhieni a’u brodyr a’u chwiorydd hefyd yn cael eu codi o’r gwely, eu gwisgo a’u bwydo bob dydd.

Fe sonion nhw am ofnau a phryderon byw gyda rhieni y mae eu hiechyd meddwl yn cael effaith ddifrifol ar eu gallu i weithredu. Ac fe sonion nhw am y gofal corfforol y gallai fod ei angen ar rieni sydd â salwch corfforol neu anabledd wrth gyflawni tasgau pob dydd.

Y peth oedd yn achosi’r pryder mwyaf oedd eu clywed yn sôn am sut mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth i’w haddysg a’u bywydau cymdeithasol. Mae rhai wedi profi bwlio wrth i bobl ddweud pethau fel ‘mae angen iddi roi bath i’w thad’ mewn ffordd negyddol.

Dywedodd bachgen arall fod ei ysgol wedi ymateb yn negyddol oherwydd ei fod wedi gorfod picio adref i helpu ei fam oedd yn methu symud o’r soffa oherwydd ei hanabledd. Dywedodd sawl un eu bod yn cael trafferth mawr ymdopi’n ariannol, ac er bod gan rai ohonynt swyddi ar ddydd Sadwrn, nid pawb sy’n gallu ymrwymo i waith ar ben yr ysgol neu’r coleg a bod wrth law ar gyfer eu rhieni.

Clwb Gofalwyr Ifanc

Er mod i wedi cwrdd â rhai o’r gofalwyr ifanc o’r blaen mewn digwyddiadau cenedlaethol, roedd yn wych eu gweld nhw’n ymlacio yn y man lle maen nhw’n teimlo mor gyfforddus. Mae Cyngor Caerdydd, gyda llawer o gefnogaeth gan Glwb y Rotari ar gyfer pethau ychwanegol fel tripiau, yn cynnal clwb wythnosol i ofalwyr ifanc, gan roi cyfle iddyn nhw fod yn blant a phobl ifanc eto ymhlith pobl sy’n deall.

Esboniodd dwy ferch bod cael lle i astudio ac adolygu yn ystod y clwb wedi golygu eu bod yn pasio’u harholiadau. Dywedodd eraill eu bod yn poeni llai am golli cyfle i fynd ar wyliau neu daith gyda’r ysgol oherwydd eu bod yn gwybod y bydden nhw’n cael mynd i lefydd gyda’r Gofalwyr Ifanc.

Dywedodd un gweithiwr wrthyf fi fod dau berson ifanc wedi cael profiad o’r traeth am y tro cyntaf erioed ar daith i Ddinbych-y-pysgod.

Mae grwpiau gofalwyr ifanc ym mhob cwr o Gymru, rhai yng ngofal awdurdodau lleol a rhai yng ngofal elusennau fel YMCA a Barnardo’s. Mae grŵp gofalwyr ifanc Sir y Fflint yn un o’m grwpiau llysgenhadon cymunedol, sy’n sicrhau mod i’n cadw mewn cysylltiad rheolaidd â barn gofalwyr ifanc.

Mae’r grwpiau hyn yn hanfodol, fel y mae cefnogaeth ehangach eich cymuned.

Mae rhai camau a fyddai’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau gofalwyr ifanc, e.e. sicrhau bod ysgolion yn gwybod pa fyfyrwyr sy’n ofalwyr ifanc ac yn gweithio gyda nhw i weld pa gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, addysg i bob plentyn fel eu bod yn ymateb i’r aelodau o’u dosbarth sy’n ofalwyr ifanc ag edmygedd yn hytrach na’u bwlio, cymorth gyda sgiliau bywyd ymarferol fel hyfforddiant cymorth cyntaf a choginio iach, a sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol a fferyllwyr yn deall eu rôl yn y teulu.

Am fwy o wybodaeth ar gefnogi gofalwyr ifanc yn yr ysgol, darllenwch adnodd Carers Trust Wales.