Diwrnod Cyntaf

Sally Holland, CPCFe wnes i gais am swydd y Comisiynydd Plant oherwydd mod i eisiau gwneud yn siŵr bod 3 elfen bwysig o hawliau plant a phobl ifanc ar frig agenda pawb yng Nghymru, sef:

  1. Cyfranogiad: ydych chi’n cael cyfle i roi eich barn ar faterion sy’n effeithio arnoch chi?
  2. Darpariaeth: ydych chi’n cael yr holl bethau sydd eu hangen arnoch chi i fyw bywyd hapus? (fel bwyd da, cartref diogel, rhywun i ofalu amdanoch chi, addysg a chyfle i chwarae)
  3. Amddiffyniad: ydych chi’n cael eich cadw’n ddiogel rhag niwed?

Roedd yn wirioneddol gyffrous i mi dreulio peth o’m diwrnod cyntaf yn cwrdd ac yn clywed gan ddisgyblion sy’n arbenigwyr go iawn ar hawliau plant, sef aelodau o gyngor Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas yn Abertawe, dan arweiniad y cadeirydd Chloe a’r dirprwy gadeirydd Josh. Mae Chloe a Josh yn Llysgenhadon Gwych dros fy swyddfa i.

Fe ges i fy nghroesawu gan gôr yr ysgol yn canu caneuon gwych i mi, gan gynnwys eu fersiwn eu hunain o ‘Ar Hyd y Nos’ gyda geiriau newydd. Fe wnes i gwrdd â masgot yr ysgol, ‘Roaring Rights’ (teigr eitha cwtshlyd yr olwg) a chlywed am yr holl bethau anhygoel mae aelodau’r cyngor ysgol wedi bod yn eu gwneud i sicrhau bod y disgyblion yn cael rhoi eu barn yn yr ysgol ac yn deall beth yw eu hawliau.

Fe ddwedson nhw wrtha i eu bod nhw’n gofalu bod posteri am hawliau plant yn cael eu harddangos ym mhob dosbarth, a’u bod wedi ysgrifennu am hawliau plant yn y llythyr newyddion i’r rhieni. O ganlyniad i gymryd rhan yn ein Tasgau Arbennig ar ginio ysgol, fe wnaethon nhw baratoi adroddiad i’r pennaeth ar y newidiadau allai gael eu gwneud, ac mae e bellach wedi trefnu bod cyngor yr ysgol yn cwrdd â benyw ginio’r ysgol i drafod y camau nesa.

Fe sonion nhw wrtha i hefyd eu bod nhw’n annog pawb yn yr ysgol i fod yn rhan o’n Tasgau Arbennig, ac fe wnes i ddiolch iddyn nhw am y gwaith celf gwych anfonon nhw i’m swyddfa – bydd yn cael ei arddangos yn ein pabell yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili ym mis Mai.

Diolch i Chloe, Josh a holl gyngor ysgol St Thomas am fy ngwahodd i. Fydda i byth yn anghofio fy ymweliad ysgol cyntaf fel Comisiynydd Plant!