Datgloi Breuddwydion Cudd Ymadawyr Gofal: Dechrau taith ledled Cymru

Yr wythnos hon rydw i wedi cychwyn ar y cyntaf o 22 o gyfarfodydd. Yn ystod yr wythnosau nesa bydda i’n ymweld â phob awdurdod lleol yng Nghymru i gwrdd â’r prif lunwyr penderfyniadau lleol: Prif Weithredwyr, arweinwyr etholedig a phenaethiaid gwasanaethau cymdeithasol, tai ac addysg. Bydda i’n gofyn iddyn nhw beth maen nhw eisoes yn ei wneud i sicrhau bod y bobl ifanc yn eu gofal yn cael cyfle i wireddu eu breuddwydion wrth dyfu’n oedolion, a pha gynlluniau sydd ganddyn nhw i wella’r hyn maen nhw’n ei wneud.

Mae hyn yn dilyn lansio fy adroddiad sbotolau ‘Breuddwydion Cudd’ ar 1af o Fawrth. Ynddo, fe dynnais i sylw at y ffaith nad yw’r holl bobl ifanc sy’n gadael gofal maeth neu ofal preswyl yn cael cyfle i gyflawni eu breuddwydion. Mae’r breuddwydion hynny mor amrywiol â’r rhai sydd gan bobl ifanc eraill yng Nghymru – cael bod yn gogydd, yn fecanig, yn filfeddyg, yn weithiwr cymdeithasol, yn actor, yn fydwraig neu’n hyfforddwr chwaraeon – a bod yn hapus ac yn ddiogel. Mae’r breuddwydion hynny i’w gweld yma. Gwaetha’r modd, mae llawer o bobl ifanc sy’n gadael gofal yn cael eu rhwystro gan dlodi, unigrwydd a diffyg tai diogel. Mae tua hanner ohonynt heb fod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn 19 oed.

Rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun rai enghreifftiau gwirioneddol dda o awdurdodau lleol yn helpu’r bobl ifanc sydd yn eu gofal mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau hyfforddi penodol, tai â chymorth, cyrsiau hyfforddi ar gyfer byw’n annibynnol a chanolfannau galw heibio i gael cyngor, cwmni a help ymarferol. Mae angen y math yma o help ar bob person ifanc sy’n gadael gofal, ble bynnag maen nhw’n byw. Mae ar bob person ifanc angen rhywle diogel i fyw, cefnogaeth emosiynol ac ymarferol, a chynnig o ran rhywbeth i’w wneud ar ôl ysgol, p’un a yw hynny’n golygu mwy o addysg, hyfforddiant neu swydd. Yn gyfreithiol, awdurdodau lleol yw ‘rhieni corfforaethol’ pobl ifanc sydd mewn gofal, ac mae angen iddyn nhw feddwl amdanynt eu hunain fel ‘cwmni teuluol’, yn rhoi help llaw i’w plant eu hunain.

Hyd yn hyn mae’r ymateb i’r adroddiad wedi fy mhlesio i’n fawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo gweithio tuag at ddileu peth o’r anghyfiawnder yn y system bresennol, fel y ffaith bod pobl ifanc sy’n gadael gofal preswyl yn cael llai o gefnogaeth yn 18 oed na’r rhai sydd mewn gofal maeth. Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Blant, Carl Sargeant, fwrsariaeth Gŵyl Ddewi gwerth £1 filiwn ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac ymadawyr gofal i’w helpu i wireddu eu breuddwydion. Hefyd, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi addo cefnogaeth ac wedi trefnu bod arweinwyr holl Gynghorau Cymru yn cefnogi’r adroddiad Breuddwydion Cudd. Rydyn ni hyd yn oed wedi cael cefnogaeth Michael Sheen, yr actor a’r ymgyrchydd enwog o Gymru, a recordiodd fideo cefnogol, a darllen cerdd (Saesneg yn unig) o waith ymadawyr gofal ifanc yn un o’n gweithdai.

Nawr rwy’n wir yn edrych ymlaen at deithio i bob cwr o Gymru, yng nghwmni rhai o’r bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith yma, i geisio sicrhau, ble bynnag yng Nghymru mae ymadawyr gofal yn byw, eu bod nhw’n cael cyfle cyfartal i wireddu eu breuddwydion.